Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Myfyrwyr Cymraeg yn Od

Tachwedd 11, 2011 16:00, Diweddarwyd am 16:30


Yr Ods
Mae un o grwpiau mwyaf y sîn gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn dweud eu bod yn siomedig gydag ymateb myfyrwyr Cymraeg i’w gigs diweddar.

Bydd albwm newydd Yr Ods, Troi a Throsi, yn cael ei rhyddhau ddydd Llun nesaf ac mae’r grŵp ar ganol cyfres o gigs i hyrwyddo’r albwm .

Nos Sadwrn roedden nhw’n un o brif grwpiau’r ddawns ryng-golegol flynyddol yn Undeb y Myfyrwyr yn Aberystwyth.

Yr wythnos flaenorol  roedd ganddyn nhw gig yn y Dafarn Roegaidd ym Mangor Uchaf, ardal sy’n frith o fyfyrwyr Prifysgol Bangor.

Mae Yr Ods yn agos at frig y sîn gyfoes Gymraeg ar hyn o bryd, a llawer o gyffro am eu halbwm cyntaf, ond siomedig oedd dau o’r aelodau ag ymateb y myfyrwyr Cymraeg i’r gigs ym Mangor ac Aber.

“Dw i erioed wedi bod mewn gig mor llawn ond efo pawb â’u cefnau tuag atom ni,” meddai Griff Lynch, gitarydd Yr Ods, wrth Golwg360 wrth drafod y ddawsn ryng-golegol.

“Roedd o’n brofiad rhyfedd iawn.”

Meddwi’n flaenoriaeth

Mae’r ddawns flynyddol yn cael ei gweld fel un o uchafbwyntiau’r calendr gigs y tu allan i fisoedd yr haf, ond nid y gerddoriaeth ydy’r flaenoriaeth i’r myfyrwyr yn ôl aelod arall o’r grŵp.

“Prif nod y rhyng-gol ydy meddwi,” meddai Rhys Aneurin sy’n mwytho allweddellau  Yr Ods.

“Mae o’n wych i bobl sydd isio gweld y bandiau wrth gwrs, ac mae o’n uchafbwynt mewn ffordd ond fysa’n ddiddorol gweld faint sydd yna am y gerddoriaeth.

“Dw i ddim yn gweld bai ar neb, fel’na mae hi,” ychwanegodd.

Ddim yn fodlon talu

Er bod Yr Ods wedi cael “gig dda” ym Mangor, roedden nhw’n siomedig fod nifer o fyfyrwyr Cymraeg yn gyndyn i dalu i weld band byw.

“Roedd yna tua 60 yn y Greeks ac roedd yna deimlad braf i’r gig – pawb yn eistedd lawr ac yn gwrando…rhyw deimlad Llundeinig,” meddai Griff Lynch.

“Ond dw i’n methu peidio teimlo bach yn siomedig gan fod [tafarn] y Glôb fyny’r ffordd yn llawn o bobol oedd ddim isio talu £5.

“Fedri di ddim beio stiwdants am beidio dod i rywbeth does ganddyn nhw ddim diddordeb ynddo fo. Be sy’n siomedig ydy’r sylweddoliad nad oes gan bobol ddiddordeb.

“Wedi deud hynny, petai’r gig yn llawn o bobol oedd isio meddwi bysa’r awyrgylch wedi bod yn wahanol iawn.”

Cyfrifoldeb

Mae Rhys Aneurin yn cytuno nad oes bai ar ieuenctid Cymru am beidio dod i gigs.

“Dw i’n teimlo’n siomedig, ond fedar bandiau ddim disgwyl i bobol ddod i’w gigs nhw.

“Does dim dyletswydd ar bobol ifanc i ddod i gigs – mae’n siomedig ond does dim allwn ni wneud.”

Ond efallai bod cyfrifoldeb ar bobol eraill yn y sector gerddoriaeth gyfoes i weithredu, meddai.

“Mae’n ddyletswydd ar unrhyw un sy’n gwneud bywoliaeth allan o’r sîn i ffeindio allan pam [nad oes gymaint o ddiddordeb gan bobol ifanc mewn cerddoriaeth Gymraeg].

“Mae angen i sefydliadau sy’n cael nawdd cyhoeddus ddod at wraidd y broblem rhywsut, ac ella fod rôl i’w chwarae gan lywyddion yr undebau Cymraeg o ran deall barn y myfyrwyr hefyd.”

‘Dwi’m yn Angel’ o’r albwm Troi a Throsi
Dwi’m yn angel by label_copa

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Rhodri ap Dyfrig , Tachwedd 11, 2011 4:34 pm

Defnydd da o widget SoundCloud yn yr erthygl. Sa fo’n y top sa gynnoch chi drac sain wrth ddarllen!

§

Llyr , Tachwedd 12, 2011 5:03 pm

Rhaid i mi cyfadde nes i ddim sylw or band, y brif rheswn oherwydd fy mod i ddim yn nabod dim un o ei caneuon! Rwy’n credu bod hyn yn wir am y mwyafrif o myfyrwyr oedd yno. Pe bai Frizbee wedi bod yno bydde fen stori gwahanol gan fod pawb yn nabod ei caneuon. Rwy’n siwr bod yr Ods yn cystal band a Frizbee ond does neb yn ei adnabod. Pam fy mhod i yn adnabod caneuon Frizbee a heb clywyd lawer o son o gwbwl am Yr ods dyna ydy’r cwestiwn. Ai yr ateb ydy does neb fy oedran i wedi gwrando ar C2 ar radio Cymru ers ei amser yn ysgol?

§

Twm Oer , Tachwedd 12, 2011 8:49 pm

Llyr bach, mae hynna’n deud llawer mwy amdanat ti nac am yr Ods.
Dim byd newydd yn y stori yn anffodus; fel’na fu’r ‘sin Gymraeg’ erioed am wn i…
Mae Ffrisbi wedi hen ddiflannu, a gwynt teg ar eu holau. Mae gan yr Ods dipyn mwy o ddychymyg a menter, ond eu harfer diflas o stwffio cytgan Saesneg i bob un o’u caneuon sy’n debygol o wneud i mi droi cefn.

§

Osian , Tachwedd 12, 2011 8:56 pm

Rybish, mae mwyafrif myfyrwyr Cymraeg (y rhai sy’n mynychu rhyng gol beth bynnag) yn gyfarwydd â chaneuon yr Ods. Mae Frizbee wedi chwalu ers blynyddoedd.

§

Ceri , Tachwedd 13, 2011 10:44 am

Roedd y bandiau ‘llai’ oedd yn canu o flaen o flaen Yr Ods wedi llwyddo i ddal sylw’r gynulleidfa a chael ymateb da iawn.

§

Elis , Tachwedd 13, 2011 5:06 pm

Mae Ffrisbi ‘di chwalu ers oes ac heblaw am Ti (Si hei lwli) a Da ni’n ol, fysa ‘na unrhywun yn nabod unrhyw gan arall gynnyn nhw? Dw i’n ama’n fawr.

@Ceri, Dwn i’m am Tapas Tuesday ond dwi bron yn sicr mai myfyrwyr ydi’r Candelas a’r Bandana felly eu ffrindia’ nhw oedd yn y gynulleidfa a dyna pam oedd pobl yn cymryd mwy o sylw (o bosib, fedrai’m deud yn iawn).

Dw i’n meddwl mai’r broblam efo’r Rhyng-gol ydi
1) bod pobl yn cyrradd Aber un ai’r noson gynt neu’n fuan y diwrnod hwnnw ac felly yr unig beth sgynnyn nhw i’w wneud ydi mynd i’r dafarn drwy’r dydd ac felly prin ydi’r rhai sy ddigon sobor i gymryd sylw o’r gerddoriaeth.
2) bod pobl yn ail-gyfarfod hen ffrindia’ nad ydyn nhw wedi eu gweld ers amsar go faith yno a bod mwy o ddiddordab gynnyn nhw mewn dal i fyny efo rheini nac yn y gerddoriaeth. Mi fuodd rhaid i mi golli diwadd set Yr Ods am bod y bws yn cychwyn nol i Fangor ond mi o’n i di treulio’r holl set cyn hynny yn dal fyny efo hen gariad gwaetha’r modd.

Mi fues i yn gig Yr Ods yn Greeks, Bangor Ucha hefyd a dw i’n meddwl bod yr amseru braidd yn anffodus ar gyfar y gig – mi odd y rhan fwya o’r bobl dw i’n nabod un ai wedi mynd adra’r penwsos hwnnw, yn bwriadu mynd yn fuan y bora wedyn neu yn brysur o ran gwaith etc. Ond eto, pan o’dd Cowbois Rhos Botwnnog yn Rascals ychydig wsnosa ynghynt, mi o’dd y bar gwaelod yn llawn dop o fyfyrwyr Cymraeg ond ychydig iawn o fyfyrwyr (a phobl hyn yn gyffredinol) o’dd di trafferthu talu i fynd fyny i’r bar ucha’ i’r gig.

Ma’ UMCB yn cynnal gig i fyfyrwyr yn Patrick’s nos fory – ma enwa’r bandia yn gwbwl ddiarth i mi ond ma’r mynediad am ddim felly mi fydd yn ddifyr gweld faint o fyfyrwyr fydd yno nos fory.

§

Ffion Mair , Tachwedd 24, 2011 5:31 pm

Mae’n rhaid i bobl sylweddoli fod y gig Rhyng-Gol yn un o’r uchafbwyntiau i bob undeb myfyrwyr Cymraeg .Mae’n gyfle i ffrindiau sydd heb weld ei gilydd ers misoedd, efallai, ddod at ei gilydd a hel hanesion, yn ogystal a bod yn gyfle i fyfyrwyr o wahanol brifysgolion ddod i adnabod ei gilydd. A bod yn onest, ‘tydw i ddim yn meddwl fod y ffaith nad dderbyniodd yr Ods gymaint o sylw a hynny yn gysylltiedig ag ansawdd eu cerddoriaeth. ‘Roedd o’n fwy i’w wneud gyda’r ffaith fod pawb yn rhy brysur yng nghanol eu holl gyfeillion, hen a newydd, i sefyll yn llonydd yn gwrando ar y gerddoriaeth yn unig. Mae angen i fandiau sylweddoli mai’r cymdeithasu yw’r peth pwysicaf i fyfyrwyr mewn sefyllfaoedd fel hyn, gyda cherddorieth yn gefndir i hynny, yn enwedig pan mae’r noson yn gynnar.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.