Caeau Clwb Rygbi Nant Conwy nos Fawrth
Dywed trefnwyr Gŵyl Gwydir ger Llanrwst fod y digwyddiad yn agos iawn i gael ei chanslo oherwydd llifogydd difrifol yn yr ardal ddechrau’r wythnos.

Mae’r digwyddiad wedi newid lleoliad eleni o ganol y dref i Glwb Rygbi Nant Conwy gerllaw er mwyn gallu ehangu a thyfu.

Roedd y penderfyniad hwnnw’n edrych fel camgymeriad dydd Mawrth wrth i’r Afon Conwy brofi llifogydd annisgwyl.

“Roedd y caeau rygbi i gyd o dan ddŵr ddydd Mawrth a bryd hynny roedden ni’n poeni’n arw am y digwyddiad” meddai un o’r trefnwyr, Gwion Schiavone.

“Mae pethau’n edrych yn llawer gwell erbyn hyn a bydd yr ŵyl yn mynd yn ei blaen, ond fod rhaid i ni wneud rhai mân newidiadau i’r trefniadau.”

Tyfu

Mae Gŵyl Gwydir yn cael ei chynnal am y drydedd flwyddyn yn olynol eleni ac yn ŵyl gerddoriaeth Gymraeg gyfoes sy’n llwyddo i dyfu heb unrhyw gymorth o’r pwrs cyhoeddus.

“Mae’r ŵyl wedi bod yn llwyddiant mawr dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac roedd hi’n bryd i ni drio ehangu” meddai Gwion Schiavone.

“Cafodd y clwb rygbi newydd ei agor yn swyddogol yn ddiweddar gan gynnig lleoliad amlwg i ni lle roedd lle i gael llwyfan a gweithgareddau tu allan, yn ogystal â gwersylla ar y safle.”

“Rydan ni wedi hen arfer â llifogydd yn yr ardal yma, ac mae’r Clwb Rygbi mewn ardal sydd dan fygythiad dros y gaeaf, ond doedden ni ddim yn disgwyl llifogydd fel hyn ar ddechrau mis Medi!”

Brwydro ymlaen, ond addasu

Yn ôl Gwion Schiavone, maen nhw’n benderfynol i’r ŵyl fynd yn ei blaen, ond bod rhaid newid rhywfaint ar y cynlluniau.

“Bydd yn mynd yn ei blaen – mae gormod o bobol, yn edrych ymlaen gormod i ni ystyried gohirio. Mae’r rhagolygon yn edrych yn llawer gwell ar gyfer y penwythnos hefyd sy’n rhyddhad.“

“Er hynny, mae’r amgylchiadau’n golygu bod rhaid i ni addasu rhywfaint ar bethau.”

Mwy o dan do

Yn ôl y trefnwyr, bydd llai o weithgareddau’r penwythnos yn cael eu cynnal yn yr awyr agored rŵan oherwydd y tywydd.

“Roedd yn fwriad i ddefnyddio rhai o’r caeau fel lle parci, ond yn amlwg mae hynny’n anodd bellach felly rydan ni am ddefnyddio mwy o’r tir sych o amgylch y clwb.”

“Oherwydd hynny, mae llai o le i’r gweithgareddau tu allan, felly bydd mwy o stwff dan do.”

“Ar un pryd roedd hi’n edrych yn o ddu, a gan ein bod yn ŵyl wirfoddol, gwbl annibynnol fe alla’i hynny fod wedi bod yn ddiwedd ar yr ŵyl.”

“Diolch byth, dim ond mater o addasu rhywfaint sy’n rhaid ac rydan ni’n gobeithio bydd digon o bobol yn dod i gefnogi’r bandiau gwych sy’n perfformio.”

Yr arlwy

Fe fydd Gŵyl Gwydir yn cael ei chynnal dros y penwythnos felly, gan ddechrau am 8:30 nos fory gyda Cowbois Rhos Botwnnog ac Y Niwl yn brif atyniadau.

Bydd cerddoriaeth a gweithgareddau trwy’r dydd Sadwrn hefyd gan gynnwys perfformiadau gan y Sibrydion, Yr Ods, Jen Jeniro a Colorama.

Mae holl fanylion y penwythnos i’w canfod ar wefan Gŵyl Gwydir.