Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Newidiadau munud ola’ i gyngerdd Michael Jackson

Hydref 5, 2011 12:18



Llai na thridiau cyn i gyngerdd deyrnged enfawr gael ei gynnal i gofio Michael Jackson yng Nghaerdydd, mae un o fandiau mawr y noson wedi tynnu’n ôl.

Dim ond wythnos yn ôl fe gyhoeddodd y Black Eyed Peas y bydden nhw’n perfformio yn y gyngerdd, sy’n cynnwys grwpiau fel JLS a Christina Aguilera. Ond heddiw mae’r grŵp wedi dweud bod yn rhaid iddyn nhw dynnu’n ôl oherwydd “sefyllfa na ellir ei osgoi.”

Bydd y Michael Forever Tribute Concert yn cael ei gynnal yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd ddydd Sadwrn hyn, ac mae’r gyngerdd wedi profi mor boblogaidd nes bod pob tocyn wedi gwerthu, a bwriad erbyn hyn i we-ddarlledu’r gyngerdd yn fyw o Stadiwm y Mileniwm ar wefan Facebook.

Dyma fydd y tro cyntaf i we-ddarllediad o’r fath, sy’n costio rhyw £3 i’w wylio, gael ei gynnal ar y wefan gymdeithasu.

Yn ôl Prif Weithredwr Global Events Live sy’n cynnal y sioe, Chris Hunt, mae’r digwyddiad yn argoeli i fod yn “noson anhygoel i bawb”.

“Mae pethau’n dod i’w lle yn dda iawn nawr” meddai.

Cyngor i deithwyr

Yn y cyfamser, mae’r rhai sydd wedi cael tocynnau i’r gyngerdd yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bynnag bod hynny’n bosib, er mwyn osgoi  tagfeydd traffig yn y brifddinas.

Y cyngor i’r rhai sydd yn gorfod dod â cheir, medd y trefnwyr, yw i ddefnyddio gwasanaeth Parcio a Theithio y cyngor o’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, neu i ddefnyddio’r gwasanaeth gwennol arbennig o Clôs Sophia.

Mae’r cyngor hefyd yn bwriadu cau rhai strydoedd yn ystod y gyngerdd nos Sadwrn, gyda Stryd Westgate ar gau o 4pm hyd 11pm, ac ar hyd Wood Street o 10pm i 11pm.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Rhian , Hydref 5, 2011 9:20 pm

Rhyfedd bod ‘pob tocyn wedi ei werthu’ ond heddiw daeth cynnig arbennig o docynnau fwy neu lai hanner pris drwy’r gwasanaeth ‘Living Social’ ar ebost…

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.