Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Question Time yn corddi’r Cymry

Tachwedd 18, 2011 11:06, Diweddarwyd am 14:45



Mae Golygydd Materion Cymreig y BBC wedi ymuno â’r llu o gwynion am rifyn o Question Time a ddarlledwyd o Aberystwyth neithiwr.

Yn ôl Vaughan Roderick cafodd Cymru ei hesgeuluso gan y rhaglen neithiwr, wrth iddyn nhw wrthod trafod materion Cymreig, ac annog panelwyr i ganolbwyntio ar faterion o safbwynt “Prydeinig”.

Mae Golwg360 bellach wedi derbyn ymateb gan y BBC i’r cwynion.

Yn ôl llefarydd y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig mae Question Time yn ceisio “adlewyrchu a thrafod cymysgedd o faterion cenedlaethol a rhyngwladol law yn llaw â materion sy’n perthyn i’r mannau o lle mae’r rhaglen yn cael ei recordio. Mae’n rhaid i’r testunau hynny fod o ddiddordeb i gynulleidfa eang y Deyrnas Unedig.

 “Neithiwr roedd y cwestiynnau yn adlewrychu’r materion yr oedd y gynulleidfa yn Aberystwyth eisiau eu trafod. Mae’r gynulleidfa yn y stiwdio yn aml yn darparu deimensiwn lleol i’r drafodaeth, fel yr oedden nhw neithiwr ar faterion fel diweithdra a ffermydd gwynt.”

Roedd Vaughan Roderick yn trydar ar wefan Twitter neithiwr – o gyfrif personol y newyddiadurwr, lle mae’n datgan mai ei farn ef, ac nid barn y BBC, yw sail y sylwadau.

“Digon yw digon. Falle fydda i mewn trwbwl am ddweud hyn, ond beth yw’r pwynt i #bbcqt ddod i Gymru os ydyn nhw’n mynd i anwybyddu Cymru?” holodd ar ei gyfrif twitter.

Mae’r un gŵyn wedi ei hadleisio gan nifer ar y wefan gymdeithasol, gyda sawl un yn gofyn ble’r oedd y drafodaeth ar faterion Cymreig, a ble’r oedd yr ystyriaeth i ddatganoli yn y rhaglen.

Mae Vaughan Roderick hefyd wedi beirniadu’r rhaglen am ofyn i Weinidog Tai San Steffan fod ar y panel, er bod y mater wedi ei ddatganoli i Gymru a bod gan Gymru ei Gweinidog Tai ei hun.

“Grant Shapps yw Gweinidog Tai Lloegr. #bbcqt yn atal gwleidydd Cymreig rhag siarad am Gymru,” meddai.

‘Nid cynulleidfa leol’

 Yn ystod y 12 awr diwethaf, mae nifer o Gymry ar wefan gymdeithasol Twitter wedi bod yn cwyno am y rhaglen, ac am y diffyg cynrychiolwyr Cymreig oedd yn y gynulleidfa.

Roedd cwynion tebyg y tro diwethaf i Question Time yn Aberystwyth, gyda Chymry’n gofyn beth oedd pwynt dod i Gymru os oedd y cynhyrchwyr ond yn bysio pobol i fewn o Loegr ar gyfer eistedd yn y gynulleidfa.

Yn ôl un o banelwyr y rhaglen doedd yna ddim llawer o bobol leol yn y gynulleidfa.

Mewn neges ar Twitter dywedodd yr Aelod Cynulliad Elin Jones fod “pobol wedi dod o bell heno i Aber. Hyd yn oed Dimbleby ffaelu credu fod cyn lleied o Gymru!”

Dywedodd Elin Jones wrth Golwg360 nad oedd llawer iawn o’r gynulleidfa yn gyfarwydd iddi hi, er mai hi yw’r Aelod Cynulliad lleol.

“Dw i’n gyfarwydd iawn â nifer o bobol yng Ngheredigion,” meddai Elin Jones, “ond do’n i ddim yn gyfarwydd â’r wynebe yn y gynulleidfa ’na neithiwr.”

Yn ôl Elin Jones, a fu’n siarad gyda chynhyrchwyr y rhaglen ar ôl ffilmio neithiwr, mae’n “batrwm arferol i gael pobol i mewn o bellter” ar gyfer y rhaglen.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad wrth Golwg360 nad oedd fformat y rhaglen wedi ei synnu rhyw lawer.

 “Oedd hi’n rhaglen arferol i Question Time, p’un ai bod nhw’n ymweld â Chymru neu’r Alban,” meddai.

 “Ond fydden i wedi hoffi gweld mwy o bobol leol yn y gynulleidfa.”

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y BBC.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Kevin Davies , Tachwedd 18, 2011 11:13 am

Rhaid i mi anghytuno yn barchus â sylw Elin yn yr erthygl. Fel gwyliwr cyson o raglen Question Time, mae wastad wedi synnu fi fod triniaeth y rhaglen o faterion yr Alban pan mae’n mynd i’r Alban yn barchus a pherthnasol, tra fod unrhyw raglen o Gymru yn cael ei thrîn fel unrhyw raglen arall o unrhyw ran o Loegr. Er tegwch i rai o’r panel neithiwr, geision nhw roi ongl Gymraeg ar ambell i bwnc cyn cael eu stopi a’u beirniadu gan Dimbleby !

§

Ifan , Tachwedd 18, 2011 11:15 am

Werth nodi hefyd mai cwmni o Gymru, Tinopolis o Lanelli, sy’n cynhyrchu’r rhaglen!

§

Geraint , Tachwedd 18, 2011 11:36 am

Dwi’n cofio un rhaglen QT o Gaerdydd cwpwl o flynyddoedd yn ôl (Elfyn Llwyd oedd yr unig Gymro ar y panel) a ddarlledwyd ar noswyl gêm rygbi Cymru v Ffrainc, a’r cwestiwn:
“Should John Terry stand down as England captain following allegations of his affair?”

§

Siôn , Tachwedd 18, 2011 12:41 pm

Dwi bellach ddim yn credu bod modd cynnal rhaglen Question Time ar draws Prydain. Mae’n rhy gymleth – mae tai, addysg, iechyd, trafnidiaeth, economi i wahanol lefel, ditto amgylched etc etc wedi eu rhannu ymhlith 4 senedd. Does dim senedd Prydain Fawr i’w gael bellach. Mae’n amlwg nad yw QT am gydnabod hyn yn llawn gan fod mwyafrif llethol eu gwylwyr yn Lloegr.

Unai mae angen i #bbcqt benderfynnu mai’r unig gwestiynnau sydd i’w trafod yw rhai sy’n draws-Brydeinig – polisi tramor, rhyfel, trethiant a pheidio trafod iechyd, addysg etc, neu, mae jyst angen cydnabod nad oes modd gwneud y rhaglen yn iawn.

Mae Pawb a’i Farn yn Gymraeg ac mae angen QT Wales, Scotland, NI. Rhan o’r broblem mae’n siwr gen i yw fod nifer o’r bobl hynny sy’n byw yng Nghymru ac yn gwylio a chymryd rhan yn QT ddim yn ymwybodol fod polisi iechyd, addysg, amgylchedd Cymru yn wahanol i un Llundain gan nad ydynt yn gwylio na gwrando ar y cyfryngau Cymreig.

Dwi wedi hen roi’r gorau i wylio’r rhaglen. Dydy QT ‘not fit for purpose’ ys dwedan nhw.

§

Steffan Prys , Tachwedd 18, 2011 1:20 pm

Mi oedd Cadeiryddiaeth David Dimblbey yn warthus! Roedd ei agwedd sarhaus at Elin Jones yn ddigon i gorddi unrhyw un, yn mynnu iddi ateb bob cwestiwn mewn cyd destun Prydeinig. Prin gyfle oedd ganddi i siarad o gwbl. Mi fysai rywun wedi gallu cymryd fod y rhaglen wedi’i darlledu o Aberdeen ac nid o Aberystwyth!

Roedd gweddill y Panel yr un mor anwybodus am faterion Cymreig a siom nad oedd cyfle i’r gynulleidfa gyfrannu o gwbl at unrhyw drafodaeth (heblaw am ambell i fyfyrwyr Llafur swnllyd, orhyderus). Mi roedd y rhaglen neithiwr yn rybudd clir o’r bygythiad sy’n wynebu dyfodol darlledu yn y Gymraeg – y BBC (neu yn hytrach EBC) a phawb arall wedyn.

§

Iwan Rhys , Tachwedd 18, 2011 1:26 pm

Mae Siôn yn taro’r hoelen ar ei phen.

Ddylen ni ddim drysu’r peth gan alw am gael trafod materion lleol ar QT, achos dwi wedi clywed pobl o ardaloedd o Loegr yn cwyno nad yw QT yn trafod materion sy’n lleol iddyn nhw, ac ateb cynhyrchwyr QT yw bod QT ond yn trafod materion ar lefel Prydeinig.

Ond fel mae Siôn yn dweud, dim ond llond dwrn o faterion Prydeinig sydd ar ôl, felly’r opsiynau yw:
i) cynnal QT sy’n trafod rheiny a dim arall;
ii) cynnal QT sy’n trafod rheiny plus ambell fater lleol, lle bynnag mae’r rhaglen yr wythnos honno;
iii) rhaglenni ar wahan i’r gwledydd unigol.

Mae QT yn gwneud cam mawr â’r gwylwyr yng Nghymru drwy eu hannog i gredu bod polisiau Lloegr yn berthnasol i Gymru.

Da iawn Vaughan am godi dy ben uwch y parapet.

§| Nodi camddefnydd

Neilyn , Tachwedd 18, 2011 1:38 pm

Yn ol fy rhesymeg bach mewnblyg i, os nad yw materion Cymru yn faterion Prydeinig yna nid yw Cymru yn rhan o Brydain.

§

John Vaughan Williams , Tachwedd 18, 2011 1:48 pm

sylw craff iawn Neilyn , beth am sylwadau un o banelwyr hefyd, “there’s something more romantic about a drowned valley” pan yn son am ‘ildio’r mynyddoedd’ yn y canolbarth i’r melinau gwynt…
Sain cred fod pobl Cwm Celyn erioed wedi gweld y peth yn rhamantus o gwbl!
Yn y bon – mae’r rhaglen hon yn dangos diffyg barch a’r DD yn dweud wrth Elin mwy na lai i gau ei cheg am Gymru… what about England? What about Britain? meddai fod tro ar ol tro! Faint o QT’s dan ni’n gorfod gwylio – ydy e erioed wedi dweued “what about Wales and Scotland” dw i’n amau!

§

Dafydd annwyl , Tachwedd 18, 2011 2:14 pm

Cofiwch mai cwmni Cymraeg sydd bia’r cwmni sy’n cynhyrchu QT i’r BBC.

§| Nodi camddefnydd

Gerwyn Preis , Tachwedd 18, 2011 2:21 pm

Pwy felly dafydd annwyl?

§

Iwan Rhys , Tachwedd 18, 2011 2:56 pm

Tinopolis, mae’n debyg, Gerwyn.

Pwynt da Neilyn.

- Dyw portffolio Grant Shapps (Gweinidog Tai San Steffan) ddim yn fater Prydeinig.
- Dyw portffolio Andrew Lansley (Gweinidog Iechyd San Steffan) ddim yn fater Prydeinig.
… ac yn y blaen.

§

Barry , Tachwedd 18, 2011 3:00 pm

Tinopolis, rwy’n meddwl.

§

Gerwyn Preis , Tachwedd 18, 2011 3:03 pm

Wel wel Iawn Rhys….wyddwn i ddim. Gwael felly. Beth am glywed Angharad Mair, sy’n ddigon uchel ei chloch yn ei cholofn, yn egluro hyn felly?

§

Gerwyn Preis , Tachwedd 18, 2011 3:03 pm

Iwan Rhys odd hwnna i fod….sori teipo…!!

§

Iwan Rhys , Tachwedd 18, 2011 3:55 pm

Mae Iwan yn Iawn gan amla!

§

Jones , Tachwedd 18, 2011 4:17 pm

Geraint- cofio hynny iawn! Mae BBCQT yn deud bod nhwn cymeryd cwesitynau or cynulleidfa- yn dwi ddim yn meddwl mai un o PRIF gwestiynau yn Caerdydd ar y pryd oedd John Terry.

Ond na- mar peth yn dechra mynd yn joc.
Allai ddim gweld sut gall BBCQT newid, dwi or farn y dylid bod yna un ar draws Prydain (i ni cael clywed am broblemau ardaloedd eraill). Ond wir- dylai bod yna reol bod 50% or cwestiynau am dan yr “rhanbarth” leol- oherwydd dwi eisiau gwybod am problemau’r Alban, a dwin siwr bod heini eisiau clywed am Gymru.

Y joc ydy- pwy sydd yn cynhyrchu BBCQT? Tinpolis! Diolch Angharad Mair!

§

Eifion Lloyd Jones , Tachwedd 18, 2011 5:07 pm

Mae’n annheg beio Angharad Mair am bolisi’r BBC. Nid y cwmni cynhyrchu/technegol/adnoddau sy’n golygu’r cynnwys. Roedd ffocws Dimbleby ar Brydain yn unol â pholisi’r BBC ar gyfer eu rhaglen eu hunain.

§

Eirion Rhys , Tachwedd 18, 2011 5:27 pm

Roedd mam Dimbleby yn dod o Gaerfyrddion ond er gwaetha hynny, mae e’n Dori rhonc sy’n casau cenedlaetholdeb Cymreig!

§

Ifor Hughes , Tachwedd 18, 2011 6:40 pm

Blydi hell ‘as if’ bod Angharad Mair yn cael ‘ymyrryd’ yn olygyddol yn Question Time ! Ma digon o waith da hi gyda’r rhaglenni Cymraeg. Os bydde’r criw yn Llanelli yn ‘ymyrryd’ yn y rhaglen bydde’r BBC lawr arnyn nhw fel tonne of bricks. O bosib fod datganoli wedi gwenud y fformat presenol yn ‘unfit for purpose’ ond tim cynhyrchu yn Glasgow yn atebol i’r BBC sy’n gyfrifol am y rhaglen ac ma nhw’n ‘rhydd’ o ‘ymyrraeth’ olygyddol o Gymru. Gobeithio fod y sawl sydd am i S4C fod yn annibynnol o’r BBC yn deall fod tim cynhyrchu Tinopolis yn yr Alban yn ‘annibynnol’ o Lanelli.

Gyda llaw dwi ddim yn dweud am eliad doedd yna ddim problemau gyda’r rhaglen neithiwr – dwi ddim wedi gweld hi eto – ond plis ymosodwch ar y BBC yn Llundain a thrwy hynny y tim cynhyrchu yn yr Alban. Dalltwch na all Tinopolis ymyrryd yn y rhaglen yn olygyddol a DYNA yn union fel dyle peth fod. Yn dawel bach siwr braidd bod Angharad Mair mor grac a chi !

§

marc , Tachwedd 18, 2011 9:41 pm

Roedd problem debyg efo Any Questions yn Wrecsam yn ddiweddar. Doedd na fawr neb o Wrecsam wedi cael gwahoddiad i fod yn y gynulleidfa, er i nifer ohonom wneud cais.
Er holi’r BBC drwy FOI am gynnwys y cynulleidfa (o ran eu tarddiad), cafodd y cais ei wrthod oherwydd fod na eithriad ar sail “newyddiaduraeth”.
Cytuno efo’r sylwadau uchod – not fit for purpose oherwydd (a) datganoli a (b) agwedd imperialaidd y BBC.

§

Eurwen , Tachwedd 18, 2011 11:15 pm

Cafodd cwestiwn gan grwp arbed dymchwel Canolfan Dydd yr Henoed, Aberystwyth ei dderbyn gan QT. Gofynnwyd i’r Cadeirydd fod yn bresennol, ond er hynny, ni chafodd gyflwyno ei gwestiwn, cwestiwn ‘Prydeinig’ sef: A oes gan ddatblygiadau eiddo corfforaethol mawrion (e.e. sy’n gweithredu yn enw archfarchnadoedd mawrion) ormod o ddylanwad ar benderfyniadau Llywodraeth Leol?” Rentanaudience oedd yno rwy’n credu. Pwff!

§

Angharad Mair , Tachwedd 19, 2011 9:15 am

Cwpwl o bwyntiau: Yn gyntaf, rwyf wedi siarad a chynhyrchwyr QT ac wedi cael sicrhad fod pob un heblaw 2 o’r gynulleidfa yn byw o fewn 40 milltir i Aberystwyth. Beth mae hyn yn ddangos yw effaith mewnfudwyr a myfyrwyr ar yr ardal. Dyna pam nad ydym ni Gymry Cymraeg yn adnabod y gynulleidfa ‘leol’ hon. Yn sicr roedd y gynulleidfa yn tanseilio un o gryfderau mwyaf QT sef y blas a’r farn gref o’r ardal a roddir ar faterion a ellid eu trin a gogwydd leol, yn ogystal a’r straeon Prydeinig a rhyngwladol – er engraifft fel ddigwyddodd yn Newcastle yn ddiweddar. Ond faint ohonoch chi sy’n cwyno wnaeth gais eich hunain i fod ar y rhaglen?
Ac yn ail nid Tinopolis (na Mentorn y cwmni cynhyrchu sy’n gyfrifol am QT) sy’n cyflogi Dimbleby. Y BBC sy’n ei gyflogi’n uniongyrchol. Nid oes gennym unryw ddylanwad arno i beidio a thrin rhywun fel Elin Jones yn ddilornus wrth fynnu ei bod yn ateb cwestiwn am y DG yn hytrach na Chymru yn unig.

§

Dylan Llyr , Tachwedd 19, 2011 9:33 am

Dw i wedi peidio gwylio Question Time ers blynyddoedd am yr union reswm yma. Beth ddiawl yw pwynt symud o le i le os nad yw materion lleol am gael unrhyw fath o sylw? Ac fel mae llawer wedi’i nodi, mae’r ffaith bod datganoli wedi gwneud portffolio rhai o’r panelwyr yn amherthnasol yn y dref lle mae’r rhaglen yn cael ei darlledu yn gwneud yr holl beth yn ffars. Cadwch yr holl sioe yn Llundain; byddai hynny’n arbed costau teithio i’r gynulleidfa hefyd.

Da iawn Vaughan am dynnu sylw at hyn.

§

John Vaughan Williams , Tachwedd 19, 2011 10:28 am

Angharad Mair, rwyf yn athro yn yr ardal, byw yn y Borth, gwnes i gais ac un ffrind arall hefyd, chlywom ddim yr un gair gan neb am y cais ar gyfer tocynnau. Felly wnaeth llawer o bobl leol dw i’n adnabod gwneud cais… heb lwyddiant!

§

Jones , Tachwedd 19, 2011 10:46 am

Angharad Mair: pwy sydd yn dewis y cwestiynau sy’n cael ei gofyn? Dwin siwr bysa o leiaf un person yn y gynulleidfa wedi gofyn am rhywbeth sydd wedi’i datganoli e.e y busnes organau.

Ond na, mae rhywun wedi penderfynnu dewis y cwestiynau; ac fel sydd wedi cael ei dweud yn barod- yn y gorffenol wedi gofyn am capten Lloegr, tra bod yn Nghymru- PWY SYN DEWIS Y CWESTIYNAU?

§

Angharad Mair , Tachwedd 19, 2011 11:21 am

John Vaughan Williams – diolch am eich sylw. Os hoffai unrhywun wnaeth gais i fod ar y rhaglen a methu cael lle gysylltu a fi yn uniongyrchol angharad.mair@tinopolis.com mae croeso i chi wneud hynny.
Jones – o ran y cwestiynau – mae’n gwneud synnwyr bod y cwestiynau yn weddol gyffredinnol (mae hyd yn oed Pawb a’i Farn yn dioddef yn fy marn i pan fo’r cwestiynnau yn rhy lleol ac o ddim diddordeb i weddill Cymru) ond yr hyn sy’n digwydd fel arfer yw bod cynulleidfa leol yn gallu rhoi blas a barn leol amdanynt. Hyd yn oed pan ofynwyd cwestiwn twp am dim peldroed Lloegr fe lwyddodd y gynulleidfa – ac Elfyn Llwyd os cofiai’n iawn – i ddangos i QT bod hwn yn gwestiwn twp yng Nghymru.

§

huw prys jones , Tachwedd 19, 2011 1:42 pm

Petai gan Question Time bolisi cyson o ganolbwyntio ar gwestiynau sy’n berthnasol i’w holl wylwyr ledled Prydain mi fyddai rhywun yn medru deall a pharchu’r peth.

Ond pan ddarlledwyd y rhaglen o Gaernarfon rai blynyddoedd yn ôl, roedd Dimbleby yn fwy na bodlon neilltuo hanner y rhaglen i stori ‘blwyfol’ a phrin iawn ei pherthnasedd i drwch y gwylwyr – sef sylwadau un o gynghorwyr Gwynedd, Seimon Glyn, am fewnfudo i ben Llŷn.

Yng Nghaernarfon hefyd, prin fod unrhyw Gymro na Chymraes yn y gynulleidfa – ac roedd hi’n gwbl amlwg fod yna bobl dod yno’n unswydd er mwyn heclo Ieuan Wyn Jones.

Does gen i ddim amheuaeth chwaith – er na ellir profi hynny – fod Dimbleby wedi bod yn cyd-gynllwynio efo Glenys Kinnock i gornelu Ieuan Wyn Jones efo sylwadau dadleuol Seimon Glyn.

Lle mae rhaglen nos Iau yn y cwestiwn, dw i ddim yn meddwl mai atebion Elin Jones oedd yn tramgwyddo Dimbleby – ond yn hytrach nad oedd o’n credu ei bod hi’n berson digon pwysig i gael sylw teilwng ar ‘National Television’.

O wrando arno’n sylwebu ar seremoni Sul y Cofio’r wythnos ddiwethaf, sylwais arno fwy nag unwaith yn camddefnyddio’r achlysur i fynegi ei agweddau cenedlaetholgar Prydeinig ei hun. Y gwir amdani ydi mai dyn ydi efo’r gair ‘BRIT’ wedi ei ysgrifennu mewn llythrennau bras ar draws ei dalcen.

§

Dylan Llyr , Tachwedd 19, 2011 2:08 pm

dim ond nodyn i wneud y pwynt bod Lloegr o fewn 40 milltir i Aberystwyth!

§

Ifor Hughes , Tachwedd 19, 2011 3:17 pm

Dwi bellach wedi gwylio’r rhaglen a sori doeddwn ni ddim yn gweld fawr o broblem gyda hi – i ddeud y gwir roedd hi eitha diddorol.

Dwi’n meddwl fod na ryw fath o ‘collective hysteria’ ar waith fan hyn . Y gwir blaen amdani yw taw rhaglen ar gyfer cynulleidfa Brydeinig oedd hi fod, nawr a ddylid datganoli darlledu a chynhyrchu fwy o raglenni’n Saesneg ar gyfer Cymru – wel yn naturiol dylid ond smo hynny’n obsiwn ar hyn o bryd ac er bod pethe’n gwella ym mhob maes arall ma darlledu yn mynd sha nol o safbwynt datganoli.

Roedd yna awgrym yn y sylwadau uchod hefyd fod cwmni o Gymru yn gyfrifol am y sylw ynglyn a boddi cymoedd – how come ? Simon Jenkins wedodd hwnna a wnaeth e ddim dwed e mewn ffordd ddilornus o gwbwl. Cyfranwr oedd e ac yn y gorfennol ma fe wedi bod eitha cefnogol yn ei golofn i Blaid Cymru.

Yn olaf a dwi gwybod nawr aeth pobl yn boncyrs da fi – ond smo Elin Jones yn berson hynod o articulate yn Saesneg a doedd hi ddim yn gallu dal ei thir yn y panel yna. Ma dod o hyd i bobl i siarad ar ran Blaid Cymru sy’n effective yn Saesneg yn un arbennig o acute bellach, ers i Dafydd Wigley gael y cyllell smo rhaglenni gwleidyddol Saesneg yn ‘happy viewing’ i genedlaetholwyr. Gobeithio daw Adam Price nol yn fuan.

Yn olaf dwi meddwl fod Aberystwyth fwy na deugain millitir o Loeger – but I could be wrong.

§

Jones , Tachwedd 19, 2011 5:16 pm

Ifor- dwin deall dy bwynt di, mai rhaglen PRYDEINIG yw BBCQT, nid un Saesneg.

Beth sy’n anheg ydy pan mae rhaglenni yn rhywle fel Llundain, rhaid i ni wrando am rhywbeth am yr NHS neu addysg (pan rywbeth SEISNIG yw hynny). Tra mae o yn Chymru sa ni BYTH yn cael son am rhywbeth sydd wedi’i ddatganoli- dyna beth sydd yn anheg.

Rhaid i Tinopolis rhoi tegwch i pob rhan o’r DU.

Yn bersonol, dwi o’r farn y dylid BBCQT son am bethau “lleol” fyswni wrth fy modd cael gwybod am be syn digwydd yn ysbytai Sir Efrog….. oherwydd os dion gorfod bod yn raglen “i Prydain-oll” – beth yw’r pwynt mynd a’r rhaglen o gwmpas y DU?- pam ddim cadw fo’n Llundain!?

§

Ken , Tachwedd 19, 2011 5:38 pm

Buasai’n gryn syndod i mi petai yna Gymry Cymraeg o gwbl ar ol yn ardal Aberystwyth. Mae yma (a) myfyrwyr (b) mewnfudwyr
(c) teuluoedd fu’n ddi-Gymraeg ers cenedlaethau (b) teuluoedd
sydd bellach yn dewis bod yn di-Gymraeg , serch eu cefndiroedd.

§

Crebwyll , Tachwedd 19, 2011 7:50 pm

Diolch Ken, am ei ‘dweud hi fel y mae’ erbyn hyn yn ardal Aberystwyth.

§

Ifor Hughes , Tachwedd 19, 2011 8:58 pm

Y gwir blaen amdani yw bod rhaid datganoli darlledu smo hwn i gyd yn gweithio eto – gyda’r hyn sy’n digwydd yn yr Alban tybed o bosib fod y Llywodraeth yn defnyddio y BBC fel agent of influence
i gadw Prydain gyda’i gilydd?

§| Nodi camddefnydd

Roy Roberts , Tachwedd 20, 2011 12:52 pm

I ychwanegu ychydig o wybodaeth ffeithiol i’r ‘Collective hysteria’ (fel y cyfeiriwyd gynt) at hyn, gan gofio fod nifer o’r sylwadau gan rai oedd heb hyd yn oed wylio’r rhaglen…
1. Roeddwn i yn y gynulleidfa, ac roedd nifer o Gymry Cymraeg yn rhan o’r gynulleidfa hefyd, a Cymry mae’n debyg oedd y rhan helaethaf o’r gynulleidfa. Ond fe synais mor bell oedd rhai yno wedi teithio – o’r Bermo, Tywyn, Caerfyrddin, Abertawe, Caerdydd ac ambell un o tu hwnt i’r ffin. Ac yn amlwg rhai wedi teithio yn bell i wneud pwynt arbennig e.e. melinau gwynt.
2. ‘Roedd llawer o fyfyrwyr yn y gynulleidfa – rhai a diddordeb arbennig mewn gwleidyddiaeth/cyfryngau – ond mae traean o boblogaeth Aberystwyth yn fyfyrwyr, y mwyafrif ohonynt o tu allan i Gymru. Fawr o syniad felly fod nifer helaeth o fyfyrwyr
di-Gymraeg yn y gynulleidfa.
3. ‘Roedd rhydd i bawb geisio am docyn trwy broses go faith – llenwi ffurflen arlein go fanwl, danfon cwestiynau i fewn, a cyfweliad ar y ffon. Ond clywais llawer yn dweud bod ei cyfeillion/aelodau eraill o’r teulu wedi methu cael tocyn er ceisio. (Digwyddodd hyn i mi.)
4. Mae gofyn i bob aelod o’r gynulleidfa gynnig 2 gwestiwn, felly mae dewis o rai cannoedd o gwestiynau ar gyfer y rhaglen, ac yn ol y rhaglen fe ddewisir y pynciau yn ol y nifer o gwestiynau a gynigir ar bob pwnc.
5. R’wyn meddwl mae pump pwnc a drafodwyd – 2 rhyng-genedlaethol (Eurozone a Syria) a 3 oedd yn berthnasol i Gymru – diweithdra (gyda cyfeiriadau i Gymru), ysmygu mewn ceir (gan gyfeirio at gynigion Llywodraeth Cymru) a melinau gwynt (gan drafod hyn mewn cyswllt a Chymru). Ac ‘roedd y pump o banelwyr yn cynnwys yr AC lleol, AS o Gymru, ac un arall a chysylltiadau Cymreig.
6. Y BBC sy’n gyfrifol yn olygyddol am y rhaglen, nid Mentorn ac yn sicr nid Tinopolis.
7. Mae gan Gymru ei QT ei hyn, sef Pawb a’i Farn. Ond fel y dywedwyd eisioes, mae yna beryg i’r rhaglen yno fod yn rhy blwyfol ambell waith, e.e. trafod ad-drefnu addysg lleol, neu trafod a ddylai archfarchnad ddod i’r fro.

§

Darlledwr , Tachwedd 20, 2011 12:53 pm

Fel rhywun sydd wedi gweithio’n agos a’r rhaglen ar lefel broffesiynnol nifer o weithiau, werth nodi bod y sylwadau am Mr Dimbleby yn agos iawn at y gwir.
DD sy’n rheoli penderfyniadau golygyddol y rhaglen yn llwyr a fo’n bersonol sy’n dewis y cwestiynnau. Hyd y wela i does ganddo ddim dylanwad uniongyrchol ar ddewis y gynulleidfa beth bynnag.
Ar fater y gynulleidfa, mae’n amlwg o fod wedi gwylio rhaglen nos Iau, eu bod nhw rywsut wedi gadael i brotestwyr yn erbyn melinau gwynt ym Mhowys gymryd nifer fawr o seddi. Dim syndod wedyn fod cwestiwn am melinau gwynt wedi’i ddewis hefyd.
Ond ar y cyfan, does dim rheolaeth dros agwedd DD tuag at Gymru, ei Chynulliad a’i phobl. Mae hynny’n broblem y gallai’r BBC ei datrys yn rhwydd pe bai’r ewyllus yn bodoli.
I ddilyn meddylfryd Sepp Blatter – efallai bod DD yn meddwl bod ‘handshake’ ar y diwedd yn gwneud iawn am y peth!

§

Michael , Tachwedd 20, 2011 1:58 pm

Pam na fydde Plaid Cymru’n cynnig Ron Davies ar gyfer QT ? ma fo’n gallu rhoi brawddeg at ei gilydd yn Saesneg.

§

Jones , Tachwedd 20, 2011 3:37 pm

Darlledwr:
diddorol dros ben. Yn fy marn i, nid problem cynulleidfa oedd BBCQT (yn amlwg roedd nifer o Gymru Gymraeg arno). Y problem oedd (ac sydd wedi bod yn y gorffenol) ydy y cwestiynau sydd wedi cael ei ddewis.

Yn y gorffenol mae cwestiynau am capten Lloegr wedi dod fyny ar BBCQT yng Nghymru- wan ydy DD wirioneddol yn dweud i mi mai hwna oedd un o’r prif gwestiynau a wnaeth cael ei gofyn?

Rhaid i Tinpolis a’r BBC ddechra cymeryd rheolaeth a penderfynnu pa gwestiynau sy’n cael ei ddewis. Wrth gwrs nid yw cwestiwn am datganoli am ddiddori dyn o ysgol breifat, a oedd yn arfer bod yn rhan o’r Bullingdon Club.

Roy Roberts;
Nid oedd cwestiwn am ysmygu yn wirioneddol yn ymwneud a Gymru. Pwynt sydd wedi cael ei chodi yn Lloegr yw hwn i Loegr…. dim ond Elin nath gyfeirio a dweud bod y Cynulliad wedi “meddwl” am hyn yn y gorffenol. Felly ia, cwestiwn am Loegr yng Nghymru oedd hynny. (Ond rhaid deud, dio ddim CWEIT mor ddrwg a rhai dani di cael yn y gorffenol megis NHS a capten Lloegr).

Rhaid hefyd cymharu panel oedd yn yr Alban. Dwin meddwl oedd pob un ond am un hefo ryw fath o rol yn Lloegr- nid dyna oedd yr achos yng Nghymru – pam gyrru gweinidog sydd ddim hefo pwer yng nghymru (lot o’i rol wedi’i ddatganoli).

Anghytuno bod Cymru hefo BBCQT ei hyn- be am dan y rhai sydd ddim yn gallu siarad yr iaith gymraeg?
A dwin meddwl bod PaF yn dda oherwydd bod ambell cwestiwn blwyfol….. nid dyna yw pwynt BBCQT (os ddim, pam ddim cynnal y sioe yn “bybl” San Steffan). Ac os ydy BBCQT ddim i fod yn blwyfol- ydy hynny yn feddwl bod pob maes sydd wedi’i ddatganol yn bynciau caiff byth ei trafod?? Ydy hynny yn meddwl na fydd y Saeson yn cael son am yr NHS, Tai ayyb ar y sioe?

Wyt ti hefo cysylltiadau gyda’r BBC neu Tinopolis!?

§

Ar y QT. , Tachwedd 20, 2011 6:46 pm

Wiw! Ma’r pwnc yma wedi cynhyrfu’r dyfroedd. Mewn ymdrech i gadw’r drafodaeth i fynd hyd at 50 o sylwadau – record i Golwg 360 mae’n siwr, dyma fy nghyfraniad i.

Dyw Aberystwyth ddim yn gwbl ddi-gymraeg fel mae Ken a Crebwyll yn ‘i gweld hi. Ac i Ifor Hughes, mae’r ffin agosaf 35.6 ml o ganol y dre – yn ol hediad y fran.

§

Ifor Hughes , Tachwedd 20, 2011 8:24 pm

Ar y QT;-

Nid brain oedd y cynulleidfa ac ma’r ffyrdd yn y canolbarth mor stret a Kate Roberts.

§

Ann Onn , Tachwedd 24, 2011 3:44 pm

Mae hi ‘run fath pob tro BBC england rules the waves ydi hi. Peiriant propoganda yr ynys Brydeinig ‘na sydd a’r M25 fel ei glannau ydi’r BBC.
Dwi wedi rhoi y gorau i wrando a gwylio ar y propoganda Seisnig y BBC gan ei fod mor amherthnasol i bobl Cymru a’r Alban, os nad wrth gwrs fod yna newyddion drwg am Gymru. Mae yna well gobaith o gael newyddion o Gymru o Ddulyn!
Diolch i Golwg360 am newyddion sy’n berthnasol i ni, ac i Russia Today a Al Jazzeera am newyddion rhyngwladol.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.