Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Hain yn ‘codi ofn’ am bwerau trethi i Gymru

Tachwedd 3, 2011 14:53, Diweddarwyd am 14:55


Peter Hain
Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyhuddo Peter Hain o “godi ofn diangen” ar bobol ynglŷn â’r posibilrwydd o roi mwy o bwerau trethi i Gymru.

Yn ôl r cyn-Ysgrifennydd Cymru Peter Hain, fe fyddai trosglwyddo pwerau trethi i Gymru trwy Gomisiwn Silk yn “dinistrio’r”  genedl.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin y prynhawn yma, dywedodd Peter Hain fod “Comisiwn Holtham wedi darganfod fod o gwmpas £17.1 biliwn o refeniw trethi yn cael eu codi yng Nghymru bob blwyddyn. Mae cyfanswm gwariant cyhoeddus yng Nghymru o gwmpas £33.5 biliwn – bron i ddwywaith y cyfanswm sy’n cael ei godi yma.

“Dylen ni ddim bod â chywilydd o hynny,” ychwanegodd, “Mae anghenion Cymru yn fwy na nifer o ardaloedd eraill o’r Deyrnas Unedig.”

Rhybuddiodd yr Aelod Seneddol Llafur ei fod yn “amheus iawn o agenda’r Toriaid wrth gyflyno Comisiwn Silk” – gan ddweud ei fod yn credu bod y Ceidwadwyr yn ceisio “dadlwytho eu dyletswyddau ariannol” trwy roi cyfrifoldeb trethi ar Gymru.

Ond yn ôl Cheryl Gillan, roedd Peter Hain yn ceisio “codi ofn diangen ymhlith pobol Cymru,” gan wadu y byddai unrhyw newid trwy’r Comisiwn Silk yn arwain at haneru’r arian sydd ar gael i Gymru.

“Gall unrhyw ffŵl wario arian, beth sy’n rhaid i ni gael yw atebolrwydd,” meddai Cheryl Gillan.

“Mae’n siwr ei bod hi’n well i’r sefydliadau datganoledig fod yn atebol i bobol Cymru, nid yn unig am y penderfyniadau ar wariant cyhoeddus yng Nghymru, ond wrth fod yn gyfrifol am godi peth o’r arian sydd ei angen  er mwyn talu am y penderfyniadau hynny.”

Yn ôl Cheryl Gillan mae diffyg atebolrwydd yn y  system bresenol – lle mae Trysorlys San Steffan yn rhoi grant blynyddol i Fae Caerdydd.

Bydd y Comisiwn Silk, dan gadeiryddiaeth Paul Silk, yn cyfarfod am y tro cyntaf yng Nghanolfan y Mileniwm yfory, gyda’r gwaith o ymchwilio i’r angen o roi pwerau trethi i Gymru.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Tomos Dafis , Tachwedd 3, 2011 5:49 pm

Be yw pwrpas Peter Hain? O blaid PR, wedyn yn erbyn. O blaid datganoli, wedyn yn erbyn. Twpsyn.

§

Mali Williams , Tachwedd 3, 2011 6:40 pm

Pa ots be mae o dweud? Dyn ddoe yw Peter Hain. Fel ci bach yn cyfardd ond neb yn cymryd sylw…

§

Dylan Llyr , Tachwedd 3, 2011 7:01 pm

Budd personol ydi hyn. Mae’r Blaid Lafur yn elwa o’r sefyllfa bresennol, sef Cymru sy’n ddibynnol ar arian o Loegr. Y cyfan y mae angen i Lafur ei wneud er mwyn cadw’u cefnogaeth yw galw am fwy o arian a grantiau byth a beunydd, heb orfod ysgwyddo’r baich o godi’r arian eu hunain. Mae sefyllfa o’r fath yn enwedig o fanteisiol iddynt pan mae’r Ceidwadwyr mewn grym yn Llundain, wrth gwrs.

Fel ag y mae wedi’i wneud erioed, mae Hain yn cymysgu rhwng “Cymru” a’r “Blaid Lafur Gymreig”. Ni fyddai’n syndod i mi os nad yw Hain wirioneddol yn gallu gwahaniaethu rhwng y ddwy.

Mae ar Hain a’i gyd-bleidwyr ofn cyfrifoldeb gorfod codi arian eu hunain yng Nghymru, oherwydd byddai hynny’n golygu gorfod ymddwyn yn aeddfed. Y gwir yw ei bod yn bur bosibl y byddai’r Blaid Lafur ar ei cholled, ond byddai Cymru ar ei hennill yn aruthrol.

§

Dafydd , Tachwedd 3, 2011 7:40 pm

Y Blaid Lafur….gwir gelyn Cymru.

§

CGT , Tachwedd 3, 2011 9:35 pm

Mae’r Blaid Lafur yn elwa’n wleidyddol o dlodi Cymru. Petaem yn wlad gyfoethog , neu’n dymuno bod yn wlad gyfoethog , ni fuasent yn cael prin yr un pleidlais oherwydd eu diffyg uchelgais.
Yn anffodus, mae darnau mawr o Gymru lle mae’r boblogaeth yn cytuno gyda’r diffyg uchelgais yma, ac yn dymuno aros mewn economi lle mai budd-daliadau, yn hytrach na masnach, yw sail yr economi yna.

§

Steffan Llysdinam , Tachwedd 3, 2011 9:38 pm

Mae unrhywun sy’n rhoi eu hangenion nhw o flaen angenion y genedl yn elyn i’r genedl. Nid plaid unigryw yw’r Blaid Lafur o ran hynny. Yn anffodus dyna wleidyddiaeth yr oes.

§

Steffan Llysdinam , Tachwedd 3, 2011 9:43 pm

CGT
Rydw i’n cytuno am ddiffyg uchelgais. Sut y gellir codi hyder y genedl ac felly codi uchelgais te? Gwneud yn siwr bod y tim rygbi yn ennill cwpan y Byd y tro nesaf drwy breibio’r dyfarnwyr i gadw 15 ar y cae? Darganfod olew o dan Tregaron a buddsoddi popeth o’r elw ym myd addysg? Dewch a Phrif Weinidog o Seland Newydd draw i redeg y wlad?

§

Neilyn , Tachwedd 4, 2011 12:31 pm

Pwy?

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.