Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Meuryn newydd y Talwrn

Tachwedd 21, 2011 08:25, Diweddarwyd am 09:46


Y Prifardd Ceri Wyn Jones
Y Prifardd Ceri Wyn Jones fydd yn olynu Gerallt Lloyd Owen yn Feuryn y Talwrn, cafodd ei gyhoeddi heddiw.

Mae Ceri Wyn Jones wedi ennill Cadair a Choron Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Daw hyn wedi i Gerallt Lloyd Owen roi’r gorau i fod yn Feuryn ar y rhaglen farddoniaeth boblogaidd, ar ôl 32 mlynedd wrth y llyw.

Mewn datganiad fe ddywedodd Gerallt Lloyd Owen “efallai ei bod hi yn bryd rhoi cyfle i rywun arall, wedi’r cyfan dwi wedi bod yn gwneud y Talwrn am hanner fy oes.”

Ceri Wyn Jones enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1997 . Ef oedd Bardd Plant Cymru yn 2003-2004. Yn 2009, enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol y Bala.

Fe fydd recordiad cyntaf y bardd yn digwydd yng Ngwesty’r Emlyn, Tanygroes, meddai’r BBC. Fydd y rhaglen honno yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru “ychydig o ddiwrnodau’n ddiweddarach.”

Fe ddywedodd Ceri Wyn Jones fod cychwyn y swydd yn “gynhyrfus”.

Dywedodd wrth gyflwynwyr y Post Cyntaf ei fod yn “gobeithio yn fawr iawn” y gallai “barhau i ennill clustiau a chalonnau’r gwrandawyr ynghyd a pharch a thrugaredd y beirdd.”

“Dw i eisiau sicrhau bod y Talwrn yn parhau’n adloniant ac yn  ddiwylliant lle mae modd i gyflwyno barddoniaeth sydd yn ddifyr ac yn ddyrchafol ar yr un gwynt,” meddai.

Cyrhaeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, sef Dauwynebog, restr fer Llyfr y Flwyddyn 2008, ac fe’i disgrifiwyd gan y beirniaid fel “un o feirdd gorau ei genhedlaeth”.

Bu’n Fardd Plant Cymru ac yn feirniad cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfodau Cenedlaethol 2006 a 2009. Mae’n Olygydd Llyfrau gyda Gwasg Gomer ac yn byw yn Aberteifi gyda’i wraig a thri o feibion.

“Rydw i yn hynod falch o allu cyhoeddi mai Ceri Wyn Jones yw Meuryn newydd Y Talwrn, sy’n rhaglen mor bwysig yn amserlen Radio Cymru,” meddai Sian Gwynedd, Golygydd BBC Radio Cymru.

“Mae Ceri yn frwd, yn ffraeth ac yn feistr yn ei faes ac rydyn ni yn hyderus y bydd yn ddewis poblogaidd ymysg dilynwyr y gyfres. Mae’n uchel iawn ei barch o fewn byd y beirdd eu hunain hefyd ac mae’n siŵr o ddod â’i syniadau a’i arddull ei hun i’r gyfres.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Gerwyn Preis , Tachwedd 21, 2011 8:57 am

Gwych…!! Fydd o’n llwyddiannus a safonol fel popeth mae o’n ei neud..!! Pendefyniad call…

§| Nodi camddefnydd

Iwan Rhys , Tachwedd 21, 2011 9:34 am

Ceri Wyn? O! Cer o ‘na!

§| Nodi camddefnydd

Nei , Tachwedd 21, 2011 12:28 pm

Llongyfarchiadau i Ceri Wyn

§| Nodi camddefnydd

Gareth , Tachwedd 21, 2011 12:42 pm

Mi wnaiff job dda ohoni dwi’n siwr. Mae ganddo’r holl nodweddion iawn. Pob lwc!

§| Nodi camddefnydd

Gill , Tachwedd 21, 2011 7:20 pm

Newyddion da o lawenydd mawr. Bydd Ceri Wyn yn siwr o gyflawni’r swydd gyda’r un urddas a Gerallt. Byddai Twm Morys, Myrddin ap Dafydd neu Mei Mac wedi bod yn dda hefyd. Diolch taw ddim Tudur Dylan oedd y dewis, am unwaith!

§

Mei Mac , Tachwedd 22, 2011 9:29 am

Ceri Wyn yw’r Meuryn mwy!

Llongyfarchiadau mawr iddo! Mae’r BBC wedi gwneud dewis doeth iawn.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.