Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Dyn gerbron llys ar gyhuddiad o ladd ei wraig yn India

Tachwedd 14, 2011 07:26


Colette Davies
Mae disgwyl i ddyn 50 oed fynd gerbron llys ynadon Caerdydd bore ma ar gyhuddiad o lofruddio ei wraig yn India.

Bu farw Colette Davies, 39, tra ar wyliau yn India yn 2004.

Mae’r heddlu wedi body n holi’r dyn yng ngorsaf yr heddlu Caerdydd ers dydd Iau ar ôl iddo gael ei arestio yn ei gartref yn Milton Keynes.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cyhuddo John Clifton Davies o lofruddiaeth a thwyll ar ôl ymchwiliad ar y cyd gyda’r heddlu yn nhalaith Himachal Pradesh yng Ngogledd India.

Dywedodd y ditectif arolygydd Mark Lewis eu bod yn ddiolchgar iawn i’r heddlu yn Himachal Paradesh a’r cyhoedd am eu cefnogaeth wrth ymchilio i farwolaeth Colette Davies. Ond dywedodd er bod dyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth Colette Davies mae nhw’n dal i apelio am wybodaeth ynglŷn â’i marwolaeth.

Dylai unrhwyun sydd â gwybodaeth am farwolaeth Colette Davies gysylltu â Heddlu’r De ar 01639 889732 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.