Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Kate a gwraig y cigydd

Tachwedd 18, 2011 09:12, Diweddarwyd am 10:48


Alan Llwyd
Doedd “dim modd celu’r gwir” am rywioldeb Kate Roberts, meddai awdur y cofiant iddi sy’n cael ei lansio heddiw.

Mae’r dystiolaeth i’w gweld yn llythyrau Kate Roberts at ei gŵr Morris pan oedden nhw’n dechrau canlyn ei gilydd yn 1926, yn ôl Alan Llwyd.

Mewn un llythyr mae’r awdures yn disgrifio cusanu gwraig cigydd fel hyn: ‘Nid oedd dim a roes fwy o bleser imi’.

Roedd hi wedi bod yn aros gyda’r cigydd a’i wraig ym Mhontardawe ar y pryd, ac yn ei gofiant mae Alan Llwyd yn dyfynnu ei disgrifiad o’r achlysur:

‘Yr oedd gwraig y cigydd lle’r arhoswn yn un o’r merched harddaf y disgynnodd fy llygaid arni erioed. Dynes lled dal, heb fod yn rhy dew nac yn rhy deneu, gwallt gwineu – real chestnut a thuedd at donnau ynddo. Croen fel alabaster a’r gwddf harddaf a welais erioed – llygaid heb fod yn rhy brydferth ond yn garedig. Yr oedd yn hynod gartrefol ei ffordd – Cymraes iawn. Bore trannoeth, hebryngai’r mab fi mewn cerbyd i Gastellnedd – cychwyn tua 7.15 a.m. a hithau’n oer. Mynnodd y wraig roi clustog o’r ty odanaf, a lapiodd rug am fy nhraed, rug arall am fy nghorff, a rhoes glamp o gusan ar fy ngwefus. Nid oedd dim a roes fwy o bleser imi.’

Ac yn ôl Alan Llwyd mae tystiolaeth mewn llythyrau at bobol eraill bod Kate Roberts yn ddeurywiol.

“Mae yna awgrymiadau mewn llythyrau at Saunders Lewis ac yn sicr mae awgrymiadau yn ei straeon hi. Roedd Kate yn troi ei bywyd hi yn ffuglen – ond dyw hynny ddim digon o dystiolaeth i mi,” eglura Alan Llwyd.  

“Mae’n amlwg ei bod wedi trafod y peth gyda Morris pan wnaethon nhw gwrdd ei gilydd yn Ysgol Haf Machynlleth 1926. Roedd y ddau wedi dechrau canlyn ac ymddiried yn ei gilydd ac mae’n amlwg eu bod nhw’n deall ei gilydd o’r cychwyn cyntaf. O’r cychwyn cyntaf – yn fuan iawn ar ôl dechrau canlyn ei gilydd, mae Kate yn ysgrifennu llythyrau at Morris ac yn fano mae’r cyffesiad.”

Dywedodd Alan Llwyd ei fod yn gwybod y byddai trafodaeth am rywioldeb Kate Roberts yn bwnc llosg – ond iddo ef, dim on “ffaith” ydyw. “Hynny ydy, mae’n bwysig iawn i gofiannydd achos mae’n adlewyrchu ar fywyd Kate, bywyd priodasol Kate a Morris ac ar ei gwaith hi. Doeddwn i’n synnu dim. Jest ffaith ydi o. Does gen i ddim hawl i gladdu ffeithiau.”

‘Gwneud cymwynas’

“Doeddwn i ddim yn gallu claddu’r dystiolaeth. Mi faswn i’n gofiannydd gwael iawn a chelwyddog ac ar ben hynny, dw i’n meddwl ei bod wedi gwneud cymwynas â hi oherwydd rhan enfawr o broblem Kate oedd ei boed hi bron â marw eisiau gadael i bobol wybod hyn,” meddai cyn datgelu bod Kate Roberts wedi sgwennu mewn llythyr at Morris ei bod wedi cael llond bol o fyw bywyd parchus a “thwyllodrus”.

Mae llawer yn credu bod ei gŵr yn hoyw.

 “Yn Morris, roedd gan Kate enaid hoff gytun,” meddai Alan Llwyd.

“Roedd ganddi rywun all ei deall hi. Dydw i ddim yn credu bod dadl am y peth. Os ydy hi’n credu ar ôl i fenyw ei chusanu ar ei gwefus nad oes dim wedi rhoi mwy o bleser iddi mewn bywyd – mae’n gyffesiad hollol agored. Ond, mae mwy na hynny hyd yn oed – roedd Saunders Lewis yn gwybod, does dim amheuaeth gen i.

“Yn syth ar ôl cwrdd â Morris ac ymddired ei chyfrinachau ynddo, mae’n ysgrifennu stori o’r enw ‘Nadolig – lle mae’r wraig yn gorfod dewis rhwng dynes arall neu ddyn, sef deurywioldeb, ac mae’n dewis y dyn – sef stori Kate eto. Ysgrifennodd hon yn union yr un flwyddyn.”

‘Gosod y gath i blith y colomennod’

Mae Alan Llwyd yn disgrifio Kate Roberts fel “eicon”.

“Roeddwn i’n gwybod beth ro’n i’n ei wneud yn gosod y gath i blith y colomennod. Ond, doedd dim modd celu’r gwir. Os dw i’n celu’r gwir, mae’n awgrymu mod i’n meddwl bod rhywbeth o’i le ar y gwir. Fyddwn i byth wedi’i awgrymu o heb dystiolaeth,” meddai.

Dywedodd bod y cofiant yn ehangach na phwnc rhywioldeb yn unig a bod “holl fywyd Kate” ynddo.

“Roedd hi’n berson dyngarol, caredig a chymwynasgar. Roedd Kate ei hun yn ymwybodol ei bod wedi troi’n fwli cas. Ond, roedd wedi suro gan daeogrwydd y Cymry, roedd hi wedi chwerwi hefyd oherwydd ei bod wedi colli ei gŵr a’i brodyr i gyd. Mae’n gofiant trist iawn,” meddai Alan Llwyd cyn ychwanegu bod Kate Roberts yn ddynes fawr, yn llenor ac yn gymwynaswraig fawr.

“Mae’r ddelwedd sydd gan ein cenhedlaeth ni ohoni yn gamarweiniol iawn. Roedd yn ddynes ddyngarol iawn, mae hynny i’w weld ym mlwyddyn marwolaeth Morris,” meddai.

“Dydw i ddim yn gweud mwy o sylw o’r ffaith ei bod hi’n ddeurywiol na’r ffaith bod hi’n aelod o’r blaid genedlaethol. “Ffeithiau ei bywyd hi yw’r rhain i mi – ond mae’n nhw’n ffeithiau na ellwch chi fyth eu hanwybyddu nhw.”

Byddai claddu’r ffeithiau  hyn yn “llwfr ac yn awgrymu bod rhywbeth o‘i le mewn bod yn hoyw,” ychwanegodd.

“Mae Kate Roberts wedi codi yn fy ngolwg i yn y ffaith ei bod wedi gorfod dioddef hyn, roedd hi’n byw mewn oes anoddefgar iawn, ddim yn gallu dweud ac roedd hyn yn ei thagu hi.”

Bydd y cofiant yn cael ei lansio yn Aberystwyth heno.

 Malan Vaughan Wilkinson

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Jason Morgan , Tachwedd 18, 2011 11:09 am

Dydi dweud bod rhywun yn ddeurywiol ddim yn llusgo eu henw nhw drwy’r baw o gwbl. Onid wyt ti’n meddwl bod dy ddewis o eirfa yn un rheswm pam bod pobl hoyw/deurywiol yn teimlo na allent fyw eu bywyd fel yr hoffent ei wneud a’u bod yn teimlo bod yn rhaid iddynt gelu eu teimladau? Tyfa fyny a derbynia pobl am fel y maen nhw wir Dduw.

Ta waeth…

Mae gan bobl ddeurywiol hyd yn oed lai o fodelau rôl na phobl hoyw, ac mae’n rhywbeth sy’n cael ei dderbyn yn llai gan bobl yn gyffredinol (mae arna i ofn gan bobl hoyw lawn cymaint â phobl heterorywiol). Yn wir fedra i ddim meddwl am unrhyw Gymry Cymraeg adnabyddus a fyddai’n disgrifio eu hunain fel “deurywiol”, ond dyna ni. Ond beth bynnag, dwi’n teimlo bod r stori uchod yn stori drist iawn ar y cyfan sy’n gwneud i rywun deimlo tosturi dros Kate Roberts yn fwy na dim arall, a rhywun digon cas fyddai’n anghytuno â hynny.

§

Deio , Tachwedd 18, 2011 11:09 am

Gallaf gydymdeimlo rywfaint â sylwadau Eifion Williams. Yn y pen draw bydd hi’n fwy o gwestiwn “pwy oedd yn strêt” yn hytrach na “pwy oedd yn hoyw/deurywiol”. Ac oes wir angen tair stori ar Golwg360 yn ailadrodd yr un pwynt am lyfr Alan Llwyd?

§

Lavinia , Tachwedd 18, 2011 11:11 am

Drwy’r baw?

Wyt ti’n cysylltu bod yn hoyw â bryntni?

§

Rhys Gethin , Tachwedd 18, 2011 11:15 am

Eifion, stopia wneud ffwl ohonot ti dy hun.

Mae’n amlwg dy fod yn meddwl fod cyfunrywioldeb yn gwneud person yn israddol. Ac mae hynny’n agwedd anfaddeuol heddiw.

§

Lavinia , Tachwedd 18, 2011 11:19 am

Efallai dylai Golwg360 ddileu ei sylw a’i gyfrif. Dyna beth fydd yn digwydd gyda sylwadau hiliol, pam ddylai homoffobia fod yn wahanol.

Mae rhai pobl yn hoyw. Deliwch â’r peth.

§

Eifion Williams , Tachwedd 18, 2011 11:25 am

Na, ddim o gwbl. Rwyn sy nabod fi yn gwybod does gen i ddim byd yn erbyn bobl hoyw o gwbl. Dwi’n eithaf hoffi caneuon Elton John. Y gwir yw tydi Kate ddim yma i ateb dros ei hun. Fuaswn i gallu cyhoeddi llyfr Beatrix Potter fory a dweud fod hi’n rhyw lesbian fawr heb unrhyw dystiolaeth ag wrth gwrs dyw hi ddim yma i ateb dros ei hun. Amlwg Rhys G, does gen i ddim hawl im barn o gwbl felly.

§

Gwilym Roberts , Tachwedd 18, 2011 12:28 pm

Ife ‘euphemism’ am lesbian yn Gymreag yw ‘Gwraig y Cigydd’ – fel ‘Friend of Dorothy’. Ydw i fod cyfwrdd blaen fy nhrwyn a rhoi winc a deud bod fod hon a hon yn ‘Wraig i’r Cigydd’ ?

Dwi’n ddysgwr a smo fi moyn gwneud ‘faux pas’ yn farced Caerfyddin.

Ymarfer: ‘Huw o ti’n ymwybodol fod Lindsay Lohan yn ‘wraig i’r cigydd’

‘Na Gwilym doeddwn ni ddim – un am y sosej o ni’n meddwl oedd hi erioed’.

Y fath gyfoeth ieithyddol – mor falch fy mod yn ddysgwr.

§

Ci'r Bwtshiwr , Tachwedd 18, 2011 1:08 pm

Gwilym. Hyd y gwn i nid euphemism yw ‘gwraig y cigydd’ . . . . ond o heddiw ymlaen . . . .wel, diolch i Alan Llwyd am ychwanegu at ein cyfoeth o ymadroddion.

§

Gwilym Robers , Tachwedd 18, 2011 7:38 pm

Alan Llwyd yn ‘ychwanegu at ein cyfoeth o ymadroddion!’ Ci’r Bwtshiwr y fi Gwilym Roberts yw tad yr ymadrodd ‘Gwraig y Cigydd’ ! Beth ddiawl waneth Alan Llwyd dros y Gymraeg erioed !

I feddwl bod dysgwr o Johnstown wedi gwneud y fath gyfraniad ac y bydd plant dosbarth chwech mewn canrifoedd i ddod yn awgrymu bod merch yn ‘Wraig i’r Cigydd’ .

Bryd ma ‘r blydi llyfr yna o Idiomau Cymraeg yn dod mas nesa ?

§

Osian , Tachwedd 18, 2011 7:41 pm

Eifion, ti’n trio gwadu homoffobia drwy ddeud dy fod yn ‘eitha hoff o ganeuon Elton John’? Ydi ‘nifer o dy ffrindiau yn ddu’ hefyd ma siwr? Achos yr un ddadl bathetig ydi hi.

§| Nodi camddefnydd

eirwen haf , Tachwedd 18, 2011 10:59 pm

Lle mae’r dystiolaeth cynradd? A fyddai hyn wedi ei gyhoeddi os fyddai Kate dal yn fyw?

§

Ceri , Tachwedd 19, 2011 1:01 am

Trolo mae Eifion – ma hwnna’n itha amlwg. Pidwch a gadal iddo dynnu ar neb. Trolo yn yr yr ystyr bod yn boen yn y pen ol a malu cachu wi’n ei feddwl ond mae ystyr arall i drolo, sef wilo am y pen ol a walla bo Eifion cymaint yn ei erbyn fel taw hwnna ma fe moyn go iawn. Bobol bach!!

§| Nodi camddefnydd

Dylan Llyr , Tachwedd 19, 2011 9:48 am

dim ond nodyn i ddweud mai’r sylw isod:

“does gen i ddim byd yn erbyn bobl hoyw o gwbl. Dwi’n eithaf hoffi caneuon Elton John.”

ydi’r doniolaf i mi ei glywed ers peth amser.

gair o gyngor i Eifion: shhh. Ti’n dwp fel slej, felly gwell peidio agor dy geg â chadarnhau’r ffaith i bawb.

§

Ifor Hughes , Tachwedd 19, 2011 9:04 pm

Fel dywedodd yr hen Ddame Edna

“Lesbianism has always left a very nasty taste in my mouth!”
Ie Alan Llwyd ma hyn wedi cael blas cas yng nghegau’r Genedl !

Heb law am un Eifion …does ganddo fe ddim bwriad i fod i lawr y route yna diolch byth !

§| Nodi camddefnydd

Gareth , Tachwedd 21, 2011 9:28 am

Neges Deio yw’r gallaf yma. Yn wir, mae gan Golwg 3 stori am yr un peth yma yn y llyfr – y ‘non-story’ yma, sydd ddim yma nac acw nac yn gwneud iot o wahaniaeth.

Rwyf wedi dechrau darllen y cofiant, ac mae SAWL PETH mwy dadleuol na hyn ynddo! Yn enwedig ymdriniaeth Alan Llwyd os caf awgrymu.

§

Gwilym Prydderch , Tachwedd 22, 2011 12:50 pm

O son am briod-ddulliau, onid ydy un Alan Llwyd am “osod y gath i blith y colomennod” yn erchyllbeth o gyfieithiad slafaidd y dylai unrhyw lenor ei hosgoi?

§

Owain Schiavone , Tachwedd 28, 2011 10:32 am

Mae arnaf ofn ein bod wedi gorfod tynnu cwpl o sylwadau gan Eifion Williams o’r drafodaeth hon gan ein bod yn teimlo eu bod yn anaddas.

Ga’i gymryd y cyfle yma i dynnu sylw pawb ar ganllawiau defnyddio’r adnodd sylwadau ar y wefan plis: http://www.golwg360.com/gwybodaeth/telerau-ac-amodau

Diolch
Owain Schiavone, Prif Weithredwr Golwg360

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.