Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Galw am gael gwared ar bresgripsiynau am ddim

Awst 31, 2011 19:49


Darren Millar
Mae ffigyrau newydd yn dangos fod nifer yr eitemau ar bresgripsiwn y pen yng Nghymru yn uwch nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.

Cynyddodd nifer yr eitemau ar bresgripsiwn gafodd eu dosbarthu gan Feddygon Teulu 3.3% – o 67.9 miliwn yn 2009-10 i 70.1 miliwn.

Roedd 23.2 eitemau ar bresgripsiwn wedi eu darparu fesul y pen yng Nghymru, o’i gymharu â 19.9 yng Ngogledd Iwerddon, 18.7 yn Lloegr a 17.6 yn yr Alban.

Costiodd yr eitemau ar bresgripsiwn £188 y pen, neu £594.33 miliwn i bawb yng Nghymru. Cafodd yr ystadegau eu cyhoeddi heddiw gan Lywodraeth Cymru.

Ers 2007 mae meddyginiaeth ar bresgripsiwn wedi ei ddarparu i bobol o Gymru sydd wedi eu cofrestru â meddyg teulu o Gymru, am ddim.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n ymroddedig i’r polisi, sydd o fudd i bawb yn y wlad, beth bynnag eu hincwm.

Ond mae Ceidwadwyr Cymru wedi dweud “nad oes modd cynnal” y system sy’n darparu eitemau ar bresgripsiwn am ddim i bobol Cymru.

Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar iechyd, Darren Millar, fod y system yn “anfforddiadwy ac eithafol”.

“Mae miliynau yn cael ei wario ar bils ac elïau sydd ar gael am geiniogau mewn archfarchnadoedd.

“Ar yr un pryd mae cleifion canser yn mynd heb 20 o gyffuriau sydd ar gael i gleifion yn Lloegr.

“Fe ddylai’r rheini sy’n gallu fforddio i dalu am eu presgripsiynau wneud hynny.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr etholiad eleni wedi dangos fod pobol Cymru wedi gwrthod polisïau iechyd y Ceidwadwyr ac yn cefnogi presgripsiynau am ddim.

Cyffuriau canser

Ddoe cyhoeddodd elusen Sefydliad y Canserau Anghyffredin fod pobol yng Nghymru pum gwaith yn llai tebygol o dderbyn cyffur canser newydd na chleifion yn Lloegr.

Ond dywedodd Dr Chris Jones, cyfarwyddwr meddygol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, nad oedd angen gwario rhagor o arian ar driniaeth canser yng Nghymru.

“Rydyn ni eisoes yn gwario £5 y pen yn ragor ar driniaeth canser nag yn Lloegr,” meddai.

“Mae’n bwysig cofio fod cyffuriau newydd yn cael llawer o sylw ond maen nhw’n aml yn aneffeithiol a ddim yn achub bywydau.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Jones , Awst 31, 2011 9:59 pm

Yawwwwn- ma na ryw obsesiwn am hwn!

§

Guto , Awst 31, 2011 11:13 pm

Be di’r ots am iechyd pobol a thynnu straen oddi ar y gwasanaeth iechyd? Pam ddim cael gwared ar y cyfan, i arbed chydig o bunnau? Ma’r Torïaid yn dechra dangos eu cardiau rwan, dwn im faint elwach fydda nhw o hynny.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.