Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Dileu grant cylchgrawn Cymraeg – ‘cywilyddus’

Tachwedd 18, 2011 13:57, Diweddarwyd am 13:59


Dr Simon Brooks
Mae cylchgrawn llenyddol Cymraeg i bobol ifanc wedi colli grant blynyddol o £6,000.

 Dywedodd un o sylfaenwyr y cylchgrawn Tu Chwith,  wrth Golwg360 bod dileu’r cymhorthdal yn benderfyniad “cywilyddus”.

Ond yn ôl y Cyngor Llyfrau, sy’n dosbarthu grantiau i gylchgronau Cymraeg, roedd gwerthiant isel Tu Chwith dros y blynyddoedd diwethaf wedi eu perswadio i dynnu’r plwg ar y gefnogaeth ariannol.

“Yn dilyn cryn drafodaeth, penderfynwyd atal y grant i’r cylchgrawn Tu Chwith,” meddai’r Cyngor Llyfrau mewn datganiad heddiw.

“Er bod y cylchgrawn wedi gwneud gwaith pwysig yn meithrin ysgrifenwyr ifainc roedd y gostyngiad sylweddol yn y gwerthiant yn ystod y blynyddoedd diweddar yn arwydd clir nad oedd y cylchgrawn bellach yn bodloni’r gynulleidfa darged ac felly’n syrthio’n fyr o’i nod.”

 Ond yn ôl Dr Simon Brooks, un o sylfaenwyr Tu Chwith nôl yn 1993, mae’r cylchgrawn yn gwneud gwaith “pwysig” wrth hyrwyddo llenyddiaeth, a rhoi llwyfan i lenyddiaeth, ymhlith yr ifanc – ac nad yw Cyngor Llyfrau Cymru yn gwerthfawrogi hyn.

“Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr i fi eu bod nhw’n gwrthod cefnogi cylchgrawn sy’n gwneud cyfraniad mor fawr, am gyn lleied o gost.”

Yn ôl datganiad y Cyngor Llyfrau a gyhoeddwyd heddiw, fe fydd cylchgrawn barddoniaeth Barddas yn dal i dderbyn grant blynyddol o £24,000, a chylchgrawn llenyddol Taliesin yn derbyn grant o £28,500 y flwyddyn.

Roedd Simon Brooks hefyd yn siomedig nad oedd gwaith caled y tîm cynhyrchu yn cael ei ystyried yn y penderfyniad ychwaith, meddai.

“Mae’r cylchgrawn wedi cael ei redeg yn wirfoddol gan bobol ifanc ar hyd y blynddoedd.

“Mae’n enghraifft prin iawn o bobol ifanc yn creu eu diwylliant eu hunain.

 “Mae’n annheg iawn mai pobol sy’n eistedd rownd bwrdd yn Aberystwyth sy’n cael gwneud y penderfyniadau hyn am beth sy’n briodol.”

Yn ôl Simon Brooks, dydi llais y to ifanc, sef y rhai sy’n elwa o Tu Chwith, ddim yn cael ei glywed gan y bobol sy’n penderfynu ar dynged y cylchgrawn.

“Mae popeth sy’n cael ei wneud fan hyn yng Nghymru, heblaw Tu Chwith, yn cael eu rhedeg gan bobol sydd dros eu 30au,” ychwanegodd.

Nawdd i’r wasg Gymraeg

 Daeth y newyddion gan y Cyngor Llyfrau’r bore yma, wrth iddyn nhw gyhoeddi pwy oedd wedi bod yn llwyddiannus gyda’u ceisiadau ar gyfer grantiau gwerth cyfanswm o £360,000 ar gyfer 2011-2015.

Bydd 16 o gwmnïau nawr yn rhannu’r grant yma rhyngddyn nhw, wedi i’r Cyngor llyfrau wrthod pedwar cais, oedd yn cynnwys un gan Tu Chwith ac un arall gan y cylchgrawn barddonol newydd, Y Glec.

Dyma’r cyhoeddiadau llwyddiannus:

  Rhifynnau mewn blwyddyn Grant Blynyddol
     
Y Cymro 52 £  18,000
Barn 10 £  80,000
Golwg 50 £  73,000
     
Llenyddiaeth a Chrefydd    
Barddas 4 £  24,000
Cristion 6 £    4,800
Gair y Dydd 4 £    2,400
Taliesin 3 £  28,500
Y Traethodydd 4 £    8,000
     
Hamdden:  Plant    
Wcw 12 £  36,000
Cip 10 £  26,000
     
Hamdden:  Oedolion    
Y Casglwr 3 £    1,500
Fferm a Thyddyn 2 £    2,000
Lingo Newydd 6 £  18,000
Llafar Gwlad 4 £    7,000
Y Selar 4 £  12,000
Y Wawr 4 £  10,000
     
Cronfa grantiau datblygu   £    8,800
    £360,000  

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dafydd annwyl , Tachwedd 18, 2011 2:11 pm

£6000 yn llai i plant y crachach. Newyddion da.

§

Adam Jones , Tachwedd 18, 2011 2:23 pm

Mae’r sylw uchod yn blentynnaidd ac hefyd yn profi nad yw Dafydd Annwyl yn deall na chwaith yn gwybod dim byd am gynulleidfa Tu chwith. Dwinnau fy hun yn dwli cael darllen erthyglau difyr o bob math yn amrywio o lenyddiaeth i wyddoniaeth fodern ayyb.

Nid crachach na chwaith crachaidd yw Tu chwith o gwbwl, mae’n llwyfan hynod werthfawr i lenorion ifanc o bob cefndir i gyfrannu a hyrwyddo’u gwaith.

Dyro gywilydd arnat am siarad mor groch heb unrhyw sylw adeiladol.

§

Ben , Tachwedd 18, 2011 2:41 pm

Hoffwn i ychwanegu, gan ategu sylw Adam, fy mod i’n dod o’r cymoedd ac o deulu dosbarth gweithiol a dwi wrth fy modd gyda’r cylchgrawn. Dwi , na fy nheulu na fy ardal yn gyfoethog o gwbl. Mae Tu Chwith yn bwysig achos mae’n rhoi llwyfan i bobl fel fi sy’n dod o gefndir heriol

§

Dafydd annwyl , Tachwedd 18, 2011 2:55 pm

“Mae’r sylw uchod yn blentynnaidd ac hefyd yn profi nad yw Dafydd Annwyl yn deall na chwaith yn gwybod dim byd am gynulleidfa Tu chwith” Pa gynulleidfa? Blaw am ffrindiau’r rhai sy’n cyfrannu i’r cylchgrawn. Digon hawdd fysa rhoi ar y we am ddim.

§

Colyn , Tachwedd 18, 2011 3:00 pm

Dafydd, nid yw rhoi pethau ar y we yn golygu eu bod nhw ‘am ddim’ – mae costau ynghlwm â hynny hefyd. Dwi’n cael y syniad nad wyt yn gwybod rhyw lawer am y pethau hyn.

§

Iwan Rhys , Tachwedd 18, 2011 3:02 pm

Yn y tabl diddorol ar waelod yr erthygl, a fyddai modd ychwanegu gwerthiant y cyhoeddiadau hefyd?

§

Dafydd annwyl , Tachwedd 18, 2011 3:04 pm

Dim creadigrwydd sy’n eich poeni yn amlwg, ond arian. Hen stori gan y cyfryngau Cymraeg.

§

Gerwyn Preis , Tachwedd 18, 2011 3:06 pm

Cytuno Iwan…..fase hynny’n arwyddocaol ac yn gefndir addas i’r penderfyniad…

§

@rhysw1 , Tachwedd 18, 2011 3:24 pm

@Iwan Rhys a Gwerywn Preis

Byddai, mi fyddai niferoedd y gwerthiant yn ddiddorol a pherthnasol hefyd. Hefyd, basai gweld un ar gyfer cyhoedidadau yn Saesneg yn ddiddorol hefyd, er mwyn cael pictiwr llawn.

Yn 2008, fe gyhoeddod Dyfrig Jones (golygydd Barn ar y pryd) y canlynol sy’n crybwyll bod cymorthdal Barn yn tua £9 y copi a bod Planet yn £23 a New Welsh Review yn £20.
http://bloganswyddogol.blogspot.com/2008/02/cymorthdal.html

§

Colyn , Tachwedd 18, 2011 3:29 pm

Syniad da Iwan Rhys. Oes hawl gan unrhyw unigolyn wybod y rhifau gwerthiant?

§

Miles , Tachwedd 18, 2011 5:22 pm

Triwch y Freedom of Information Act

§

Iwan Rhys , Tachwedd 18, 2011 5:52 pm

Sgwn i sut mae cyfiawnhau £80,000 am 10 rhifyn o Barn, a gwrthod £6,000 am 4 rhifyn o Tu Chwith?

(£8,000 y rhifyn i Barn, a £1,500 y rhifyn i Tu Chwith).

Faint o hit fyse hi i Barn i gael £74,000 yn lle £80,000, a rhoi’r £6,000 arall i Tu Chwith?

Ond nid felna ma pethe’n gweithio, wrth gwrs.

§

Rhys Llwyd , Tachwedd 18, 2011 8:44 pm

2 rifyn y flwyddyn o Tu Chwith oedd/sydd yn cael ei gyhoeddi nid 4 dwi’n meddwl.

Mae’n anodd dweud i sicrwydd beth yw cylchrediad yr holl gylchgronau oherwydd bod yna wahaniaeth rhwng faint sy’n cael eu hargraffu a faint sy’n cael eu gwerthu, ac yna mae yna wahaniaeth rhwng faint sy’n cael eu gwerthu a faint o ddarllenwyr sydd.

Ond beth bynnag am gylchrediad, nid felly mae mesur gwerth unrhyw gynnyrch diwylliannol mewn iaith leiafrifol. Mae rhaid ystyried gwerth rhywbeth mewn ffordd wahanol a’r ffordd orau i fesur llwyddiant Tu Chwith oedd asesu ei gyfraniad yn rhoi cyfle i awduron ifanc gyhoeddi am y tro cyntaf. Yn hynny o beth roedd yn llwyddiant ysgubol dros y blynyddoedd. Os yw’r Cyngor Llyfrau yn barnu fod y rhan yma o genadwri Tu Chwith yn gaffael ond fod ei werthiant, efallai, yn isel pam na fyddent wedi parhau i roi grant llai gyda’r anogaeth iddo barhau fel cyhoeddiad ar-lein gan fod y rhan fwyaf o’r grant dros y blynyddoedd wedi bod yn mynd tuag at gostau argraffu/cynhyrchu.

Roedd cyllideb Tu Chwith rhy dyn i allu cael unrhyw ymgyrch farchnata bwrpasol ac felly roedd cynnyddu’r cylchrediad a chodi’r proffil wastad mynd i fod yn her i gymharu a chylchgronau eraill oedd yn derbyn grant sylweddol fwy.

Datgan diddordeb: roeddwn i’n gyfrannwr achlysurol i Tu Chwith a fi wnaeth gysodi’r rhifyn diwethaf gan fod y cysodwr arferol yn brysur ar gyfnod Tadolaeth!

§

eirwen haf , Tachwedd 18, 2011 11:05 pm

Mae gwefan Tu Chwith yn gret-oni fyddai modd buddsoddi yn hwn? Does dim adnodd cyffelyb ar-lein i Gymry ifanc…

§

Benjiman , Tachwedd 19, 2011 1:14 am

Dach chi’n cymryd cyfleoedd i ffwrdd o blant.

§

Colyn , Tachwedd 19, 2011 3:26 am

Mae pob un rhifyn o Barddas yn costio £10,000 o bunnau i’w gynhyrchu, hynnyw yw os ydych yn cyfrif yr arian maent yn cael o aelodaeu £25.

§

Martin Wilias , Tachwedd 19, 2011 10:19 am

Faint o arian cyhoeddus mae golwg360 yn ei gael? Dwi’n edrych ymlaen i ddarllen ambell i stori pob tro y bydda i yn mynd ar y we. Pob lwc i’r wefan. Difyr iawn ambell waith. Y pwynt yw hyn:
Pe bai gennym ddiwylliant Cymraeg cyfoes call yna byddai Plaid Cymru yn y Cynulliad wedi mynnu delufro a)papur dyddiol Cymraeg hefo b)atodiadau difyr c)gwefan yn cyd-redeg. Tydi 1 peth allan o 3 ddim digon da.
A yw lefel poblogrwydd cyfredol y wefan yn gyfrinach? Gwerth am arian? Ond nid poblogrwydd ydi’r unig ffon fesur. Cwestiwn caled ac adeiladol. Mymryn o brocio a phryfocio.
Ynglyn a Tu Chwith- dwi wedi pori drwy ambell i hen rifyn- diddorol. Mae’n biti fod y cymorth wedi ei golli. Ond mae gan awduron ifanc opsiwn arall- sef cyhoeddi mewn…wel, cyhoeddiad arall.
Nid yw dim yn rhwystro awduron ifanc rhag anfon rhywbeth at eu papur bro. Ychwanegu mwy o liw i’r papurau bro.
‘Rwyf wedi darllen ambell i ysgrif ddifyr yn Papur Dre- ysgrif arti gan ysgolhaig adnabyddus…Y math yma o beth.

§

Martin Wilias , Tachwedd 19, 2011 10:31 am

‘cywilyddus’- y darlun mawr yw mai diffyg papur llydan Cymraeg dyddiol yw’r drychineb fwyaf. Nid yw marwolaeth ac angladd Tu chwith yn drychineb.
O am Guardian neu Independent Cymraeg- wel, gwell trio a methu na peidio a bod hefo’r gyts i drio o gwbl.
Ond efallai y dylid derbyn, unwaith ac am byth, mai ond hyn a hyn y gall y byd Cymraeg ei gynnig?

§

Martin Wilias , Tachwedd 19, 2011 11:00 am

Cyfraniad olaf: papur dyddiol hefo atodiadau amrywiol yn rhad ac am ddim e.e. Y Selar, Tu Chwith, Y Wawr, Y Glec…byddai wedi gallu bod yn antur fawr ein dyddiau(?)
Cylchrediad anferth. Iwtopia Cymraeg…trist iawn, very sad.

§

Mali , Tachwedd 19, 2011 12:24 pm

Cytuno 100% gyda Martin – pam ar y ddaear does ‘na ddim papur dyddiol Cymraeg? Mae’n anodd credu y sefyllfa.

§

Ifan , Tachwedd 19, 2011 1:39 pm

“O am Guardian neu Independent Cymraeg…”

Mae gan y Guardian tua 800 o newyddiadurwyr, ac wedi gwneud colled o £43.8m y llynedd er gwaethaf cylchdrediad cymharol uchel. Fe fyddai’r Byd wedi cyflogi tua chwech o newyddiadurwyr ac wedi tua costio £600,000 y flwyddyn i’w gynnal (lot o’r costau yn mynd ar y broses o’i gyhoeddi a’i ddosbarthu). Doedd y Byd byth yn mynd i fod yn ‘Guardian neu Independent’ Cymraeg. Ddim hyd yn oed yn ‘Golwg’ dyddiol o ran gwreiddioldeb y cynnwys, gan y byddai wedi bod yn rhaid trosi llawer o’r cynnwys o’r Saesneg neu o ddatganiadau oherwydd maint bychan y staff. Nid lladd ar y syniad ydw i, ond esbonio’r realiti. Mae Golwg 360 tua’r un peth ac y byddai y Byd wedi bod, o ran natur y cynnwys. Yr unig wahaniaeth yw ei fod wedi ei gyhoeddi ar y we, ac yn costio llai i’w gynhyrchu oherwydd hynny.

§

Mali , Tachwedd 19, 2011 2:24 pm

Ie mae hynny sylw da iawn Ifan, efallai y we fydd yn lladd y papurau newydd yn y dyfodol.

§

Iwan Rhys , Tachwedd 19, 2011 5:42 pm

“Mae Golwg 360 tua’r un peth ac y byddai y Byd wedi bod, o ran natur y cynnwys. Yr unig wahaniaeth yw ei fod wedi ei gyhoeddi ar y we, ac yn costio llai i’w gynhyrchu oherwydd hynny.”

A dwy fantais arall sydd gan Golwg360 dros Y Byd yw bod y storiau’n cael eu cyhoeddi o fewn dim o dro, ac yn cael eu diweddaru wrth i’r storiau ddatblygu, a hefyd ry’n ni’n gallu gadael sylwadau i ymateb i straeon, ac ymateb i’r sylwadau hynny, gan esgor ar drafodaeth – sy’n llawer gwell nag aros am lythyr neu ddau mewn papur dridiau yn ddiweddarach.

§

Ben , Tachwedd 19, 2011 6:42 pm

Roedd yna ddeiseb i annog y Llywodraeth i ariannu papur dyddiol fis olaf

§

Rhys Llwyd , Tachwedd 19, 2011 7:58 pm

@Ifan Os cofiaf yn iawn roedd cynllun busnes Y Byd yn nodi y byddai ganddynt 16 o newyddiadurwyr (nid oll yn llawn-amser) wedi eu lleoli dros Gymru i gyd ond gyda’r craidd yn y Brif Swyddfa yn y canolbarth a thîm hefyd yn y Cynulliad. Tipyn gwahanol i Golwg 360 felly.

Roedd y cynllun busnes yn dibynnu hefyd ar gael tipyn mwy o gyllid drwy hysbysebion nag y mae Golwg360, fe ymddengys, yn ei gasglu.

§

Ifan , Tachwedd 19, 2011 10:26 pm

@Rhys

Wedi ymateb i dy sylw fan hyn: http://ifanmj.blogspot.com/2011/11/sut-beth-fyddair-byd.html

§

Leila Map , Tachwedd 20, 2011 7:35 pm

Ifan: “Mae gan y Guardian tua 800 o newyddiadurwyr”

800? O le ges di’r ffigwr yna?

§

Dyfrig Jones , Tachwedd 21, 2011 8:30 am

Siomedig iawn o glywed hyn. Mae Tu Chwith wedi bod yn feithrinfa ragorol i dalent llenyddol, beirniadol a newyddiadurol Cymru dros y blynyddoedd. Mae’n ddiddorol nodi fod golygyddion presenol Taliesin yn gyn-olygyddion Tu Chwith. Bu Simon Brooks a minnau yn olygyddion ar y cylchgrawn cyn cymeryd yr awenau yn Barn (er mai dim ond un rhifyn gwadd y ces i’r fraint o’i olygu). O lle mae’r Cyngor Llyfrau yn disgwyl y daw y genhedlaeth nesaf o olygyddion, oni bai fod yna feithrinfa fel hyn yn bodoli?

§

Gareth , Tachwedd 21, 2011 9:21 am

Cafodd Tu Chwith ddechreuad gwych, gyda phwrpas, ond ers blynyddoedd belllach, ni fu’n ddim mwy na rwtsh plentynnaidd er ei fwyn ei hun yn troi mewn cylchoedd. Diffyg golygyddion da ers tua 10 mlynedd fu dechrau’r diwedd. Ni chollaf ddim dagrau drosto, a bydd posib o hyd pori yn yr hen rifynnau sy’n werth eu darllen.

§

Garmon , Tachwedd 21, 2011 5:18 pm

Ma’r holl sylwadau sy’n amddiffyn Tu Chwith yn son am y cyfle yr oedd yn ei roi i gyfranwyr ac awduron ifanc – ond cyfle i neud beth?? Cyfle i gynhyrchu cylchgrawn o safon andros o ddiflas sydd o ddiddordeb i braidd neb? Pam fod Cymry Cymraeg ifainc yn haeddu grant i neud hynny?

Mae cynhyrchu cylchgrawn sydd o ddiddordeb i neb yn iawn – ond ddim am 3,000 quid a pop o arian cyhoeddus dyw e ddim. Mae yna rywbeth hynod arrogant am gyfiawnhau bodolaeth cylchgrawn JYST er mwyn i bobl gael dweud bo nhw wedi cael ei cyhoeddi. Os nad oes neb yn darllen, beth yw’r pwynt?

Roedd rhai rhifynnau o Tu Chwith dros y blynyddoedd diweddar yn aruthrol o wael. Dim strwythur, dim arweiniad golygyddol… dwi’n cofio meddwl bo rhywbeth wedi mynd yn anghywir gydag un rhifyn a bod e-byst personol wedi’u cyhoeddi drwy gamgymeriad – dyna oedd y safon! Ei unig nod erbyn hyn, ymddengys, oedd cyhoeddi er mwyn cyhoeddi a dyw hynna ddim yn haeddu grant.

§

Gareth , Tachwedd 21, 2011 5:54 pm

Clywch clywch Garmon!

§

Ifan , Tachwedd 21, 2011 10:03 pm

Mae Garmon yn gwneud pwyntiau teg uchod. Dyw’r safon ddim wedi bod yn wych bob tro. A dw i ddim yn siwr i le’r oedd yr arian yn mynd – ar y tudalenau sgleiniog mae’n siwr. Ond mae angen rhywbeth o werth i’w argraffu arnyn nhw.

Dau awgrym sydd gen i yn seiliedig ar fy mhrofiad i o gyhoeddi yn Tu Chwith:

1.) Efallai fod angen i’r golygyddion fod yn fwy parod i yrru gwaith yn ol at yr awdur ac awgrymu newiadau. Wrth ddarllen yn ol dros rhai o’r straeon wnes i eu cyfrannu yn ystod fy nyddiau coleg, roedden nhw wedi eu cyhoeddi yn gyflawn a heb i’r golygyddion gysylltu nol o gwbwl. Holl bwynt Tu Chwith yw bod y cyfranwyr ifanc yn datblygu eu crefft ac er mwyn gwneud hynny mae angen arweiniad gan olygyddion profiadol.

Wrth beido a erbyn beirniadaeth gan y golygydd mae’r awdur yn gorffwys ar ei rwyfau hefyd, ac yn rhy barod i daflu rywbeth sydd ddim werth ei gyhoeddi at ei gilydd er mwyn plesio’r cyfaill ar ben arall yr e-bost.

Efallai bod gofyn i gyw-olygyddion gyhoeddi gwaith cyw-awdurdon yn esiampl anffodus o’r dall yn arwain y dall? Efallai y dylid cael panel o dri, dau olygydd dibrofiad ac un profiadol i’w meithrin nhw?

2.) Dw i ddim chwaith yn meddwl fod y golygyddion wedi bod yn ddigon gweithgar wrth gysylltu gyda pobol er mwyn eu hannog i gyfrannu. Dw i newydd tsecio fy e-bost, ac ers cyfrannu yn 2007 dw i heb dderbyn yr un gwahoddiad i wneud eto. Falle fod hynny’n dweud mwy am safon fy ngwaith i na dim arall, ond fel person ifanc sy’n hoff o ysgrifennu ac sydd wedi cyfrannu yn y gorffennol se chi’n meddwl y byddwn i’n darged eithaf amlwg iddyn nhw. :/

Ond, serch hynny, dw i’n meddwl mai’r teimlad yn gyffredinol yw y gallai’r Cyngor Llyfrau fod wedi rhoi ryw fath o rybudd rhagblaen a rhoi cyfle iddyn nhw dynnu eu sanau i fyny. Fe ddigwyddodd hynny i Barn a mae’r cylchgrawn wedi ymateb i’r her. Tu Chwith a’i gynulleidfa o bobol ifanc difater yn darged haws (a lai dylanwadol) na darllenwyr Barn neu Taliesin, efallai!

Does dim amheuaeth yn fy nhyb i fod y cylchgrawn yn hybu talent newydd. Wrth edrych yn ol eto ar y cylchgronau wnes i gyfrannu, mae sawl un o’r enwau wedi mynd ymlaen i bethau mawr, a pob un bron yn hysbys i ryw raddau am eu gwaith llenyddol.

§| Nodi camddefnydd

Rhys Llwyd , Tachwedd 21, 2011 11:28 pm

Meddai Ifan: “dw i ddim yn siwr i le’r oedd yr arian yn mynd”. Dwi ddim yn siarad ar ran Tu Chwith nawr, ond fel rhywun a fu ynghlwm wrth gynhyrchu un rhifyn gwyddwn fod costau cysodi ac argraffu yn cymryd dros hanner grant pob rhifyn. Mae cyfrifon Tu Chwith, fel pob cyhoeddiad sy’n derbyn arian cyhoeddus, yn cael eu eu harchwilio gan gyfrifwyr allanol bob blwyddyn ac mae copiau, wrth gwrs, yn mynd i’r Cyngor Llyfrau.

§

Ifan , Tachwedd 22, 2011 9:14 am

Rhys Llwyd: “Mae cyfrifon Tu Chwith, fel pob cyhoeddiad sy’n derbyn arian cyhoeddus, yn cael eu eu harchwilio gan gyfrifwyr allanol bob blwyddyn ac mae copiau, wrth gwrs, yn mynd i’r Cyngor Llyfrau.”

Wrth gwrs, doeddwn i ddim yn awgrymu fod yna unrhywbeth amhriodol yn mynd ymlaen!

§

Nei , Tachwedd 24, 2011 10:31 am

Hoelen arall yn yr arch

§

Deio , Tachwedd 28, 2011 12:23 pm

Nid oes raid i gylchgrawn gael grant er mwyn llwyddo. Mae’r Faner Newydd a Wa-W yn enghreifftiau gwych o gylchgronau annibynnol llwyddiannus.

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Rhagfyr 7, 2011 12:18 pm

£80,000 i Barn. A tydi rhifyn Rhagfyr/Ionawr byth wedi cyrraedd y siopau.
Mae Barn yn dda. Ond tydi’r amhrydlondeb yma jesd ddim digon da.
Os ydi Cymro Cymraeg yn trio prynu’r rhifyn a dim wedi cyrraedd y siop yna mae peryg y bydd yn dweud “o, wel…dim ots” anghofio am y rhifyn a prynu e.e. The Spectator neu New Statesman.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.