Arthur Scargill
Mae Arthur Scargill wedi condemnio Plaid Cymru am gefnogi adeiladu gorsaf niwclear Wylfa B ar Ynys Môn, tra ar ymweliad â gogledd Cymru yr wythnos hon.

 Roedd sylfaenydd ac Arweinydd y Blaid Lafur Sosialaidd yng Nghaergybi nos Fawrth ac ym Mangor nos Fercher, i siarad yn erbyn ynni niwclear.

Mewn cyfweliad gyda Golwg360 roedd yn beirniadu penderfyniad Plaid Cymru yn ei chynhadledd ddiweddar i gefnogi adeiladu atomfa niwclear Wylfa B, wedi blynyddoedd maith o wrthwynebu codi atomfeydd niwclear newydd.

“Rhagrith llwyr yw polisi Plaid Cymru,” meddai Arthu Scargill. “Fedrwch chi ddim cael trefn mewn lle sy’n gwrthwynebu pŵer niwclear, fel maen nhw wedi honni ei gael dros y blynyddoedd, ac yna cyflwyno esgus i barhau gyda datblygu ynni niwclear, fel maen nhw wedi ei wneud – meddan nhw – er mwyn darparu swyddi.

“Mae’n nonsens, fel maen nhw’n ei wybod yn iawn, a bydde hi’n llawer rheitiach iddyn nhw tasen nhw o leia’n cyfaddef eu bod nhw wedi dweud celwydd wrth bobol Cymru.”

Yn ystod ei araith ym Mangor roedd Arthur Scargill yn egluro’i fod wedi gwrthwynebu’r diwydiant niwclear ers 1957. Bryd hynny mi welodd ferch o Japan ar lwyfan yn egluro ei bod yn marw oherwydd yr ymbelydredd yn ei chorff.

Roedd yr ymbelydredd wedi deillio o’r bom niwclear gafodd ei ollwng gan America ar Nagasaki ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

“Mae pŵer niwclear yn ei holl ffurfiau, milwriaethol ac yn yr ystyr sifil, yn ddieflig,” meddai Arthur Scargill mewn ymosodiad di-flewyn ar dafod ar y diwydiant.

Er bod son am greu 6,000 o swyddi i adeiladu Wylfa B, yn ôl Arthur Scargill dim ond 500 o swyddi parhaol fyddai ar y safle.

“Mae ganddoch chi adnoddau glo anferthol yng Nghymru a byddai llawer iawn mwy yn cael eu cyflogi mewn diwydiant glo nag mewn diwydiant niwclear,” meddai’r cyn-lowr.

Thatcheriaeth yn dymchwel

Ar ddiwrnod ymweliad Arthur Scargill â Bangor roedd ffigyrau swyddogol yn dangos bod nifer y diwaith ym Mhrydain wedi codi i’w lefelau uchaf ers 17 o flynyddoedd.

Yn ystod ei araith fe ddywedodd bod “cyfalafiaeth mewn creisus”, ac mai polisïau Margaret Thatcher oedd wrth wraidd y trafferthion ariannol presennol.

Yn 1984 mi wnaeth Arthur Scargill, tra’n Lywydd Undeb y Glowyr, arwain streic enwog yn erbyn Llywodraeth  Thatcher, gan fynnu bod y Ceidwadwyr yn dymuno chwalu’r diwydiant glo ym Mhrydain.

Chwalodd y streic wrth i lowyr ddychwelyd i’w gwaith, a chrebachu’n arw wnaeth y diwydiant glo.

Yn ôl Scargill rhaid troi’r cloc yn ôl a gwladoli’r diwydiannau trwm eto, a chael economi yn seiliedig ar gynhyrchu nwyddau.

“Rwy’n credu, yn hwyr neu’n hwyrach, y bydd pobol yn troi at Sosialaeth,” meddai.

“Bydd oblygiadau ariannol y trafferthion rydan ni’n wynebu heddiw yn fwy garw na all neb ei ddeall.

“Yr unig ateb yw adfywio diwydiannau cynhyrchu sydd wedi eu distrywio ledled Prydain. Er enghraifft ein diwydiant adeiladu cychod, ein diwydiant dur, ein diwydiant ceir, peirianneg ysgafn a thrwm, y diwydiant glo.

“Rhaid adfer y diwydiannau hyn, gan gynnwys pysgota, yn ôl i’r hyn oedden nhw, a bydd hynny’n creu’r math o economi yr yden ni angen.

“Ac mae’n rhaid i ni roi’r gorau i fewnforio nwyddau o dramor a thyfu a defnyddio ein [nwyddau] ein hunain.

“Fedrwn ni gynhyrchu’r holl fwyd rydan ni ei angen yma ym Mhrydain. Pam yden ni’n mewnforio tatws? Fedrwn ni eu tyfu nhw.”

Margaret Thatcher?

Yn y 1980au roedd Prif Weinidog Prydain, Margaret Thatcher, yn cyfeirio at Arthur Scargill fel “y gelyn mewnol”.

Dros chwarter canrif ers streic enwog 1984-85, beth yw barn Arthur Scargill ar y Ddynes Ddur?

“Fydda i byth yn trafod unigolion amherthnasol, rwy’n credu y byddwn yn iselhau fy hun trwy wneud hynny,” meddai’r gŵr sy’ bellach yn 73 oed ond yn edrych o leiaf deng mlynedd yn fengach.