Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Croesawu cyfieithu’r Cofnod

Tachwedd 24, 2011 19:21, Diweddarwyd am 20:03


Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi croesawu y cyhoeddiad y bydd Cofnod y Cynulliad yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg.

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi penderfynu ailddechrau cyfieithu’r cofnod o fis Ionawr ymlaen.

Bydd y Cofnod yn cael ei gyfieithu drwy dechnoleg Google Translate, ac yna fe fydd cyfieithwyr yn adolygu’r gwaith.

Maen nhw’n amcangyfrif y bydd gwneud hynny’n costio £110,000 y flwyddyn, tua hanner cost talu cyfieithwyr i wneud y gwaith i gyd.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws, fod cyhoeddiad Comisiwn y Cynulliad heddiw “yn gam pwysig tuag at wireddu’r uchelgais o wneud y Cynulliad Cenedlaethol yn sefydliad gwirioneddol dwyieithog”.

Roedd Bwrdd yr Iaith wedi beirniadu’r Comisiwn am y penderfyniad i roi’r gorau i gyfieithu’r Cofnod  gan ddweud ei bod wedi torri ei rheol iaith ei hun.

“Rydyn ni fel Bwrdd yn hynod o falch o glywed fod Comisiwn y Cynulliad wedi dod i’r penderfyniad hwn,” meddai Meri Huws.

“Fe gynhaliom ni ymchwiliad statudol i’r penderfyniad i beidio â darparu Cofnod cwbl ddwyieithog, ac rydym yn croesawu’r ffaith fod aelodau’r Comisiwn wedi gweithredu ar argymhellion yr ymchwiliad hwnnw yn fawr iawn.

“Edrychwn ymlaen at weld effaith y datblygiad hwn ar sefydliadau eraill sy’n gweithredu yn y Gymraeg ac ar ddatblygiad technoleg i gynyddu cofion cyfieithu.

“Diolch i aelodau’r Comisiwn a’r Llywydd am wneud y penderfyniad hwn, ac am drin y Gymraeg yn iaith swyddogol ym mhrif sefydliad democrataidd Cymru.”

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams, eu bod nhw hefyd yn croesawu’r penderfyniad, ond fod y Gymraeg wedi ei drin yn “israddol”.

“Rydyn ni’n croesawu’r newyddion hyn yn rhannol; mae’n dangos bod ymgyrchu miloedd o bobl wedi dechrau dwyn ffrwyth,” meddai.

“Fodd bynnag, mae’n achosi cryn bryder i ni fod y Comisiynwyr wedi gwrthod argymhelliad Bwrdd yr Iaith i ddiogelu mewn statud y bydd yna Gofnod Cymraeg.

“Felly, byddwn ni’n gofyn i ACau gwella’r Bil Ieithoedd Swyddogol yn ystod proses ddeddfu er mwyn cael y sicrhad hynny.

“Mae’r cynlluniau hefyd yn parhau i drin y Gymraeg yn israddol gan fod rhaid aros am bum diwrnod i gael fersiwn Cymraeg, yn groes i’r arfer rhwng 2005 a 2009.

“Yn amlwg, gan fod y Comisiwn wedi tanwario o tua £2 miliwn eleni, nid yw’n anghyfartaledd hwn yn fater o gost ond ewyllys gwleidyddol.”

‘Hygyrch’

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Cynulliad ei fod wedi “ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog” drwy gytuno ar fframwaith newydd a fydd yn rheoli ei wasanaethau dwyieithog.

Rhan hanfodol o’r ymrwymiad hwnnw yw Bil Cynulliad drafft, meddai.

Bydd hwnnw yn rhoi sail statudol gadarn i ddyletswyddau’r Comisiwn i ddarparu gwasanaethau dwyieithog, ac a fydd yn cyflwyno’r trefniadau ar gyfer llunio Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd o dan y fframwaith ddeddfwriaethol arfaethedig, meddai.

Mae’r bil hefyd yn diffinio mewn cyfraith mai Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cynulliad.

“Rwyf yn hynod falch fod y Comisiwn wedi cadarnhau’r ymrwymiad a wnaed ym mis Gorffennaf eleni,” meddai Rhodri Glyn Thomas, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.

“Rwyf o’r farn fod y ddeddfwriaeth arfaethedig a’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn cadarnháu ein hawydd i sicrhau bod y Cynulliad yn gosod esiampl yn y maes hwn.

“Drwy ddefnyddio technoleg ar y cyd â chyfieithwyr proffesiynol, rydym yn hyderus y gallwn ddarparu Cofnod o safon o drafodion y Cyfarfod Llawn mewn modd effeithiol a chynaliadwy.

“Bydd y model rydym yn ei ddatblygu hefyd o fudd i sefydliadau eraill sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg. Drwy ddefnyddio technoleg i gyfieithu’r Cofnod, byddwn yn cynyddu cof y system a fydd ar gael i sefydliadau ac unigolion eraill ei ddefnyddio.

“Mae’r penderfyniad hwn yn cadarnhau bwriad Comisiwn y Cynulliad i barhau i ddatblygu gwasanaethau dwyieithog i sicrhau bod gwaith y Cynulliad yn hygyrch i bobl Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Crebwyll , Tachwedd 24, 2011 7:40 pm

Hmm…gwerthfawr yn symbolaidd efallai, a seicolegol mae’n siwr, ond mae hyn yn dal yn sawru rhyw fymryn bach fel ‘buddugoliaeth’ dadgysylltu a dadwaddoli’r Eglwys yn y 1920au. Mae’r Gymraeg dan warchae ar wastad llawer iawn mwy uniongyrchol na’r hyn a gynrychiolir yma.

§

Adam Jones , Tachwedd 24, 2011 8:00 pm

O gwych, ware teg yn wir i Meri Huws a bwrdd yr iaith am ddiolch i’r comisiwn am fod mor hael a darparu i ni gwybodaeth yn ein hiaith ni’n hunain, o fewn ein SENEDD cenedlaethol. Yn wir ond odyn nhw’n bobol bach ffein?

Am ddwli llwyr, mae hwn ond yn profi i fi bod y comisiwn a chymdeithas yn gyffredinol yn trin y Gymraeg megis rhywbeth ychwanegol, ond atodiad yn hytrach na rhywbeth prif ffrwd. Y dwli bod y Gymraeg yn costi hyn a hyn bob blwyddyn, sylwer nad oes sôn am gost cyfieithu’r cyfraniadau o’r Gymraeg i’r Saesneg? Wrth gwrs nad ydynt, Saesneg yw’r iaith real wrth gwrs, iaith bach sbort a sbri yw’r Gymraeg nace rhywbeth gweithiol. Nid yw’r defnydd llafar a wnaed o’r Gymraeg chwaith yn ddigonol na chwaith yn efelychu cyfansoddiad ieithyddol y wlad hon.

Roedd Saunders yn iawn ond oedd, y byddai ennill unrhyw ffurf ar hunan lywodraeth yng Nghymru cyn ennill y frwydr ieithyddol heb os yn lladd y frwydr dros yr iaith a’r angerdd tu hol iddi.

§

Leila Map , Tachwedd 24, 2011 8:39 pm

beth yw’r cam nesaf i lawr o ‘buddugoliaeth wag’?

Meddai Bethan yr Iaith: “Mae’r cynlluniau hefyd yn parhau i drin y Gymraeg yn israddol gan fod rhaid aros am bum diwrnod i gael fersiwn Cymraeg, yn groes i’r arfer rhwng 2005 a 2009…”

ffars! Dychmygwch tae’r di-Gymraeg yn gorfod aros bron i wsos i gael darllen beth sy’n cael ei ddweud ar lawr y Senedd yn yr iaith Gymraeg…jwg ar seld yw’r iaith, nid hanfod. Gwael iawn iawn

§

Benjiman , Tachwedd 24, 2011 9:39 pm

Arian, cost, gyllideb… Pam ydan ni’n rhoi ffigwr arianol ar yr iaith? Os yw’r Gymraeg yn bwysig o gwbl iddon nhw, os ydy’n gyfartal, te ni fydden nhw’n siarad o’r gost i wneud rhybeth mor syml a^ chofnod ddwyiaithog. Cam ymlaen? ‘Fallai, ond o dan amgylchiadau anffodus.

§

Carl Morris , Tachwedd 24, 2011 10:57 pm

Beth oedd ffynhonnell y cyfeiriad i Google Translate yn y stori ac ydy’r wybodaeth yn wir?

§

Daf Ch , Tachwedd 24, 2011 11:05 pm

Dydi’r ‘ddeddfwriaeth arfaethedig’ bendigedig uchod yn gwneud dim ond ei gwneud hi’n orfodol i’r cynulliad ddangos siop ffenest Cymraeg tra’n ffurfioli eu hawl i wneud ei busnes yn gyfangwbl drwy’r Saesneg. Yn y cyflwyniad i’r ddeddfwriaeth mae swyddogion y Cynulliad yn defnyddio Iwerddon a Chanada fel esiamplau o arfer da – dwy wlad sydd i bob pwrpas yn anwybyddu eu ‘hiaith leiafrifol’ ac yn cyfyngu ei defnydd go iawn i ranbarthau penodol. Mae hyn ynddo’i hun yn beryglus. Ond mae o hefyd yn diystyru’r hyn sy’n digwydd yng Ngwlad y Basg a Chatalwnia, dwy wlad mewn sefyllfaoedd llawer mwy perthnasol i Gymru (cenedl-ranbarthau o fewn gwladwriaeth fawr, mudiadau iaith cenedlaethol a gweithgar, ac ati). Mae o hefyd yn anwybyddu’r hyn wnaeth gwledydd fel y Ffindir a Norwy i roi statws i’w hieithoedd cenedlaethol hwythau gan danio wrth wneud hynny brwdfrydedd cenedlaetholgar a drodd gwledydd affwysol o dlawd yn rhai llwyddiannus a chyfoethog. Wrth gwrs, mae’n bosibl mai dyna mae swyddogion y cynulliad am ei rwystro.

§

AL , Tachwedd 24, 2011 11:35 pm

“… yn gam pwysig tuag at wireddu’r uchelgais o wneud y Cynulliad Cenedlaethol yn sefydliad gwirioneddol dwyieithog.”

Be sy’n ‘wirioneddol dwyieithog’ am gael peiriant yn cynhyrchu’r Gymraeg? Yr unig ffordd o fod yn ‘wirioneddol dwyieithog’ yw cael mwy o bobl yn defnyddio’r Gymraeg yn y lle cyntaf.

Tybed faint (yn fwy) o sefydliadau eraill fydd eisiau defnyddio Google Translate yn lle cyfieithwyr o nawr ymlaen…? Ta-ta i gyfieithu, helo i brawfddarllen (neu ddim prawfddarllen o gwbl yn achos y rheini sydd ddim yn deall y maes).

§

Iwan Rhys , Tachwedd 25, 2011 10:40 am

….tan i Google dynnu’r plwg….wedyn beth?

§| Nodi camddefnydd

John Griffith , Tachwedd 25, 2011 5:27 pm

Rhag cywilydd y rhai Cymraeg eu hiaith siarad Saesneg yn y Senedd.

§

Nic Dafis , Tachwedd 26, 2011 12:07 am

Os ydy hi’n wir eu bod nhw am ddefnyddio Google Translate fel hyn, bydd yn arwain at GT fod yn llai defnyddiol i bawb arall yn y pen draw. Fel mae Carl yn dweud rhywle arall, “Bwydo Google Translate gyda corpws o Google Translate yw B.S.E. deallusol”.

Does ‘na neb yn y Senedd sy’n deall hyn?

§

Iwan Rhys , Tachwedd 26, 2011 6:52 am

Nic, wyt ti’n credu y byddai hyn yn debygol o gymell Google naill ai i dynnu’r gwasanaeth am ddim, neu godi tâl ar sefydliadau, fel y Cynulliad, sydd am ddefnyddio’r gwasanaeth?

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.