Mae arweinydd Cyngor Sir Benfro wedi croesawu’r newyddion y gallai 500 o swyddi ddod i Hwlffordd, ar ôl i Sainsbury’s gyhoeddi eu bod nhw’n ystyried adeiladu archfarchnad newydd yn y dre.

Yn ôl y cynghorydd John Davies, mae’r newyddion yn hwb arall i economi Sir Benfro, llai na phythefnos wedi iddi ddod i’r amlwg fod cwmni Conygar wedi gwneud cais cynllunio i ehangu marina Abergwaun.

“Mae hwn yn gynnig cyffrous iawn i’r sir, a’r dref yn arbennig, gyda’r posibilrwydd o gael nifer uchel o swyddi llawn amser a rhan amser,” meddai John Davies.

“Mae’n galonogol iawn fod archfarchnad blaenllaw fel Sainsbury’s wedi bod â’r hyder i ymrwymo i beth allai fod yn fuddsoddiad enfawr yn Sir Benfro yn yr hinsawdd economiadd presennol.”

‘Manteisiol i fasnachwyr eraill’

Yn ôl swyddog datblygu rhanbarthol Sainsbury’s Graham Wilson, mae’r cwmni eisiau “datblygu siop fodern a fyddai’n cynnig ystod unigryw o gynnwys.

“Rydyn ni hefyd eisiau gweithio gyda thrigolion lleol a chynghorwyr i wella mynediad ar droed a cherbydau i’r dre, a fyddai’n fanteisiol i fasnachwyr eraill hefyd,” meddai.

“Byddai ein cynigion hefyd yn creu nifer fawr o swyddi i bobol leol. Mae gan weithwyr y cyfle i ddilyn ystod eang o yrfaoedd, cael cymwysterau a manteisio o amgylchfyd gwaith hyblyg i gwrdd â’u hanghenion.”

Archwilio’n fanwl

Mae Sainsbury’s, sydd eto i gyflwyno eu cais cynllunio i’r cyngor, yn addo creu 500 o swyddi os bydd caniatad yn cael ei roi ar gyfer siop 60,000 o droedfeddi sgwâr.

Mae’r tir a’r cynlluniau ar gyfer y siop, yn ogystal a datblygiad o 900 o dai gerllaw, yn berchen i gwmni Conygar ar hyn o bryd – ac fe fydd y cynlluniau yn cael eu harddangos i’r cyhoedd yr wythnos nesaf, cyn i’r broses gynllunio ddechrau.

Yn ôl y cynghorydd John Davies bydd yn rhaid i’r cynlluniau datblygu gael eu harchwilio’n fanwl fel rhan o’r broses gynllunio cyn bod y cynlluniau yn cael eu gwireddu.

Ond dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor wrth Golwg 360 nad oedd gwrthwynebiad i’r cynlluniau wedi dod at sylw’r Cyngor hyd yn hyn, er ei bod hi’n dal yn gynnar iawn yn y broses ar hyn o bryd.