Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Dim e-lyfrau Cymraeg ar Amazon a Kindle erbyn y Dolig’

Hydref 31, 2011 15:14, Diweddarwyd am 17:18


Mae’r Lolfa wedi dweud wrth Golwg360 eu bod yn “siomedig” na fyddan nhw yn gallu manteisio ar gyfnod prysur y Nadolig i werthu llyfrau Cymraeg ar Amazon.

“Fydd dim yn digwydd cyn y ‘Dolig,” meddai Lefi Gruffudd, pennaeth golygyddol y Lolfa wrth Golwg360.

Fis Medi, fe wnaeth y Lolfa dderbyn ymateb “ychydig yn fwy cadarnhaol” gan Amazon ynglŷn â’u cais i werthu llyfrau Cymraeg ar Kindle, ond does dim wedi dod o’r ymateb hyd yma, meddai Lefi Gruffudd.

“Roedden ni wedi gobeithio am ffordd o gael e-lyfrau lan ar Amazon a Kindle cyn y Dolig, ond dyw e’ ddim yn edrych fel bod hynny yn mynd i ddigwydd,” meddai.

‘Ar ei hôl hi’

“Dw i’n teimlo’n siomedig na fydden ni’n gallu manteisio ar  farchnad e-lyfrau Amazon dros y Dolig,” meddai.

Dywedodd y byddai strategaeth y Cyngor Llyfrau yn “rhoi modd o gael arian” i’r Lolfa at gynhyrchu’r e-lyfrau .“Dydy e ddim werth e’n ariannol i ni dalu i gynhyrchu nhw heb fod ni’n cael cymhorthdal ato mewn ffordd. Does dim byd ar gael nes bod hwn yn cael ei orffen.

“Ma’ fe’n sefyllfa anffodus. Rydan ni’n ofni bydd pobl yn mynd i’r arfer o brynu e-lyfrau Saesneg heb brynu rhai Cymraeg  – neu ddim yn gwybod bod rhai Cymraeg ar gael. Ma’ fe bach o ofid i ni yn sicr,” meddai. “Os ti ar ei hôl hi, ti am gael dy weld ar ei hôl hi. Ar hyn o bryd, ni mewn tipyn o limbo – a fedrwn ni ddim manteisio’n llawn dros y Dolig.”

Er hyn, bydd pobl yn gallu prynu e-lyfrau oddi ar wefan y Lolfa dros y Nadolig, meddai Lefi Gruffudd.

‘Cychwyn taith’

Fe ddywedodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru wrth Golwg360 fod y Cyngor Llyfrau “yn bwrw ymlaen hefo’r gwaith o ddatblygu maes e-gyhoeddi ac yn rhoi sylw i elfennau gwahanol o’r gwaith ar hyn o bryd”.

“Mae Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi comisiynu mewn cydweithrediad ag adran ddylunio’r Cyngor i baratoi canllawiau cyhoeddi a fydd yn gynhorthwy ymarferol i’r cyhoeddwyr.

“Mae’r Cyngor hefyd yn awyddus i sicrhau bod siopau llyfrau yn ogystal â gwefan Gwales yn abl i werthu e-lyfrau maes o law ac mae’r gwaith datblygu technegol ar waith ar hyn o bryd.

“Cychwyn yn unig y mae’r daith hon ac mae cyfnod o ddatblygu ac arbrofi o’n blaen er mwyn sicrhau bod llyfrau o Gymru yn manteisio’n llawn ar dechnoleg sydd yn  datblygu’n  ddyddiol bron.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Steffan Llysdinam , Hydref 31, 2011 7:56 pm

Mae diffyg lyfrau llafar yn y Gymraeg yn peri pryder tra bod y diwydiant yn ffynnu yn Saesneg. Ond diwedd y gan yw’r geiniog. Mae’n gostus i recordio llyfrau llafar yn ol y gweisg. Ond gan fod clywed yr iaith wrth ddarllen yn help enfawr i blant wrth ddysgu sut i ddarllen, allai mwy o lyfrau llafar helpu llythrennedd y genedl?

§

Jones , Tachwedd 1, 2011 10:39 am

Pethau syml fel hyn y dylai Llywodraeth Cymru anog, nid creu ryw polisiau iaith. Fysa cael llyfrau llafar yn y Gymraeg yn wych i nifer fawr o dysgwyr ifanc sydd efallai ddim hefo rhieni Cymraeg.

§

Martin , Tachwedd 1, 2011 11:27 am

Dyw’r erthygl ddim yn son am lyfrau llafar; e-lyfr yw’r gwrthrych.
Math o lyfr ‘meddalwedd’ fedrith rywun ddarllen ar declun fel y ‘Kindle’, a llawer o rai eraill gan gynnwys ‘iPad’ cwmni Afal.

Yr hyn sy’n fy siomi yw sylw gan y Cyngor Llyfrau yn dweud eu bod yn ‘bwrw ‘mlaen hefo’r gwaith o ddatblygu’r maes’… – mi fuaswn i wedi disgwyl erbyn hyn y buasai e-lyfrau ar gael yn Gymraeg (a Saesneg) o wefan Gwales.

§

Eifion Williams , Tachwedd 1, 2011 12:23 pm

Rwy’n yn gwybod be ydy rhifau gwerthiant llyfrau Cymraeg a rhai Saesneg yng Nghymru? Fuasa diddorol gweld nhw. Cytuno Martin, lle mae Cyngor Llyfrau wedi bod? ‘Mynd i ddatblygu’r maes…’

§

Cromen , Rhagfyr 14, 2011 10:42 am

e-lyfrau Cymraeg ar gael o wefan Cromen – http://www.cromen.co.uk – fel ffeiliau epub ar gyfer iPad ac fel mobi ar gyfer Kindle.

Dim ond 2 lyfr ar hyn o bryd ond mae’r fenter am dyfu!

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.