Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Radio Cymru/S4C – ‘Nid ymgais i arbed arian’

Medi 20, 2011 15:19, Diweddarwyd Medi 21, 2011 15:49


Elan Closs Stephens
Mae cynrychiolydd Cymru ar Ymddiriedolaeth y BBC wedi amddiffyn yr argymhelliad y gallai Radio Cymru ac S4C gydweithio’n agosach yn y dyfodol.

Yn ôl Elan Closs Stephens, sy’n rhan o’r Ymddiriedolaeth a fu’n cynnal arolwg diweddar o wasanaeth BBC Radio Cymru a nifer o orsafoedd radio eraill y BBC, mae’n bwysig bod trafodaeth yn digwydd rhwng y ddau gorff.

“Mae’r ddau gyfrwng yn diwallu anghenion cynulleidfa Cymraeg eu hiaith,” meddai Elan Closs Stephens, a ymunodd ag Ymddiriedolaeth y BBC ym mis Hydref y llynedd.

Dywed yr adroddiad, a gyflwynwyd i staff y gorfforaeth ddydd Gwener ddiwethaf, bod “sawl gorsaf wedi awgrymu posibiliadau ar gyfer partneriaethau,” ac mae’r Ymddiriedolaeth yn dweud eu bod yn “croesawu’r cynlluniau hyn.”

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud bod “Gweithrediaeth y BBC yn bwriadu gwella gwerth am arian drwy geisio cyfleoedd i gydweithio gydag amrywiaeth eang o gyrff allanol gan gynnwys sefydliadau Cymraeg ac S4C,” cyn ychwanegu bod “ôl meddwl ar strategaeth Radio Cymru ond bydd yn rhaid ailedrych arni yng ngoleuni’r setliad diweddaraf ar gyfer ffi’r drwydded.”

Ond yn ôl Elan Closs Stephens nid ymgais i arbed arian yw argymell cydweithio gydag S4C.

“Dylai trafodaeth fod yn digwydd rhyngddyn nhw beth bynnag,” meddai Elan Closs Stephens wrth Golwg 360, “ac mae ’na lawer o gydweithredu eisoes yn digwydd gydag hysbysebion ac yn y blaen.”

Dim bwriad gan y BBC i ‘ymyrryd’

Roedd Elan Closs Stephens hefyd yn gwrthod yr honiad fod annog cydweithio rhwng y BBC ac S4C yn rhagor o dystiolaeth bod y gorfforaeth Brydeinig yn ceisio llyncu’r sianel.

“Annog pobol i feddwl am ffyrdd i weithio’n ymhelaethach yw’n amcan ni,” meddai, gan ddweud nad oedd y drefn ariannu newydd rhwng y BBC ac S4C yn rhoi “dim mwy o ryddid i ni ymyrryd yng ngwaith S4C.”

Mae’r adolygiad yn rhan o drefn newydd o fewn y BBC, sy’n bwriadu cynnal arolwg o bob un o wasanaethau’r gorfforaeth bob pum mlynedd, trwy ystyried gwybodaeth gan ddefnyddwyr a chynhyrchwyr y gwasanaethau.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Jones , Medi 20, 2011 7:51 pm

Ma nhwn gweithio gydai gilydd yn barod yn tydy?
e.e yn y ‘steddfod roedd sylwebaeth Radio Cymru ar seremoni y coroni/cadeirio.

Pam ddim cael sylwebaeth Rygbi yr un peth i’r ddau? (a hefyd i BBC Radio Wales / One Wales).

Oherwydd rhaid i mi ddeud dwi’n eithaf blin gweld gymain o bobol o BBC Cymru a BBC Wales a S4C lawr yn Cwpan y Byd- PAM!!??

§

Nigel Williams , Medi 21, 2011 11:43 am

Bwrdd Bradychu Cymru – cofiwch sut gafodd y rhai hynny wnaeth gymryd swydd Saunders gael eu trin.

Bydd ysbryd Gwynfor yn gysgod ar Elan !

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.