Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Angen cydweithio agosach rhwng San Steffan a Chaerdydd’ medd Gillan

Tachwedd 16, 2011 13:19


Cheryl Gillan
Mae’r ffigyrau diweithdra heddiw yn tanlinellu’r angen i Lywodraethau Caerdydd a San Steffan gydweithio’n agosach, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.

Mynnodd fod Llywodraeth San Steffan yn ymladd eu gorau er mwyn adfer yr economi yng Nghymru, ond y byddai’r gwaith yn llawer mwy llwyddiannus petai’r ddwy lywodraeth yn cydweithio’n agosach.

Wrth drafod y ffigyrau diweithdra diweddaraf heddiw, dywedodd Ysgrifennydd Cymru fod y ffigyrau “yn siomedig, ond dydyn nhw ddim yn syndod.

“Ond rydw i yn sicr y byddai sefyllfa’r Deyrnas Unedig yn waeth heb gynlluniau sefydlogi Llywodraeth San Steffan.”

Mewn datganiad oedd i fod i annog Llywodraeth Lafur Cymru i glosio’n agosach at weinidogion y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan, dywedodd Cheryl Gillan mai un o broblemau mawr yr economi oedd methiannau’r Llywodraeth Lafur blaenorol.

“Rydyn ni’n gorfod delio nawr gyda methiannau’r gorffennol,” meddai, gan feio “diwylliant Llafur” o ddisgwyl cael pethau heb ddelio â’r gost.

Roedd Ysgrifennydd Cymru hefyd yn dweud ei bod hi’n anochel fod economi Prydain yn mynd i gael ergyd oherwydd  argyfwng gwledydd yr ewro.

“Dydyn ni ddim yn gallu gwrthsefyll yr holl sialensiau sy’n wynebu gwledydd yr ewro,” meddai, ond mynnodd fod y Deyrnas Unedig yn y dwylo iawn wrth geisio taclo’r sialensiau hynny.

Dyna pam, meddai, ei bod yn croesawu gwell cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru â Llywodraeth San Steffan.

“Mae gan Gymru gyfle gwirioneddol i’n dwy Lywodraeth ni wneud gwahaniaeth,” meddai Cheryl Gillan.

“Trwy weithio’n agosach yn y meysydd lle mae ganddon ni gyfrifoldebau, gall gweinidogion yn Llundain a Chaerdydd symud polisiau yn eu blaen er mwyn cael mwy o bobol yn ôl yn y gwaith.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Jones , Tachwedd 16, 2011 3:21 pm

Dwi’n teimlo efallai dylai y Toriad cymryd drosodd yr adran economi or llywodraeth presenol- di nhw’m yn neud dim! a mae o di bod yn 6mis ers yr etholiad; a dal 1 mewn 4 o bobl ifanc yn ddi waith.

§

Martin , Tachwedd 17, 2011 10:48 am

Mae’n deimlad chwithig achub cam y blaid Lafur, ond pam ei bod mor dawedog ynglyn a’r celwydd mae’r Toriaid yn llefaru byth ers iddynt ennill rym?
Nid y llywodraeth blaenorol a greodd y twll ariannol enfawr dy’n ni gyd yn talu’n ddrud i ddod allan ohono – bai y llywodraeth blaenorol oedd llacio’r rheolau a gadael i’r Ddinas (a banciau masnachol eraill y byd) achosi’r llanast.
Mae’r llywodraeth presennol yn dal i adael i’r euog elwa ar draul y trethdalwyr cyffredin; tra bod swyddi yn diflannu wrth eu miloedd mae’r bancwyr yn cronni eu miloedd eu hunain.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.