Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Pryder’ bod nifer y gwelyau mewn ysbytai yn dal i ostwng

Hydref 25, 2011 15:02, Diweddarwyd am 15:10


Kirsty Williams
Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, wedi mynegu ei phryder am ystadegau sydd wedi eu cyhoeddi heddiw sy’n datgelu bod nifer y gwelyau mewn ysbytai, yn parhau i ostwng.

Yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill  2010 a 31 Mawrth 2011 roedd 6% o welyau y GIGwedi eu colli yng Nghymru –  gostyngiad o  719 i 12,149 -  y gostyngiad mwyaf ers deng mlynedd.

Dywedodd Kirsty Williams, llefarydd iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol: “Mae’n peri pryder bod gwasanaethau’r GIG yng Nghymru yn cael eu gwasgu’n gynyddol drwy ddiffyg adnoddau sylfaenol fel gwelyau… Rydw i’n siomedig iawn bod y duedd yma yn gwaethygu ac nad yw’r broblem yma wedi cael ei ddatrys yn llwyddiannus am fwy na deng mlynedd.”

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.