Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Canllaw Cwpan Rygbi’r Byd 2011: Japan

Medi 3, 2011 15:00, Diweddarwyd Medi 4, 2011 10:58


Koji Taira (llun y Lolfa)
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o
wefan y Lolfa.

Bydd Siapan yn cynnal Cwpan Rygbi’r Byd yn 2019 a bydd y tîm yn awyddus iawn i ddangos eu bod nhw yn gallu cystadlu â’r goreuon…

Wrth gymhwyso ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn Seland Newydd, yng Ngrŵp Gwledydd Asia, cafodd Siapan y gorau ar Kazakhstan, Hong Kong, Gwlff Arabia a Korea, gan sgorio 326 o bwyntiau yn y 4 gêm honno.

Yng ngêmau hydref 2010 maeddodd hi Rwsia 75-3 a cholli 13-10 i Samoa. Daeth yn agos at faeddu’r Eidal fis diwethaf cyn colli 31 – 24.

Safle tebygol: Colli pob gêm

Y Record

Mae Siapan wedi cymryd rhan ym mhob Cwpan Rygbi’r Byd ers y dechrau yn 1987.

Er hynny, record siomedig iawn sydd ganddi a hithau wedi ennill un gêm yn unig, yn erbyn Zimbabwe yn 1991.

Pan gafodd gêm gyfartal yn erbyn Canada yng nghystadleuaeth 2007 dyna oedd y tro cyntaf iddi beidio â cholli mewn 13 o gêmau Cwpan Rygbi’r Byd dros 16 mlynedd.

Chwaraewr i’w wylio

Koji Taira

Canolwr cyhyrog 6’ 1’’ o daldra sydd wedi chwarae 23 o weithiau dros ei wlad.

Yng Nghwpan y Byd 2007 chwaraeodd ym mhob un o gêmau Siapan yn y rowndiau rhagbrofol.

Mae’n 28 oed ac wedi sgorio 8 cais i Siapan hyd yn hyn.

Mae’n chwarae i dîm Suntory Sungoliath a ddenodd chwaraewyr tramor fel George Gregan a Todd Clever yn ddiweddar.

Yr Hyfforddwr

John Kirwan

Rhwng 1984 a 1994 sgoriodd yr asgellwr John Kirwan 67 cais pan oedd yn gwisgo crys du tîm Seland Newydd, sy’n dal yn record yn ei wlad.

Bu hefyd yn chwarae yn yr Eidal a Siapan. Yn 2002 daeth yn hyfforddwr ar dîm yr Eidal ac yn ystod y ddwy flynedd

ddilynol llwyddodd hi i faeddu Cymru a’r Alban.

Ond ar ôl Pencampwriaeth Chwe Gwlad siomedig yn 2005 cafodd ei ddiswyddo a daeth yn

hyfforddwr ar dîm Siapan yn 2007.

Bu’n dioddef yn ddrwg o iselder ac oherwydd ei waith gwirfoddol ym maes iechyd meddwl, cafodd ei anrhydeddu ag MBE yn 2007.

A wyddoch chi?

Chafodd clybiau Siapan erioed broblem o ran cadw disgyblaeth ar y cae rygbi gan fod y chwaraewyr

yn gwybod y byddai’r gosb yn llym pe bydden nhw’n troseddu.

Cafwyd ffrwgwd mewn gêm rhwng dwy o unedau’r fyddin yn 1975. O ganlyniad, cafodd y ddwy uned eu diddymu, diswyddwyd eu pennaeth milwrol a gwaharddwyd pob un o’r chwaraewyr rhag chwarae am gyfnod amhenodol!

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


pedant , Medi 3, 2011 5:23 pm

Siom taw enw’r wlad yw Siapan yn y Gymraeg. Disgwyl gwell ddefnydd o’r iaith o newyddiaduddwyr Cymraeg

§

CGT , Medi 4, 2011 12:08 pm

Beth arall ydi’r enw ? – Siapan y gwelais ei erioed , a Japan glywais i erioed .

§

Iwan Rhys , Medi 4, 2011 1:04 pm

Disgwyl gwell *defnydd* o’r iaith *gan* newyddiaduddwyr Cymraeg.

;-)

§

Iwan Rhys , Medi 4, 2011 1:07 pm

Ha! Neu newyddiadurwyr hyd yn oed!

Deryn glân, ac ati!

§

Adam Jones , Medi 4, 2011 2:19 pm

Be fyddai’r enw delfrydol newydd ar gyfer Siapan tybed?

Ynys y Cefnfor Tawel?

Ynys yr Heulwen ?
Ynys y Smotyn Coch?

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.