Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Y cenedlaetholwr o Lydaw, Yann Fouere, yn marw yn 101 oed

Hydref 24, 2011 10:55


Llun: Fondation Yann Fouere
Fe fu farw’r cenedlaetholwr o Lydaw, Yann Fouere ar 20 Hydref yn 101 oed.

Cafodd ei eni yn Aignan, Gers, yn Ffrainc yn 1910.

Yann Fouere oedd un o sefydlwyr a Llywydd ‘Ar Brezhoneg er Skol’ yn 1934, sef undeb ar gyfer dysgu Llydaweg yn yr ysgolion, a bu’n  Is-Lywydd ‘Union Regionaliste Bretonne’ yn y 1930au.  Fe ddaeth yn ysgrifennydd cyffredinol ar ‘Comite Consultatif de Bretagne’ a sefydlwyd er mwyn trafod hawliau Llydawyr, a bu’n olygydd/cyfarwyddwr gwleidyddol dau bapur dyddiol Llydaweg ‘La Bretagne’ ac yn ddiweddarach ‘L’Avenir de La Bretagne’. Roedd hefyd yn un o sefydlwyr y Gyngres Geltaidd ym 1961.

Cafodd ei alltudio o Lydaw yn dilyn yr Ail Ryfel Byd pan gafodd miloedd o Lydawyr eu harestio gan awdurdodau Ffrainc am hybu’r iaith a’i diwylliant.  Cafodd loches yn gyntaf yng Nghymru gyda Gwynfor Evans, DJ Williams a Gwenallt ymhlith eraill, cyn symud i  Connemara yn Iwerddon lle bu’n byw gyda’i deulu am gyfnod hir cyn i’r awdurdodau yn Ffrainc ganiatau iddo ddychwelyd i fyw i Lydaw.

Lansiwyd cyfieithiad Saesneg o’i lyfr ‘La Maison’ in Connemara yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 16 Medi eleni yng nghwmni ei ferch Rozenn Fouere Barrett a’i fab Erwan Fouere.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Gareth Evans , Hydref 24, 2011 2:25 pm

Coffa da am Yann Fouere yn ymweld â Chymru. Gwr addfwyn a chanddo weledigaeth werth ei thrysori – ef ac eraill o’i genhedlaeth. Trueni ( a gwarth ) na chafodd weld ei Lydaw annwyl yn dod yn rhydd yn ei ddydd ef. Heddwch i’w lwch.

§

Ruadhán Ó Gliosáin , Hydref 24, 2011 3:51 pm

Rwy’n cyhoeddi fersiwn Gwyddelig o’r http://wp.me/p1T9ro-x

§

Siôn , Tachwedd 15, 2011 9:21 am

Dyn dewr. Dyn a ddioddefodd am iddo eisiau dim mwy na pharch i Lydaw a’i hiaith. Mae’r ffordd y cafodd ei drin yn warth ar Ffrainc ac ar asgell chwith Jacobinaidd y wladwriaeth honno.

Ceir mwy o wybodaeth ac erthyglau amdanno ar wefan Sefydliad Yann Fouere:

http://www.fondationyannfouere.org/english/

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.