Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Swydd S4C – y Gymraeg yn ‘fanteisiol’ nid hanfodol

Tachwedd 24, 2011 18:03, Diweddarwyd am 19:08


Mae S4C wedi cael ei beirniadu unwaith yn rhagor am beidio â rhoi digon o bwysigrwydd i’r Gymraeg wrth benodi staff.

Mewn hysbyseb am Swyddog Masnachol i’r Tîm Comisiynu, mae’r Sianel wedi nodi bod y “gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol” yn hytrach na “hanfodol”.

Yn ôl S4C, roedd angen lledu’r rhwyd oherwydd natur arbennig y swydd.

‘Codi cwestiynau’

Yn ôl Bethan Jenkins AC, mae’r hysbyseb yn codi cwestiynau mawr am y flaenoriaeth i’r Gymraeg o fewn y Sianel.

“Mae S4C i fod yn hwb ac yn ganolbwynt i hyrwyddo’r iaith Gymraeg,” meddai wrth Golwg 360. “Mae’n rhaid i sefydliadau Cymraeg roi esiampl i bobol.”

Dywedodd yr Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru y dylai’r “un polisi gael ei defnyddio ar draws y sefydliad” o safbwynt gofynion yr iaith.

“Bydden i’n hoffi gweld S4C yn edrych ar sut maen nhw’n defnyddio’r Gymraeg yn ehangach o fewn y Sianel,” meddai Bethan Jenkins.

“Ond rhaid cwestiynu beth yw eu blaenoriaethau nhw os nad ydyn nhw’n rhoi’r Gymraeg ar frig yr agenda.”

Swydd i elwa ar raglenni

Mae’r swydd sy’n cael ei hysbysebu gan S4C – Swyddog Masnachol i’r Tîm Comisiynu – yn gofyn am rywun fydd yn gallu helpu wrth “adnabod cyfleoedd masnachol,” a gweithio “mewn partneriaeth gyda’r Golygyddion Cynnwys, yn trafod a gwireddu potensial elfennau masnachol ein cynyrchiadau”.

Mae gofynion y swydd yn dweud bod y gallu i “gydweithio’n agos ac o fewn tîm yn hanfodol yn ogystal â gwybodaeth drylwyr o strategaethau a chynnwys S4C,” ond mai “manteisiol” fyddai’r gallu i siarad Cymraeg.

Mae S4C hefyd yn hysbysebu swydd Cydlynydd Cynnwys Digidol ar hyn o bryd – sydd yn dweud bod y “gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol”.

Ymateb y Sianel

Wrth ymateb, dywedodd y Sianel fod yr hysbyseb am swydd y Swyddog Masnachol yn adlewyrchu’r ffaith fod “y sgiliau angenrheidiol mor arbenigol fod yn rhaid ehangu’r maes ymgeiswyr”.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ifan , Tachwedd 24, 2011 6:20 pm

‘Does rhyfedd bod nhw’n creu dogfennau ‘mewnol’ uniaith Saesneg bellach – ma’r cyfan wedi mynd ar chwal nawr. Y peth gorau i’w wneud yw cael gwared o’r corff – fel gwnaethpwyd gydag ESTYN neu Brifysgol Cymru a dechre o’r newydd gyda corff newydd o bosib yng Nghaernarfon !

Idiots

§

Margaret Davies , Tachwedd 24, 2011 6:24 pm

O na , diw nhw ddim hyd yn oed yn deall nawr beth oedd Raison d’être yr holl beth !

Wrth ymateb, dywedodd y Sianel fod yr hysbyseb am swydd y Swyddog Masnachol yn adlewyrchu’r ffaith fod “y sgiliau angenrheidiol mor arbenigol fod yn rhaid ehangu’r maes ymgeiswyr”.

§

Gareth , Tachwedd 24, 2011 7:34 pm

Symudwch y Sianel i’r Fro Gymraeg cyn gynted a phosib! Does neb yn gwrthwynebu.

§| Nodi camddefnydd

Adam Jones , Tachwedd 24, 2011 8:07 pm

I’r fro Gymraeg â S4C yn rhy hir ei phrif swyddogaeth oedd Cymreigio Caerdydd a chadw swyddi i’r bois yn y ddinas fawr llawn bwrlwm. Gwasanaethu Cymru a’r Gymraeg yw diben S4C ac nid yw’n gwneud hynny ar hyn o bryd.

Tybed sut sianel fyddai pe fyddai’r Gymraeg yn fanteisiol ar y rhaglenni hefyd? Dwli llwyr yw’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd, symudwch y sianel i’r fro GYMRAEG. Ffederaleiddiwch – Swyddfa yng Nghaerfyrddin, Swyddfa yn Aberystwyth a Swyddfa yng Nghaernarfon! A chynrychiolaeth adrannol yng Nghaerdydd, Abertawe, Wrecsam a Aberdaugleddau. Cynrychiolaeth o Gymru ben baladr nid crachni bae Caerdydd.

§| Nodi camddefnydd

Mali , Tachwedd 24, 2011 8:34 pm

Cymraeg yn fanteisiol yn unig ar gyfer swydd gyda S4C??! Mae hynny fel dweud mae fod yn Gristion yn fanteisiol ar gyfer swydd gyda’r Eglwys. Dwi’n siwr fod Gwynfor yn troi yn ei fedd wrth i mi deipio. Sylwadau ardderchog gan Adam Jone. Pam rhaid canoli popeth yn Gaerdydd?

§| Nodi camddefnydd

Meirion , Tachwedd 24, 2011 9:59 pm

Mae rhaid cyfadde dwi’n teimlo fel fy mod wedi cael fy mradychu.
Gwarthus.

§| Nodi camddefnydd

Gerwyn Preis , Tachwedd 24, 2011 10:56 pm

“Tybed sut sianel fyddai pe fyddai’r Gymraeg yn fanteisiol ar y rhaglenni hefyd? ”

Adam…..lle ti di bod washi? Mewn wythnos lle gwelon ni Rhydian yn bastardeiddio’r Gymraeg ar ei raglen a chanu yn y Saesneg,

A wedyn cyfraniada dirifedi ein ‘ser’ Rygbi a phel droed yn llawn brawddegau cyfan o Wenglish….. Mae ‘di mynd yn ben set arnon ni ers dipyn…..!!

Jonathan? Sawl cyfres o honna da ni di gorfod diodde?
John Hartson ar Sgorio?

Mam fach…gwir…sa Gwynfor yn troi yn ei fedd siwr dduw.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Tachwedd 24, 2011 11:21 pm

O gymryd yr egwyddor o wnaeth pethe yn Saesneg pan nad yw’r

“sgiliau angenrheidiol” ar gael yn Gymraeg a chan gofio pa mor erchyll yw comedi ar S4C ( ac eithirio y gyfres yna wnaeth Cwmni Da’n ddiweddar) beth am ail-ddarledu The Comedians neu Dave Allen bob nos – rhaglenni rhad ac yn sicr o gael fwy o viewers na chomedi arferol y Sianel ? Fel lot o bobl dyslexic dwi’n gryf pan ddaw hi i logical thinking !

http://www.youtube.com/watch?v=2q0gVnKy8DY

http://www.youtube.com/watch?v=Mt7h3CghJEg&feature=related

§

twrch , Tachwedd 25, 2011 10:32 am

Dyw’r frwydr heb eu henill, rwan mae’n cychwyn mewn difri

Oeddan ni’n haeddu hoe ar ol yr ymdrech anferth i sicrhau’r cynullaid ond dyna ddigon o orffwyso mi dybiaf

Mae brwydrau newydd iw hymladd serch hynny. Yr un pwysicaf yn fy marn i ydi sicrhau fod y cymru cymraeg yn siarad cymraeg a’u gilydd ac fod pob cenedlaetholwr yn mynnu gwasaneth cymraeg gan y sefydliadau sydd eisioes yn cynnig hynny.

§| Nodi camddefnydd

Martin , Tachwedd 25, 2011 10:53 am

Does dim yn synnu neb am weithredoedd mewnol S4C erbyn hyn.
Fydda i ddim yn gwylio S4C o hyn allan nes bod S4C yn sicrhau i’r genedl bod y Gymraeg yn greiddiol i bopeth mae’r corfforaeth am gyflawni.

§| Nodi camddefnydd

meirion , Tachwedd 25, 2011 2:35 pm

Calon Cenedl ? Mae angen trawsblaniad felly does !

§| Nodi camddefnydd

Aled , Tachwedd 27, 2011 8:43 pm

Rhaid bod yn rhesymol. Nid yw denu sgiliau da i Gymru’n beth gwael. Ond rhaid hefyd diogelu’r iaith.

Mae’r Gymraeg yn angenrheidiol, ond dylid hefyd gael gweithwyr o’r safon orau yn rhyngwladol.

Dylid yn syml roi cymal mewn cytundebau o’r fath, a deiliad y swydd yn cytuno i ddod yn ymfarferol rugl yn yr iaith o fewn cyfnod byr iawn (llai na 2 flynedd). I rai gwirioneddol dalentog a deallus, ni fyddai hyn yn anodd, ac i’r rhai sydd wir eisiau gweithio yn S4C ni fyddai’n broblem.

§

Ifor Hughes , Tachwedd 28, 2011 12:19 pm

Aled darllen y blydi thing gynta – Cytundeb 6 mis ! Sut ar wyneb all rhywun wneud y job yna o edrych ar ‘werth masnachol’ raglenni Cymraeg heb siarad Cymraeg.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.