Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Llanelli: Teyrngedau i lanc fu farw

Medi 4, 2011 16:38, Diweddarwyd am 16:39


Doc y Gogledd (Benjamin Wright/PA)
Mae cyfeillion wedi talu teyrnged i ddyn ifanc ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i’w gorff yn Noc y Gogledd Llanelli.

Cafodd corff y dyn – Jamie Phillips, yn ôl pobol leol – ei dynnu o’r dŵr ar ôl oriau o chwilio gan wylwyr y glannau, plymwyr yr heddlu, a chychod y gwasanaeth tân.

Cafodd Gwylwyr y Glannau Abertawe wybod fod dyn yn y dŵr tua 9am ddoe.

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys ganol y prynhawn eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff.

Ers i’r newyddion ddod i’r amlwg mai tua 1,400 o bobol wedi ymuno â thudalen Facebook er cof am Jamie Phillips.

“Mae pawb yn gweld dy eisiau di, roeddet ti yn fachgen ifanc caredig, hwyliog a chariadus,” meddai  un sylw.

Mae blodau wedi eu gadael gerllaw’r fan lle y bu Jamie Phillips farw. Dyw hi ddim yn amlwg eto pam ei fod wedi mynd i’r dŵr.

Dywedodd ffynonellau lleol fod yr heddlu yn ymchwilio i adroddiadau ei fod wedi mynd i nofio yn y doc ar ôl i gyfeillion ei annog i wneud hynny.

Dyw Heddlu Dyfed-Powys heb ei enwi eto ond wedi cadarnhau fod corff dyn wedi ei dynnu o Doc y Gogledd.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.