Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Alfie ar ei ffordd i Wigan?

Hydref 8, 2011 17:16, Diweddarwyd Hydref 9, 2011 09:24


Y si yw y bydd y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol a chapten Cymru, Gareth Thomas, sy’n awr yn chwarae rygbi’r gynghrair, yn gadael y Crusaders ac yn chwarae i Wigan yn y dyfodol.

Mae tîm chwaraeon y BBC yn dweud y bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud mewn cynhadledd i’r wasg dydd Mawrth nesaf. Dywedir hefyd mai Shaun Wane fydd hyfforddwr newydd y Wigan Warriors, ac mai’r Cymro Iestyn Harris fydd yn ei gynorthwyo.

Penderfynodd Harris adael ei swydd yn hyfforddi’r Crusaders yn Wrecsam pan benderfynodd y clwb hwnnw adael yr Uwch Gynghrair (Super League).

Nid yw Gareth wedi chwarae ers mis Gorffennaf ar ôl torri ei fraich, ond mae’n debyg y bydd yn chwarae i Gymru ar 22 Hydref pan fydd y Cymry yn wynebu Iwerddon yng Nghastell-nedd.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.