Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Yr Urdd i gynnal yr Eisteddfod gyntaf tu allan i Gymru

Tachwedd 9, 2011 17:41



Bydd Urdd Gobaith Cymru yn cynnal Eisteddfod tu allan i Gymru am y tro cyntaf eleni, a hynny ar gyfer y nifer cynyddol o gystadleuwyr o du hwnt i Glawdd Offa sydd eisiau cymryd rhan yn yr ŵyl.

Bydd yr ‘Eisteddfod Tu Allan i Gymru’, sef y cam cyntaf i gystadleuwyr o du allan i Gymru sydd eisiau cyrraedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Eryri 2012, yn cael ei chynnal yng Nghapel Jewin, yn ardal y Barbican yn Llundain ar 17 Mawrth 2012.

Am yr wyth mlynedd diwethaf, mae cystadleuwyr o du allan i Gymru wedi gorfod dod i fath o Eisteddfod Sir yn arbennig ar eu cyfer nhw yng Nghaerdydd. Ond yn dilyn yr Eisteddfod honno eleni, fe ddaeth cais gan nifer o gystadleuwyr i’r Urdd ystyried cynnal yr Eisteddfod yn fwy lleol iddyn nhw.

“Rydyn ni wedi bod yn cynnal Eisteddfod i gystadleuwyr o du allan i Gymru ers wyth mlynedd bellach, ond mae’r Eisteddfod wedi tyfu llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf,” meddai llefarydd ar ran yr Urdd wrth Golwg 360.

“Yn 2008 roedd yna wyth cystadleuaeth yn yr Eisteddfod i rai tu allan i Gymru, ond erbyn y llynedd roedd ’na 90 o gystadlaethau.”

Mae’r cynydd yma wedi dod yn sgil sefydlu nifer o aelwydydd yr Urdd tu allan i Gymru yn y blynyddoedd diwethaf, yn ôl y llefarydd.

Sefydlwyd yr aelwyd gyntaf tu allan i Gymru, Aelwyd Prifysgol Durham, yn ôl yn 2007, ac erbyn hyn mae yna aelwyd gref yn Llundain, ac mae Ysgol Gymraeg Llundain hefyd yn cystadlu gyda’r Urdd erbyn hyn.

Bydd yr Urdd nawr yn mynd ati i drefnu’r Eisteddfod ar y cyd rhwng y swyddogion yng Nghymru a grŵp o wirfoddolwyr yn Llundain, ac mae trefniadau fel penderfynu ar feirniaid eto i’w gwneud.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Martin Wilias , Tachwedd 10, 2011 1:23 pm

Newyddion gwych. Cam aeddfed a phositif ymlaen. Tybiaf na fydd hyn yn plesio rhai o genedlaetholwyr cul ein byd Cymraeg- ond dyna ni. Twll eu tinau.
Gobeithiaf fod hyn yn gam ‘seicolegol’ ymlaen a fydd, ymhen ychydig o flynyddoedd, yn agor y drws i allu trio cynnal y Brifwyl (nid Urdd) rhywle yn Lloegr (hefo’r prif nod o atgoffa Lloegr mewn ffordd feiddgar fod y Gymraeg yn haeddu dyfodol disglair ar yr ynysoedd yma). Nid lol naif yw hyn, ond yn hytrach cam hyderus ymlaen.
Bydoedd a pheuoedd Cymraeg…tir Cymru yw’r flaenoriaeth (ond heb anghofio y busnes ‘heb ffiniau’ ‘ma). Dim rhwystrau sy’n dal y diwylliant Cymraeg yn ol.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.