Edwina Hart
Does dim rhaid i drefnwyr Rali GB gynhyrchu unrhyw ddeunydd marchnata yn y Gymraeg – er eu bod nhw’n derbyn £1.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gynnal y rali yma.

Yn ôl un Aelod Cynulliad fu’n Weinidog gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg, mae’r trefniant yn “annerbyniol”.

Mae’r Gweinidog Busnes Edwina Hart wedi rhoi ei chaniatâd i drefnwyr y rali, IMS, beidio â chynhyrchu unrhyw ddeunydd marchnata dwyieithog.

‘Mae trefnwyr y Rali yn llunio’r holl ddeunydd marchnata (ar y cyd â Llywodraeth Cymru sy’n eu cymeradwyo) yn Saesneg yn unig, gan eu bod yn targedu cynulleidfa genedlaethol (y DU) a rhyngwladol yn bennaf,’ eglurodd Edwina Hart mewn llythyr.

Ond mae agwedd y Gweinidog Busnes wedi synnu’r cyn-Weinidog Diwylliant, Rhodri Glyn Thomas.

“Mae bellach yn orfodol i unrhyw un sy’n derbyn cymhorthdal sylweddol gan Llywodraeth Cymru i gydymffurfio â pholisi iaith y Llywodraeth,” meddai wrth Golwg 360.

“Mae’r amodau’n glir – mae’n rhaid iddyn nhw gydnabod a defnyddio’r Gymraeg. Mae’n ddisgwyliad eu bod nhw’n defnyddio’r Gymraeg wrth farchnata.”

Wrth ymateb i eglurhad y Gweinidog Busnes fod y cytundeb i farchnata’r rali drwy’r Saesneg yn unig yn ei le ers blynyddoedd, dywedodd Rhodri Glyn Thomas fod y “buddsoddiad diweddaraf o £1.4 miliwn yn gytundeb newydd i bob pwrpas”.

Ysgrifennu at y Gweinidog

Mae Rhodri Glyn Thomas AC nawr yn dweud ei fod am “edrych i mewn i’r sefyllfa” er mwyn gweld sut a pham y rhoddwyd y fath lefel o gymhorthdal i’r digwyddiad, heb ymrwymiad i ddefnyddio’r Gymraeg.

“Mae’n hollol annerbyniol,” meddai.

“Dw i’n bwriadu ysgrifennu at y Gweinidog i ddarganfod beth yw’r sefyllfa.”