Mae anghytuno ynglŷn â  dylid cosbi’r person wnaeth ddechrau tudalen Facebook oedd yn gwawdio marwolaethau pedwar glowr  o Gwm Tawe.

Daw hyn wedi i Heddlu De Cymru gadarnhau eu bod yn ymchwilio i dudalen a ymddangosodd ar wefan gymdeithasol Facebook a oedd yn gwneud hwyl am ben marwolaeth y pedwar glöwr ym mhwll glo Gleision ger Pontardawe.

Credir bod yr heddlu wedi derbyn nifer o gwynion am y dudalen sydd bellach wedi cael ei dynnu oddi ar Facebook.  Mae ’na alw ar i’r person sydd y tu ôl i’r dudalen gael ei gosbi’n llym.

Er bod  y safle wedi  honni mai’r bwriad oedd “tynnu coes”, roedd teitl y wefan yn sôn am farwolaeth y pedwar gan ddweud “LOL” – laugh out loud – am mai Cymry oedden nhw. Dywedodd yr heddlu bod y sylwadau wedi peri gofid i deuluoedd y glowyr a’r gymuned.

“Does ’na ddim amheuaeth eu bod nhw’n sylwadau gwirion, twp a hollol ansensitif. Ond, mae hynny yn amherthnasol lle mae’r gyfraith yn y cwestiwn,” meddai Dylan Llyr o Gaernarfon, awdur blog Anffyddiaeth wrth Golwg360.

“Dydw i ddim yn meddwl bod sylwadau o’r fath yn rhywbeth troseddol o gwbl.  ‘Dw i’n meddwl bod ni’n gosod cynsail peryglus iawn os yw pobl yn gallu cael eu carcharu – bod grym gwladwriaeth yn dod ar eu pennau am ddweud pethau ar y we,” meddai.

‘Gosod cynsail peryglus’

“Does dim amheuaeth bod y sylwadau’n ansensitif,” meddai Dylan Llyr  “ond, pan ‘da chi’n galluogi’r Llywodraeth i garcharu pobl am bethau maen nhw wedi’i ddweud ar y we – rydach chi’n gosod cynsail peryglus wedyn. Mae China yn carcharu pobl drwy’r amser am ddweud pethau sy’n ypsetio trigolion China er enghraifft,” meddai.

“Mae’n ddyletswydd statudol i’r Heddlu ymchwilio i unrhyw gwyn maen nhw’n ei dderbyn – dydi hynny  ddim yn golygu llawer ynddo’i hun. Ond, dw i’n weld o ’chydig yn drist bod pobl yn mynd at yr heddlu jest am bethau mae pobl wedi’i ddweud ar y we. Os oes ’na rywbeth yn dod o hyn a bod yr Heddlu’n erlyn, yna ma’ hynny yn warthus,” dywedodd.

Fe ddywedodd na ddylai “bod yn dwp ac ansensitif” fod yn anghyfreithlon ac y dylai pobl fod yn rhydd i  rannu rhyddid barn.

“Cyfrwng ydi’r we, Facebook a Twitter. Be tasa pobl yn cael eu gor-glywed yn gwneud jôc am y peth mewn tafarn? Mae union yr un peth. Felly, dydw i ddim yn gwybod pam bod safonau gwahanol yn perthyn i’r we. Maen nhw’n haeddu cael ei beirniadu ond ddim byd i wneud gyda’r heddlu.”

Roedd yn credu fod y datblygiadau diweddaraf ym Mhrydain yn “eithaf  pryderus”.

“Pobl yn cael eu carcharu am bethau maen nhw wedi’i ddweud ar Facebook,” meddai gan gyfeirio at ddedfrydau diweddar yn dilyn y terfysgoedd, ac achos arall ble gafodd dyn ei arestio ar ôl gwneud joc ar wefan Twitter yn datgan  y byddai’n bomio maes awyr petai ei daith awyren yn cael ei oedi.

‘Angen cosbi’

Ond, yn ol Ceri Philips o Gaerdydd sydd wedi ffonio’r Heddlu i gwyno am y dudalen Facebook, mae’r sawl wnaeth ei sefydlu yn haeddu cosb. “Dw i’n meddwl dylai awdurdodau drio cosbi rhywsut,” meddai wrth Golwg360.

“Gyda’r terfysgoedd – mae llwyth o bobl wedi cael carchar am annog pobl i wneud stwff.  ‘Dw i’n gwybod bod hynny yn beth gwahanol, ond bron bod hyn yn waeth achos mae’n fater hollol sensitif ac maen nhw’n gwybod hynny.

“Roedd o bron fel eu bod nhw wedi creu’r dudalen Facebook hwn er mwyn pigo ar Gymru,” meddai. “Does dim byd fel hyn wedi digwydd ers blynyddoedd yn ne Cymru. Mae’r gymuned i gyd wedi’u heffeithio gan y peth, wedyn mae un person yn achosi mwy o boen iddyn nhw.

“Yn sicr, dw i’n meddwl y dylai gael carchar neu ryw gosb fel gwaharddiad rhag defnyddio Facebook a Twitter am weddill ei oes. Be sy’n ei rwystro rhag gwneud hyn eto fel arall?

“Mae gan bawb hawl i leisio barn ond mae hyn tu hwnt i leisio barn. Mae’n hiliol yn erbyn y Cymry i ddechrau ac yn hollol ansensitif,” meddai Ceri Philips cyn dweud y byddai rhyw fath o gosb yn “rhybudd” i eraill hefyd.