Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Arestio dyn ar ôl marwolaeth gwraig yn India yn 2004

Tachwedd 10, 2011 10:58, Diweddarwyd am 16:07


Colette Davies
Mae Heddlu’r De wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth – saith mlynedd ar ôl i wraig o Gymru syrthio i’w marwolaeth tra ar wyliau yn India gyda’i gŵr.

Roedd Colette Davies o Benybont ar Ogwr yn 39 oed pan fu farw ger pont dros Afon Giri, yn Gaura, yn nhalaith Himachal Pradesh yn mis Chwefror 2004.

Dywedodd swyddogion ei bod hi wedi disgyn o uchder ac wedi cael anafiadau angheuol o ganlyniad.

Bu’r heddlu yn India yn ymchwilio ar y pryd, ond doeddan nhw ddim yn credu bod ei marwolaeth yn amheus.

Cafodd corff Colette Davies ei gludo nôl i Gymru a chafodd ei hangladd ei gynnal yn Amlosgfa Llangrallo ym Mhenybont ar Ogwr ym mis Mawrth 2004.

Yn ddiweddarach fe aeth ditectifs Heddlu De Cymru i India i weithio gyda’r heddlu yn Himachal Pradesh er mwyn ail-ymchwilio i’r achos.

Y bore ma fy gyhoeddoedd yr heddlu, yn dilyn adolygiad gan eu timau arbenigol, eu bod nhw wedi arestio dyn 50 oed, gynt o Benybont ar Ogwr, yn ardal Milton Keynes ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Lewis: “Er bod hyn yn ddatblygiad positif yn yr ymchwiliad, rydw i hefyd yn apelio am wybodaeth am amgylchiadau’r marwolaeth.”

Dywedodd bod teulu Colette Davies wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.