Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Miss World: dwy Gymraes Gymraeg yn y ffeinal

Tachwedd 4, 2011 08:36, Diweddarwyd am 11:30


Daw Miss Lloegr o Bontypridd
Mae dwy Gymraes yn mynd benben â’i gilydd dros y penwythnos yn yr ornest i gipio teitl Miss World.

Ac mae’r Gymraes sy’n cynrychioli Lloegr yn fwy o ffefryn na Miss Cymru i ennill y gystadleuaeth sy’n cael ei chynnal yn Llundain.

Yn ôl cwmni betio Paddy Power mae Alize Lily Mounter o Bontypridd – Miss Lloegr – yn 20/1 i ddod yn Miss World, tra bod Sara Manchipp – Miss Cymru – yn 50/1.

Daw Sara Manchipp o Gastell Nedd ac mae’n astudio Seicoleg a Chwnsela ym Mhrifysgol Metropolitan Abertawe, tra’n gweithio rhan amser mewn siop frechdan Subway.

Daw Miss England o Bontypridd, ac mae’n rhugl ei Chymraeg.

Mae Alize Lily Mounter yn cael cynrychioli Lloegr gan ei bod yn fyfyriwr yn y wlad honno ar y foment, yn astudio newyddiaduraeth.

“Mae’n wych gweld dwy Gymraes yn cystadlu ar gyfer y teitl – dyma dystiolaeth bod y genod gorau yn dod o Gymru!” meddai Paddy Power.

Bu’n rhaid i Alize Lily Mounter guro 63 o ferched eraill i gipio teitl Miss Lloegr, o flaen cynulleidfa o 600 yng Ngwesty’r Hilton Metropole yn Llundain fis Gorffennaf eleni.

Mae hi’n byw yn Kensington ar hyn o bryd.

Mam o Hwngari

Ond er ei hawydd i hyrwyddo Lloegr ar draws y byd trwy gyfrwng Miss World, cafodd ei geni a’i magu yng Nghymru i dad o Brydain a mam o Hwngari, a mynd i Ysgol Gyfun Bryn Celynnog.

Yn y gorffennol daeth yn drydydd  yng nghystadleuaeth Miss Bydysawd Prydain, ac roedd hi yn rownd derfynol Miss Cymru’r llynedd, ar ôl cael ei choroni yn Miss Rhondda Cynon Taf.

Bydd cyfweliad llawn gyda Miss Cymru Sara Manchipp yn y cylchgrawn Golwg yr wythnos nesaf, a rhaglen am ei anturiaethau yng nghystadleuaeth Miss World ar S4C nos Iau nesaf hefyd.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Gerwyn Preis , Tachwedd 4, 2011 12:43 pm

Nid yn unig ma Muss Ingland yn rhugl yn y Gymraeg ond ma cymraeg paddy Power yn gwellu fesul dydd yn ogystal….!!

Mae’n wych gweld dwy Gymraes yn cystadlu ar gyfer y teitl – dyma dystiolaeth bod y genod gorau yn dod o Gymru!” meddai Paddy Power.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.