Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Dim canu Saesneg ar S4C’

Tachwedd 14, 2011 12:10, Diweddarwyd am 15:51


Rhydian Roberts

Mae na feirniadaeth wedi bod ar ol i’r bariton poblogaidd Rhydian Roberts ganu yn Saesneg ar S4C.

Un o’r rhai oedd wedi gwneud sylw ar Twitter yw’r cerddor Aneirin Karadog sydd wedi beirniadu canu Saesneg ar S4C ac wedi dweud yr hoffai weld mwy o bethau o ‘werth Cymreig diwylliannol’ ar y sianel genedlaethol.

Mae  Aneirin Karadog, cerddor, bardd ac aelod o grŵp hip hop Y Diwygiad yn credu y dylai cerddorion gael canu mewn “unrhyw iaith heblaw Saesneg” ar S4C.

Does dim cyfiawnhad dros ganu yn Saesneg ar y Sianel Genedlaethol, meddai wrth Golwg360.

“Dw i’n cofio gwylio Rhydian ar yr X Factor a’i gefnogi fe  am ei fod o’n Gymro. Ond, y peth am yr X  Factor yw mai diddanwch nos Sadwrn yw e. Sai’n cymryd y gerddoriaeth o ddifrif  o gwbl! Mae gwell da fi gerddoriaeth werin, reggae a Hip Hop,” meddai’r cerddor.

“Ar Wedi 7, fydd neb byth yn cael  canu yn Saesneg. Bydd grwpiau o Loegr yn dod ac yn canu mewn Lladin, Eidaleg neu Almaeneg.  Hefyd, does dim canu Saesneg yn Eisteddfod yr Urdd a’r Genedlaethol,” meddai.

‘Gadael y drws yn agored’

Mae’n pryderu y gallai canu’n Saesneg “adael y drws yn agored”.

“Yn ddelfrydol, fyddai neb yn siarad dim Saesneg ar y sianel o gwbl. Ond, lle mae canu yn y cwestiwn – does dim cyfiawnhad dros ganu yn Saesneg. Yn enwedig os nad yw bandiau roc a phop, y bandiau fwyaf tebygol i ganu yn Saesneg, ddim yn cael gwneud hynny ar raglenni fel Nodyn, Gofod, neu Bandit,” meddai.

“Mae clywed Rhydian ac Only Men Aloud yn canu yn Saesneg yn gadael y drws yn agored wedyn. Pam ddim cael cyngerdd Coldplay ar S4C?”

Yn hytrach, mae o‘r farn y dylai S4C roi mwy o sylw i bethau o “werth Cymreig diwylliannol.”

“Boed chi’n licio Cerdd Dant neu beidio – roedd rhoi sylw i’r Wyl Gerdd Dant yn rhywbeth o fwy o werth Cymreig diwylliannol, sef yr hyn ddylai S4C fod yn gwneud – na rhoi sylw i ddwsin o fandiau sy’n canu bob cân yn Saesneg  drwy gydol y noson ar S4C, mae hynny wedi digwydd,” meddai.

‘Dim allbwn’

Fe ddywedodd Rhys Aneurin o’r grŵp Yr Ods wrth Golwg360 mai prin iawn yw’r sylw mae cerddoriaeth gyfoes Gymraeg yn ei gael ar S4C.

“Maen nhw wedi cael gwared â Nodyn, Bandit ac yn fwy diweddar Gofod, oedd yn rhoi rhywfaint o sylw i gerddoriaeth. Does dim allbwn i gerddoriaeth gyfoes Gymraeg, ond yna maen nhw’n rhoi cyfresi i Only Men Aloud a Rhydian – dim dyma ydy cerddoriaeth gyfoes Gymraeg,” meddai.

“Mae cyfrifoldeb gan S4C i adlewyrchu diwylliant Cymraeg ond dydyn nhw ddim yn gwneud hynny ar hyn o bryd o ran cerddoriaeth gyfoes.”

Roedd chwaraewr allweddellau Yr Ods yn siarad â Golwg360 wrth i’r grŵp ryddhau eu halbwm cyntaf, Troi a Throsi.

Dywedodd fod angen “adlewyrchu’r sin yn onest”  a bod y teledu’n rhywbeth sy’n gallu estyn allan i gynulleidfa enfawr, a hynny’n gallu “hybu’r sin mewn ardaloedd lle does ‘na ddim gigs a ballu’n cael eu cynnal ar hyn o bryd.”

Ymateb S4C

Dywedodd llefarydd ar ran S4C wrth Golwg360: “Mae cynhyrchwyr rhaglenni yn gwneud defnydd gofalus, dethol ac achlysurol o’r Saesneg am resymau golygyddol a chreadigol. Yn achos y gyfres yma, mae Rhydian a’i westeion yn canu ystod eang o ganeuon er mwyn apelio at gynulleidfa eang o bob cefndir.

“Mae S4C yn cydnabod bod y ffin yn denau rhwng yr hyn sy’n dderbyniol a’r hyn sy’n ormodol ac mae’r tîm Comisiynu yn gweithio’n agos gyda’r cwmnïau cynhyrchu er mwyn sicrhau bod y cydbwysedd yn gywir. Un gân Saesneg ganwyd gan Rhydian ac un gan ei westai arbennig ar y noson, a ryda ni’n ystyried hyn yn briodol yng nghyd-destun adeiladwaith y rhaglen gyfaan,” meddai.

“Ynglŷn â sylw Rhys Aneirin, mae S4C wedi gwahodd syniadau am gyfresi cerdd gyfoes fel rhan o’r broses gomisiynu newydd. Byddwn yn gwahodd syniadau am gyfres fydd yn frand uniongyrchol, yn cael ei reoli yn olygyddol gan bolisi cynnwys cerddorol cryf.

“Disgwyliwn i’r brand yma gwmpasu holl gynnwys cerdd gyfoes S4C gan gynnig eitemau neu raglenni o’r gwyliau cerddorol, eitemau neu raglenni sydd yn ymateb i’r farchnad ryddhau cynnyrch yn ogystal â bod yn llwyfan i roi sylw i’r diwydiant yn gyffredinol.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


irfon , Tachwedd 14, 2011 12:24 pm

Dwi’m isho clywad Rhydian yn canu mewn unrhyw iaith thanciw.

§

Jones , Tachwedd 14, 2011 12:25 pm

Pam bod yna gymaint o raglenni am Rhydian ar S4C?!

§

Ela , Tachwedd 14, 2011 12:26 pm

“Pam ddim cael cyngerdd Coldplay ar S4C?” Ie wir – pam ddim ?

§

Gwilym Roberts , Tachwedd 14, 2011 12:48 pm

Chap da a difyr iawn yw Aneirin Karadog yn dda iawn ar y teledu hefyd !

§

Osian , Tachwedd 14, 2011 12:58 pm

Gwir iawn.

Er hyn, os ydi canu yn Almaeneg neu Eidaleg yn iawn ar y sianel yna, o fewn rhai cyd-destunau, dwi ddim yn meddwl y dylid rhoi rhyw fath o len haearn rhag y Saesneg ar y sianel (h.y. gan roi dim mwy o Saesneg nac o Eidaleg/Almaeneg ar y sianel gan negyddu dylanwad enfawr y Saesneg yng Nghymru fel arall)

Fedrwn ni ddim cogio nad ydi Saesneg yn bodoli, chwaith.

Y broblem enfawr ydi pan fo S4C yn *rhoi llwyfan* a rhaglenni cyfan, a chyfresi, i gerddoriaeth Saesneg a phethau sydd ddim oll i wneud â diwylliant Cymraeg cyfoes yng Nghymru. Mae hynny yn agor y drws ac mae o gyfan gwbwl yn erbyn pwrpas S4C, does bosib.

§

Eirwen Haf , Tachwedd 14, 2011 1:24 pm

Tra bod Comisiynydd S4C wrth yr adwy, showtunes fydd hi bois bach!

§

AL , Tachwedd 14, 2011 1:25 pm

Beth am chwarae fideos caneuon Cymraeg, yn debyg i’r hen ‘E4 Music’ oedd mlaen bob bore ar E4? (Byddai’n well na gadael i’r cachu telewerthu barhau i dreisio llygaid y genedl yn ystod oriau mân y bore – neu’r rhan fwyaf o’r cachu gan fewnfridwyr y Sianel)
Dim cyflwynwyr, dim sets, dim criw cynhyrchu – jyst rhyw pwr dab ar brofiad gwaith i wasgu ‘play’ ar gyfer y gân/fideo nesaf. Sorted.

§

Eirwen Haf , Tachwedd 14, 2011 1:26 pm

Sori wrth y llyw o’n i’n ei feddwl! Yr hen amenydd yn ara ar ddydd llun! Cytuno da Aneirin -ond dyna chi S4C o hyd. Dal flynyddoedd ar ei hol hi -Gwaith/Cartref yn gopi o ‘Teachers’ (2004!) a nawr cast-offs XFactor a’r BBC gyda Rhydian ac Only Men Aloud! Be am gefnogi talent gwreiddiol newydd Cymraeg am unwaith?!

§

Martin , Tachwedd 14, 2011 1:52 pm

“Mae Golwg360 yn dal i aros i gael ymateb gan S4C”

Paratoi’r cyfieithiad o’r Saesneg mae nhw…

§

Jones , Tachwedd 14, 2011 2:49 pm

Mae’n dibynnu beth ydy S4C- sianel cymraeg yntau sianel cymraeg gyda dywyllaint cymraeg. Os yr ail, wrth gwrs na ddylai Saesneg fod ar y sianel.

Ond yn bersonol, i mi; fyswn i ddim yn gweld problem gyda S4C yn darlledu (yn y gymraeg) o llefydd fel Glastonbury. Ac i fod yn eithaf onesd dwin eithaf sick, bod bron bob dim ar S4C yn gorfod cael cysylltiad a Gymru. Os mae na son am yr Holocaust rhaid cael rhywun sydd yn perthyn i ryw Gymro; os mae na raglen am dan Obama; rhaid darganfod rhywbeth cymraeg am dan y fo.

Mae na fyd fawr tu allan i Gymru- a mae dyletswydd ar S4C i ddarlledu hyn (ond wrth gwrs yn y Cymraeg).

Dwi hefyd yn cytuno nad ydy S4C yn rhoi *llwyfan* i rhai o artistiaid Cymraeg. Danin styc hefo showtunes fel Rhydian a OMA – eithaf diflas. Felly ie- pam ddim cael ryw rhaglenni “MTV style” o artistiaid newydd Cymru yn oriau cynnar y bore (dwin siwr y bysa fo’n eithaf rhad- dim stiwdio, dim cyflwynydd- mond fidios/dangos gigs artisiaid cymru!)…… dim mwy or sioeau anferthol gyda OMA ag Rhydian!

§

Steffan Llysdinam , Tachwedd 14, 2011 6:01 pm

Cytuno bod…Rhydian yn wneud yn dda o S4C, bod angen hybu Cerdd Dant ayyb (er fy mod i’n casau hi), a bod S4C ar ei ol o ran hybu pethau newydd gwreiddiol a chyffrous yn lle copio syniadau llwyddiannus y BBC/C4 6 mlynedd yn ol. Roedd Gwaith Cartref yn borin bois bach – llawer rhy saff – ble roedd y teithio mewn amser? ble roedd y miwtants? ble roedd y agwedd swreal? ble roedd yr arloesi?

Oes angen Saesneg ar unig sianel Gymraeg y byd pan mae’r byd digidol yn cynnig cannoedd o rhai Saesneg i ni? Na! – amserlennu heb ddychymyg ydyw – diogi llwyr.

Dw i isie gweld rhywbeth newydd ar S4C – rhywbeth crai, gwreiddiol – rhywbeth od, swreal a difyr! Nid Rhydian.

§

Roberts , Tachwedd 14, 2011 6:31 pm

Dwi o’r gred gadarn fod caneuon yn swnio ar eu gorau yn yr iaith y’i hysgrifennwyd yn wreiddiol, felly, os yw’r gan yn swnio’n
well yn ei hiaith wreiddiol (boed hi’n Saesneg, Lladin, Almaeneg neu’n unrhyw iaith dan haul) dylai’r artist felly gael yr hawl i’w chanu hi yn yr iaith honno.

Mae hi hefyd yn andros o gul arnom ni fel Cymry i ddatgan ei bod hi’n hollol dderbyniol clywed caneuon ymhob iaith dan haul oni bai am y Saesneg. Os gwrthod un iaith, yna gwrthodwch pob iaith arall hefyd!

Serch hynny, dwi’n cytuno’n llwyr bod angen i S4C ehangu ei gorwelion ar sail arlwy adloniant y sianel – dwi wedi syrffedu ar weld Only Men Aloud, Rhydian, Sophie Evans a’u tebyg ar fy sgrin yn dragywydd. Mae ‘na gymaint fwy o dalent allan ‘na heblaw amdanyn nhw yn unig!

§

Benjiman , Tachwedd 14, 2011 6:45 pm

Pam lai rhoi alrediadau a fidiau cerddoriaeth gan grwpiau modern rhwng hanner nos a saith y bore? Dyn ni’n gael dim ond un sianel a dyn ni ddim defnyddio ei holl potensial, dyn ni ddim defnyddio bob awr tu mewn dydd. Beth am bobl wedi meddwi hwyr yn y nos yn fflipio sianelu, neu myfyrwyr gyda’r amser rhydd, bobl gyda shifts dydd… Hyd yn oed os ydy deledu cheap, mae’n well na dim.

§

Jones , Tachwedd 14, 2011 8:01 pm

Steffan;
cytuno ond hefyd ble mae’r comedi? Dwi’m yn cofio y tro dwytha nes i weld cyfres comedi ar S4C! Ac dyna be oedd S4C yn wych yn (C’mon mid, fo a fe ayyb).

§

Gerwyn Preis , Tachwedd 15, 2011 12:03 am

Zanzibar………. trychineb.
Porth Penwaig…….trychineb (ac efelychiad o Ballykissangel)
Gwaith Cartref…gwarth (ie efelychiad gwael iawn o Teachers)
Rhydian/OMA …….sothach
Jonathan…….. annarlledadwy……
Ddoe am Ddeg……. uh???? seriys????

Duw a’n helpo ni …. be am fynd yn ol i ddarlledu yn yr hwyr yn unig a dewis y petha gora’n unig? Fatha BBC 3/4…rhwng 6 ac 1 y bore? Swp o raglenni da gwariant teilwng a dim o’r treip erill…?

§

Gerwyn Preis , Tachwedd 15, 2011 12:19 am

A be anghofiais i ddeud oedd Rhydian /OMA = dim rlliw o Gymreictod yno…defnyddio’r Gymraeg ma nhw…ac S4C yn puteinio’u hunain er mwyn cal ‘byms on seats’ y di Gymraeg….

Truenus, a diflas……

§

Mali , Tachwedd 15, 2011 12:19 am

I’r rai uchod sy cwyno. Dwi’n credu S4C yw’r sianel gorau yn y byd! Mae’r amrywiaeth yn ffantastig. Mae yna sioeau fel Wedi 3 a Wedi 7 gyda’r hyfryd Angharad Mair, dramau wych fel Pobol y Cwm, Gwaith cartref, comediau gret fel Jonathan, Dim byd a Ddoe am Ddeg, a chwaraeon fel sgorio a’r clwb rygbi. A dwi’n ffan mawr o Rhydian (efo pob un CD’s), fo yw seren gorau Cymru, y Michael Jackson Cymreig, a mae rhaid edrych ar ol ein ser neu ffwrdd i America fy nhw mynd os ni ddim yn ofalus, a lle fydd ein diwylliant wedyn??

§

chwareus , Tachwedd 15, 2011 12:27 am

Her S4C yw rhyngu bodd cynulleidfa eang.
Os oes modd dangos (profi drwy ffigyrau gwylio, ac adborth a chymryd rhan arall ar-lein ac ati) mai Ridian ac ati yw dymuniad y genedl…yna, gallwn gysgu’n dawel bod punt y trethdalwyr yn saff, gwerth am arian wedi ei sicrhau. er bydd rhai’n crio’n dawel dros dranc y diwylliant .
Os gwelwn y fath raglenni fel cornwydod chwyddiedig cawslyd treuliedig trist…..a bod neb yn eu gwylio, yna cwestiyned weledigaeth y sianel! Bach o Saeseng safonol plis.

§

Rhys Gethin , Tachwedd 15, 2011 1:10 am

Er bod Gerwyn yn ei gor-ddweud hi ychydig, ni all rhywun ond cytuno gydag o, yn enwedig yr ymadrodd “puteinio’u hunain”. Mewn llawer iawn o’r rhaglenni, mae ‘na awyrgylch ffals, ddi-Gymraeg neu lle mae’r Gymraeg yn ymddangos fel putain ddefnyddiol iawn ar gyfer y diwydiant. Ymddengys, gyda’r newyddion diweddaraf am iaith fewnol y sianel, fod arwyddocâd mawr i hyn.

Mae angen i S4C ailddarganfod ei gwreiddiau, yn hytrach na nawddogi ei chynulleidfa greiddiol. Er enghraifft, p’ryd y cawsom ni raglen ddogfen swmpus a diddorol ddiwethaf? Ac os dywedwch chi “Wyneb Glyndwr”, wel …

§

Rhys Gethin , Tachwedd 15, 2011 1:13 am

Ac oes, mae angen cael gwared ar Rydian ac Onli Men Alowd (O’ma!) , a hynny ar fyrder. Tuedd farwol sydd gan y sianel yw godro, a hynny hyd nes mae popeth yn gwbl hysb.

§

irfon , Tachwedd 15, 2011 8:04 am

Mae S4C isho bod yn Channel Four ac mae’r gynulleidfa isho gweld dawns y glocsan. Dyna ydi’r broblam.

§

Gerwyn Preis , Tachwedd 15, 2011 8:27 am

Problem teledu Cymreig yw ei bod yn dynwared ac yn trio efelychu sioeau Eingl Americanaidd…ond yn anorfod gyda ffracsiwn o’r cyllid….. ac ma’r canlyniada’ yn drychinebus.

pan ma teledu Cymreig yn gweithio ora, mae’n wreiddiol ac yn Gymreig ei naws….. e.e. C’mon Midffild, Con Passionata ac ati….fasa’n am un o rheini di cal eu comisiynnu yn Lloegr……

A chyn bod neb yn son am Fferm Ffactor…ma na wastad eithriad i bob reol!!

@irfon…… S4C isho bod yn Channel Four? Ie ond cynnwys Channel 4 Iceland ne Bolivia falla…… tasa fo isho bod fatha BBC4 sa gwell gobaith…..

§

Gerwyn Preis , Tachwedd 15, 2011 8:30 am

Hefyd, gwyliwch y gofod, ond mi fetiai y bydd y Wedi 3/ Wedi 7 newydd yn trio efelychu’r The One Show erthyl na……

§

irfon , Tachwedd 15, 2011 12:11 pm

Y Wedi 7 newydd. Yr unig beth newydd fydd y soffa.

§

irfon , Tachwedd 16, 2011 9:34 am

Mwy o sylwadau wedi diflannu. Ma’i fel Rwsia dan Stalin yma. Os na ydi rwbath yn plesio bosus Golwg ffwrdd a chi i Siberia y ‘camddefnyddio’.

§

Gerwyn Preis , Tachwedd 16, 2011 10:29 am

Ia Irfon…..snam modd deud eich barn yn onest…… ma’r mwyafrif llethol yn deud ei deud yn ddigon bonheddig yn fama…ond ffwrdd a’r sylwada…. dwn i’m…. sa’n nhw’n cwyno ddigon sa neb yn ymateb…

§| Nodi camddefnydd

Owain Schiavone , Tachwedd 16, 2011 11:06 am

@Irfon, Gerwyn Preis

Dwnim sawl gwaith sydd angen i ni ddweud hyn – tydi Golwg360 DDIM yn sensro sylwadau ar y gwasanaeth. Yn syml iawn does gennym ni ddim amser i ddarllen sylwadau darllenwyr gan ein bod ni’n rhy brysur yn paratoi a chyhoeddi straeon.

Os ydy sylwadau’n diflannu, y rheswm ydy fod rhywrai wedi cwyno am y sylw NEU yn ôl pob tebyg mae rhai ‘bots’ yn clicio ar y botwm ‘nodi camddefnydd’ nawr ac yn man (rydan ni’n ceisio monitro hyn a blocio’r bots yma gorau posib).

Amynedd plis gyfeillion, rydan ni’n ceisio gwiro sylwadau sy’n cael eu gyrru nôl cyn gynted â phosib.

Diolch am ddefnyddio’r gwasanaeth
Owain Schiavone (Prif Weithredwr Golwg360)

§| Nodi camddefnydd

irfon , Tachwedd 16, 2011 11:44 am

Wps, sori.

§

Gerwyn Preis , Tachwedd 16, 2011 11:49 am

Dwinna’n ymddiheuro hefyd…

§| Nodi camddefnydd

Mali , Tachwedd 16, 2011 12:12 pm

@Owain Schiavone – Dyma awgrym, pam ddim rhoi botwm hoffi a ddim hoffi, fel mae nhw rhoi ar wefennau walesonline, dailymail, yahoo, ayyb. Fuasai wneud darllen y sylwadau yn lawer mwy diddorol hynny yw bwy sy’n cytuno a anghytuno.

§

Rhys Gethin , Tachwedd 18, 2011 1:27 pm

@Mali – syniad rhagorol!

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.