Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Kate yn hoyw? Academydd yn amau

Tachwedd 24, 2011 09:40, Diweddarwyd am 09:56


Kate Roberts
Mae’r Athro Derec Llwyd Morgan yn amau nad oes digon o dystiolaeth yng nghofiant newydd Kate Roberts i ddweud i sicrwydd ei bod hi’n hoyw.

Mewn adolygiad o’r cofiant gan Alan Llwyd yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon mae’n awgrymu fod yr awdur wedi gwneud môr a mynydd o “un gusan bleserus” â merch arall.

“Ar sail hyn, ac ar sail sylw a wnaeth mewn llythyr at Saunders Lewis ar ôl cyhoeddi Monica, yr honna’i chofiannydd ei bod yn hoyw, a bod y cyfeillgarwch rhwng merched a ddisgrifir yn rhai o’i gweithiau llenyddol yn fwy na chyfeillgarwch,” meddai Derec Llwyd Morgan.

“Wele gwestiwn neu ddau, ac yna sylw neu ddau. Ble’r oedd y tueddiad rhywiol honedig hwn wedi bod yn cuddio tan 1926? I ble’r aeth ef wedyn? A pha mor bell yn rhywiol y rhaid i rywun fynd cyn y gellir yn gyfiawn ei alw’n ŵr neu wraig gyfunrywiol? – yr holl ffordd, ys dywedir? neu ai digon un gusan bleserus?

“Gwir bod yn llyfrau Kate ferched a fwynhâi gymdeithas merched eraill, ond cofier ym mha oes y trigai’r mwyafrif ohonynt ynddi. Oherwydd i’r Rhyfel Mawr ladd cynifer o ddynion ifainc, yr oedd, a siarad yn amrwd, prinder dynion cyfoed â hwy.

“At hynny, gweithiai llawer ohonynt mewn sefydliadau a rannai’r ddau ryw. Yn yr ysgol yn Ystalyfera yr oedd dwy ystafell staff. Yn Aberdâr, mewn ysgol i ferched y dysgai Kate, ac nid oedd dynion o gwbl ar y staff. Mewn amgylchiadau fel hyn yr oedd yn anochel fod merched yn ymwneud yn ddwfn â’i gilydd. Ni sonia’r cofiant yr un sill am y gymdeithaseg bwysig hon.

“Ond y peth rhyfeddaf oll am y ‘dadleniad’ hwn yw bod Alan Llwyd yn mynnu bod Kate Roberts ei hun yn ‘awchu’ amdano. Ble mae’r dystiolaeth? ‘Gwn mai dyna fyddai ei dymuniad,’ meddai ei chofiannydd. Sut?

“A fu mewn cysylltiad â hi yn yr arall fyd? Rhyfyg hunandwyllodrus biau datganiad o’r fath, ac y mae’n diraddio’r awdur a’i lyfr.”

Darllenwch weddill yr adolygiad yng nghylchgrawn Golwg, Tachwedd 24

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


cris , Tachwedd 24, 2011 10:09 am

Derec bach, nid dim ond y “weithred rywiol” sy’n gwneud rhywun yn hoyw neu beidio. Ydy’r berthynas sy rhyngoch chi a’ch gwraig yn un rhywiol YN UNIG – ynteu a oes elfennau eraill iddi sy’n ei gwneud hi’n berthynas rhwng dau berson hetrorywiol?
Fel person hoyw, dwi wedi hen flino ar gael fy niffino yn ol fy nwgeithredoedd rhywiol – mae mwy i rywioldeb na chael rhyw. Yn bersonol, dwi ddim wedi cael unrhyw fath o gyfathrach rywiol ers blynyddoedd – dywedaf hyn, gan ei bod hi’n ymddangos bod gan bawb rwydd hynt i drafod bywydau rhywiol preifat pobl hoyw – ond dwi’n dal yn hoyw. Gallai Kate Roberts hithau fod wedi bod yn hoyw, heb fod erioed dsytiolaeth ohoni’n cysgu gyda menyw. Gall rhwyun hetro hefyd fod yn hetro heb gael rhyw.

§| Nodi camddefnydd

Gareth , Tachwedd 24, 2011 10:15 am

Deurywiol – os hynny – nid “hoyw”. Gwir y sylw (r ddiwedd erthygl arall eto fyth am yr honiad gwantan hwn) fod rhagfarn pobl hoyw tuag at bobl ddeurywiol yn llawn cyn waethed, os nad gwaeth, na rhagfarn pobl heterorywiol. Mae llawer mwy o dystiolaeth iddi garu dynion, felly roedd hi O LEIAF yn DDEUrywiol. Nid hoyw. Stopiwch ddweud hoyw.

§| Nodi camddefnydd

Lavinia , Tachwedd 24, 2011 10:29 am

Chwarae teg i chi Cris. Dwi innau hefyd yn berson hoyw ac wedi cael llond bol o obsesiwn pobl syth gyda beth mae pobl hoyw yn ei wneud yn y gwely. Mae bod yn hoyw hefyd yn golygu ffordd arall o weld y byd a ffordd wahanol o feddwl.

Os caf i hefyd awgrymu hefyd efallai y dylai Golwg360 roi’r gorau i adrodd y stori ddiflas hon droeon.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Tachwedd 24, 2011 11:42 am

god neu beidio o ni’n trial dweud

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Tachwedd 24, 2011 11:42 am

gog gog gog neu beidio

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Tachwedd 24, 2011 11:54 am

Derec ar sail yr isod dwi’n meddwl casgliadau Alan Llwyd yn eitha accurate short o dal hi’n y gwely ‘in flagrante’ gyda Lindsay Lohan pa dystiolaeth bellach wyt ti moyn ?

‘Yr oedd gwraig y cigydd lle’r arhoswn yn un o’r merched harddaf y disgynnodd fy llygaid arni erioed. Dynes lled dal, heb fod yn rhy dew nac yn rhy deneu, gwallt gwineu – real chestnut a thuedd at donnau ynddo. Croen fel alabaster a’r gwddf harddaf a welais erioed – llygaid heb fod yn rhy brydferth ond yn garedig. Yr oedd yn hynod gartrefol ei ffordd – Cymraes iawn. Bore trannoeth, hebryngai’r mab fi mewn cerbyd i Gastellnedd – cychwyn tua 7.15 a.m. a hithau’n oer. Mynnodd y wraig roi clustog o’r ty odanaf, a lapiodd rug am fy nhraed, rug arall am fy nghorff, a rhoes glamp o gusan ar fy ngwefus. Nid oedd dim a roes fwy o bleser imi.’

§

Gareth , Tachwedd 24, 2011 12:17 pm

DEUrywiol. Ac mae non-event gwaig y cigydd wedi mynd yn syrffledlyd erbyn hyn.

§

Eifion Williams , Tachwedd 24, 2011 1:16 pm

Clyw clyw Derek Llwyd Morgan. Synnwyr cyffredin o’r diwedd. Does dim dystiolaeth o gwbl o urhyw weithred rywiol gan Kate, a mae’r cyhuddiad yn gwbl ddi-sail. A fydd Alan Llwyd yn ymddiheuro rwan, be amdani Alan?

§| Nodi camddefnydd

Rhys Gethin , Tachwedd 24, 2011 1:24 pm

A fydd Eifion Williams yn ymddiheuro am ei homoffobia rhonc rwan, be amdani Eifion?

§| Nodi camddefnydd

Rhys Gethin , Tachwedd 24, 2011 2:43 pm

@ Eifion ac Ifor – wel rydych chi newydd golli’r ddadl yn do.

§

Eifion Williams , Tachwedd 24, 2011 2:46 pm

Dyma tro olaf dwi am rhoi fy marn (neu fy noethineb) ar y mater hon – @Ifor Hughes – sylw braidd wirion rhaid dweud. Dwi’n derbyn bod agweddau wedi newid a dyddiau yma – ‘anything goes’ – ond y pwynt pam rhaid i nhw stwffio ei rywioldeb lawr gyddfe bobl. @RG dyw homoffobia ddim yn bodoli bellach y dyddiau ‘ma. A gobeithio wir fyd Alan Llwyd yn ymddiehuro, ond amser a ddengys.

§

Ifor Hughes , Tachwedd 24, 2011 2:53 pm

Eifion does gen ni ddim bwriad i stwffio dim lawr dy wddw di !

Ac un peth arall sy’n facr dwi ti na fi yn talu fawr o dreth incwm bydde rhywun ‘gainfully employed’ ddim yn treulio drwy’r dydd yn ‘sgwennu y nonsens yma !

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Tachwedd 24, 2011 2:54 pm

sy’n fact

§

Gareth , Tachwedd 24, 2011 3:05 pm

sy’n FFAITH falle??

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Tachwedd 24, 2011 4:07 pm

Gareth dwi yn bilingual a dwi ddim yn ymddiherio am hynny yn fwy na ddyle rywun apologise am fod yn bisexual .. ryfedd sut ma pobl mor Liberal ynglyn ac ambell i beth ond nid am bethe eraill !

§

Dic Sion Dafydd , Tachwedd 24, 2011 5:52 pm

There are llwythi of us that are dwyieithog like Ivor Huws, but that’s no rheswm for mixing the two iaiths when making sylwadau. Or for writing gwallus Welsh come to that!

§

Gareth , Tachwedd 24, 2011 7:27 pm

Callia Ifor. Ti’n sgrifennu Cymraeg gloywach na neb mewn ambell sylw. Amheus o dda, sy’n gwneud i’r fratiaith ymddangos fel rhyw fath o fwgwd. S’dim angen wyddost ti.

§

Gareth , Tachwedd 24, 2011 7:43 pm

A pharthed bod yn “bilingual”, beth wyt ti’n credu yw’r gweddill ohonon ni – Cymry uniaith o’r ddeunawfed ganrif? Rydym i gyd yn abl i ysgrifennu mewn o leiaf ddwy iaith wrth gwrs – dyw hynny’n ddim byd i’w ganmol ar wefan Gymraeg! Dim ond fod gan bawb arall y crebwyll i ysgrifennu Cymraeg yn Gymraeg, Saesneg yn Saesneg, Ffrangeg yn Ffrangeg ac felly ymlaen.

§| Nodi camddefnydd

Leila Map , Tachwedd 24, 2011 9:59 pm

Cris: “Yn bersonol, dwi ddim wedi cael unrhyw fath o gyfathrach rywiol ers blynyddoedd.”

Y creadur bach! Tisho fi ddod draw i roid dy draed mewn cyffion ac arllwys mymryn o de yn dy rug?!

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Tachwedd 24, 2011 10:27 pm

Cris ydy ‘rhwyfo dy gwych dy hun’ yn gyfri’ ? Os nad yw e dwi gyda ti’n anffodus.

§

Ifor Hughes , Tachwedd 24, 2011 11:12 pm

Un diwirnod o ni yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn mynd drwy bapaurau Saunders Lewis ( as you do ) a des o hyd i’r frawddeg yma mewn hen hen llythyr gan Kate i Mr. Lewis.

‘Saunders dwi wedi cael gafael a’r gopi o People Friend a bellach dwi wrth fy modd yn Paddling My Own Canoe wrth edrych a’r luniau o hysbysebion dillad isa’.

Yn anffodus gan nad yw Alan Llwyd yn fan o’r Wolfe Tones wnaeth e ddim deall arwyddocad y llythyr.

http://www.youtube.com/watch?v=QysK7DOyefo&feature=related

§

Ifor Hughes , Tachwedd 24, 2011 11:29 pm

A gallaf ofyn i Leila Map defynndio ei henw cywir yn unol a chanllawiau Golwg 360 – as if bod yna rywun go iawn gyda’r fath enw a Leila Map ! Bron mor wirion ag Engelbert Humperdinck.

“Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau”.

Leila Map a’i brawd Poke A’Globe

§

chwareus , Tachwedd 25, 2011 10:08 am

@Ifor, peidiwch a dilorni enwau go iawn fel englebert humperdinck os gwewlch yn dda!

Ond ta waeth am hynny. Tueddaf i gytuno a phwyntiau olaf DLLM am ‘awch’ KR i ddatgelu’r ‘gwir’ yma. Gwelwn sylwadau ALL am ei gonestrwydd, a’r awydd i ddweud y gwir ar y rhaglen yn od iawn….Petai hi eisiau datgelu ei bod yn ddeurywiol, neu’n hoyw, neu ba ddiffiniad bynnag y dymunai, y peth ‘onest’ fyddai fod gwneud hynny onid e??
Nid ydw i wedi gweld y llyfr eto. Oes rhywun wedi gweld pa dystiolaeth sy’n cael ei gynnig??

§

Eirwen Haf , Tachwedd 25, 2011 10:56 am

Leila Map , Tachwedd 24, 2011 9:59 pm
Cris: “Yn bersonol, dwi ddim wedi cael unrhyw fath o gyfathrach rywiol ers blynyddoedd.”

Y creadur bach! Tisho fi ddod draw i roid dy draed mewn cyffion ac arllwys mymryn o de yn dy rug?!

Leila Map -ti’n ges a hanner! :) Wel does dim taten o ots da fi os oedd Kate yn hoyw, deu-rywiol neu beidio. Ond mae angen mwy o ‘dystiolaeth’ na chamnoliaeth am ‘Wraig y Cigydd’! Tacteg da gan yr awdur i werthu llawer o lyfrau yw hyn yn y bon!

§

Gerwyn Preis , Tachwedd 25, 2011 3:54 pm

@ Leila Map…… (dylyfiad gen anferth)
@Cris…… dwi’n cytuno a thi yn dy sylw agoriadol ac yn gresynnu bod ‘na rywrai yn defnyddio’r golofn hon i fychanu rhywioldeb unrhywun.

§

Gareth , Tachwedd 25, 2011 6:23 pm

@Leila Map. Mae hynny’n swnio’n llawer tebycach i ryw heterorywiol os caf ddweud!

§| Nodi camddefnydd

Reu , Tachwedd 26, 2011 5:11 pm

@Cris – pwyntia briliant!

@Eifion Williams – ‘dyw homoffobia ddim yn bodoli bellach y dyddiau ‘ma. A gobeithio wir fyd Alan Llwyd yn ymddiehuro, ond amser a ddengys.’

Eifs, met. Ti’n HOLLOL homoffobig.
Ti jysd yn ei gyfleu o mewn ffordd llechwraidd, passive-aggressive!

§| Nodi camddefnydd

brocoli , Tachwedd 27, 2011 11:07 am

Chi wedi gwastraffu amser yn cwympo mas dros honiad heb unrhyw fath o sylwedd iddi.

Hyd yn oed oes oedd sylwedd, os taw dyma newyddion mawr llenyddiaeth cymru, mae rhywbeth mawr o le! Kate yn hoyw. So.

§

Gwyn Llynfi , Tachwedd 30, 2011 8:11 pm

@Eifion Williams, dyw homoffobia ddim yn bodoli bellach??? mae dy sylwadau di yn dystiolaeth ei fod e. Does neb am stwffio ei rywioldeb i lawr dy wddw di na dim byd arall ychwaith. Paid a meddwl gymaint ohonot ti dy hun, annwyl.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.