Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Cwestiynu gwario £120,000 ar gyngherddau’r Eisteddfod

Tachwedd 25, 2011 10:55, Diweddarwyd am 12:10


Wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ddatgelu ei bod wedi colli degau o filoedd o bunnau wrth gynnal y Brifwyl yn Wrecsam eleni, mae cynghorydd lleol yn dweud bod y cyngherddau gyda’r nos wedi methu denu cynulleidfa.

 Yn ôl neges twitter gan yr Eisteddfod ei hun roedd gostyngiad yn “incwm cyngherddau, stondinau a nawdd mewn cyfnod anodd wedi creu colledi i’r Eisteddfod, nid costau artistiaid. Dim mwy tan ddydd Sadwrn.”

Mi fydd Cyngor yr Eisteddfod yn cyfarfod i drafod y colledion yn Aberystwyth yfory.

 Yn ôl y Cynghorydd Arfon Jones o Blaid Cymru Wrecsam roedd pobol y dref  “wedi cyrraedd y targedu lleol” mwy neu lai yn ogystal â thargedau noddwyr.

“Fe gawson ni niferoedd da yno a phopeth yn rhedeg yn esmwyth. Ond, y siom mwyaf oedd y niferoedd ddaeth i’r cyngherddau nos,” meddai. 

Mi fuodd Arfon Jones mewn tri chyngerdd gyda’r nos, ac un ohonynt yn costio £29.

 “Ro’ ni’n cofio’r ffigwr hwnnw am fy mod i’n meddwl ei fod o’n ddrud,” meddai’r cyn-blismon cyn ychwanegu nad oed ganddo broblem talu £17 i fynd i mewn i’r Maes yn ystod y dydd “am ei fod yn werth da am arian gan fod modd mynd i bob man a threulio’r dydd yn y Steddfod.”

Roedd yn teimlo fod y cyngherddau gyda’r nos yn pandro llawer gormod i bobol y teledu.

 “Yr unig beth roeddwn i’n wneud yno oedd cymorthdalu S4C,” meddai.

Ymateb yr Eisteddfod

Fe ddywedodd yr Eisteddfod na fydden nhw’n gallu datgelu union swm y golled ariannol ar hyn o bryd. “Mae’r Cyngor yn cyfarfod yfory ac ar ôl hynny byddwn yn fodlon gwneud cyfweliadau,” meddai llefarydd wrth Golwg360.

“Dydyn ni ddim yn mynd i ddatgelu ffioedd unigolion, ond costiodd y saith cyngerdd yn Wrecsam £120,000 ac mae’r cyfanswm hwn yn cynnwys cyflwyniad artistig a llwyfannu am yr wythnos,” ychwanegodd. 

Mae Arfon Jones, a fu’n rhan o’r ymgyrch godi arian yn Wrecsam, am wybod faint o dâl mae prif artistiaid y cyngherddau nos yn dderbyn am berfformio.

 “Fel Pwyllgor lleol, dydyn ni ddim ond yn cael gwybod beth rydan ni angen cael gwybod gan yr Eisteddfod. Rhywbeth mewnol – dydyn ni ddim yn gwybod sut mae’n gweithio,” meddai.

 “Dw i’n meddwl bod angen cwestiynau faint mae artistiaid yn cael eu talu. Y teimlad gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yw ei fod o fel bonws Nadolig i artistiaid Cymraeg.” 

Roedd am bwysleisio nad yw’n cyhuddo’r Eisteddfod nac artistiaid Cymraeg “o ecsbloetio neb – jest gofyn y cwestiynau.”

Mi wnaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent y llynedd golled o £47,000.

 “Os ydan ni am wneud colledion fel hyn yn flynyddol – mae angen edrych ar y pethau hyn,” meddai Arfon jones.

“Oes yna rywun yn gwybod rhywbeth am y berthynas rhwng S4C a’r Eisteddfod? S4C sy’n talu pres i’r Eisteddfod am gael recordio – neu’r Eisteddfod sydd. Dydw i ddim yn gwybod dim byd am y berthynas.

“Roedd nosweithiau Cymdeithas yr Iaith yn arbennig o lwyddiannus yn yr Eisteddfod eleni. Ond dim ond hyn a hyn o gynulleidfa sydd gan yr Eisteddfod – os oes gen ti Dafydd Iwan ym Maes C, dau lwyfan ym Maes B, Cymdeithas yr Iaith, Theatr Bara Caws mewn clwb a chyngherddau steddfod – does dim modd cael cynulleidfa i bob un o’r rhain, mae’n rhaid rhesymoli hyn i gyd. Oes angen rhywbeth ym mhob man?”

Ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi derbyn £493,000 o arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru.

Mae Golwg360 yn aros am ymateb gan S4C.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Henri , Tachwedd 25, 2011 11:06 am

Pe buasai Arfon Jones yn edrych ar adroddiadau blynyddol y Steddfod ac S4C mi fyddai’n gweld faint y mae S4C yn ei dalu i’r Eisteddfod Genedlaethol am fod yno. A’r BBC yr un peth.
A faint o arbediad fyddai o petae nhw’n talu llai i artistiaid y cyngherddau? Dydi hi ddim yn deg eu bod nhw’n ymddangos am ddim nagdi. Pobol broffesiynol ydi’r rhan fwya sy’n ymddangos y dyddiau yma.

§

AL , Tachwedd 25, 2011 12:59 pm

Beth am gynnal Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol ar yr un safle ar yr un pryd … un ar ôl y llall?

Mewn gwirionedd, yr un peth ydyn nhw; yr un bobl sy’n ymweld â nhw; yr un sefydliadau sydd â stondinau yno; a Llywodraeth Cymru sy’n talu amdanyn nhw.

§

Gerwyn Preis , Tachwedd 25, 2011 1:43 pm

Cost AL…….. fase’r gynulleidfa ddim yn medru fforddio y ddwy yn syth ar ol ei gilydd….

@Henri….. cytuno i ryw raddau. Cofia, faint yn ol y son gostiodd Katherine Jenkins beth amser yn ol? Cost ty teras yn y cymoedd ma’n debyg o’r sion sydd o gwmpas. Fedar y Steddfod ddim fforddio hyn. A hefyd yn ol yr hyn dwi’n ddallt, petasa’r BBC ac S4C ddim yno, fasa steddfoda’r Urdd yn bendant a’r Gen yn debygol ddim yn bodoli heb son am y cyngherdda…..

Rheitiach fasa i’r Steddfod Gen ddod nol at ei diwylliant ei hun a chynnal nosweithiau Cymreig da am lai o bres na dilyn fel defaid rol y “West End doller” bondigrybwyll. Wedi’r cwbl sawl cyngerdd Sibrydion/Bryn Fon/ Caryl/ Al Lewis/Elin Fflur neu bwy bynnag gewch chi am gost OMA, neu Cerys Matthews, Rhydian, Aled Jones, neu Go Compeeeeeeeerrrr?

Amser ail ddiffinio’r petha ma….

§

Owen Williams , Tachwedd 25, 2011 2:24 pm

Pam ddylai Katherine Jenkins gael llai o ffi nag mae hi’n gael yn unrhyw le arall? Os yw’n ormod i’r Eisteddfod yna peidio ei chyflogi. Pwy sy’n dweud fod yn rhaid cael cyngherddau yn y pafiliwn bob nos? Os ydyn nhw’n faich ariannol, eu stopio. Ond mae’n rhaid i S4C ffeindio pethau wedyn i lenwi’r tyllau. Yr hen gylch dieflig…..

§

Gerwyn Preis , Tachwedd 25, 2011 3:23 pm

@Owen…… nid dadlau a wnes i o blaid KJ i gael llai o bres…fy mhwynt oedd taw sens yw na tydi sefydliadau Cymraeg ddim yn medru fforddio hyn….. darllenna hi eto ac mi gei di weld hynny. Ynglyn a gweddill y sylw dwi’n gytun. Fodd bynnag, mae modd cynnal cyngherdda llai o gost a dal denu cynulleidfa (lai o bosib) ond bydd yn talu am yr arlwy honno…..

Ynglyn ag S4C …oes mae angen iddynt dynnu’u bysedd allan a ffendio ffyrdd o gael adloniant da fydd yn llenwi’r tylla hyn yn yr amserlenni. Roeddan nhw’n arfer gneud cynhyrchiada lu mewn stiwdios ers talwm fatha BBC, Barcud, HTV…. lle ma rheina dwch? Barcud wedi cau wrth gwrs…

§

Martin , Tachwedd 25, 2011 3:51 pm

Dw i am dynnu blewyn neu ddau rwan;
Yn gynta’ mae’n gamarweiniol i son am elw a cholled; mae’r Eisteddfod yn faich ariannol flynyddol i’r trethdalwr Cymreig – rhai blynyddoedd mae’r arian a dderbyniwyd trwy’r cyngor lleol, nawdd cwmniau, gweithgareddau gwirfoddolwyr, stondinwyr ayb ychydig yn fwy na’r costau o gynnal y ‘Steddfod.
Petasai rhywun yn cyfri’r costau blynyddol o gynnal y ‘Steddfod symudol dros ddegawd neu fwy; sawl safle parhaol fuasa’ wedi cael ei adeiladu i’w dderbyn erbyn hyn?
Mae ‘na ddau safle ar gael yn barod; safle’r Eisteddfod Rhyngwladol yn Llangollen a safle Sioe Llanelwedd.
Rhyw dri neu bedwar safle arall a dyna ni; ‘Steddfod symudol mewn cylchdaith o gwmpas Cymru.
Petasai’r Eisteddfod Genedlaethol yn berchen/rhan-berchen ar y safleoedd, dyma ffordd o godi incwm trwy llogi’r safleoedd ar gyfer sioeau, cyngherddau, ayb.
Yn lle gwastraffu arian yn flynyddol, beth am fuddsoddi mewn safleoedd addas a gosod seiliau cadarn i ddiwylliant y ‘Steddfodau – Genedlaethol a’r Urdd?

§

Jones , Tachwedd 25, 2011 6:16 pm

Efallai dylai ystyried gwneud yr Eisteddfod yn ychydig llai? Mae na ryw obsesiwn wedi bod i wneud o yn fwy ac yn fwy. Rhaid edrych pam wnaeth yr Eisteddfod blynyddoedd yn ol wneud arian- ac yna trio defnyddio’r model yna i’r dyfodol.

Martin; allaim gweld cael safleon parhaol yn gweithio. Mae Llywodraeth Leol yn roi LOT o arian i gynnal yr eisteddfod- ac allaim gweld yr un 4 yn gorfod talu amdanyn nhw bob 4mlynedd. Dwi hefyd ddim yn gweld cynghorau lle tydyr safle ddim wedi’i leoli yn fodlon rhoi arian tuag ato.

§

Twitahw , Tachwedd 25, 2011 6:33 pm

Pam na all y cyngerddau nos fod yn dathliad o fuddugwyr y dydd/wythnos? Mae codi £29 am docyn yn annerbyniol yn fy marn i. Mae’r gymanfa ganu wastad yn orlawn – falle bod Eisteddfodwyr yn hoffi arlwy mwy traddodiadol, nosweithiau llawen ag ati.

§

Martin , Tachwedd 25, 2011 8:20 pm

@Jones: Falle dw i’n ehangu’r drafodaeth yn ormod rwan ond mae 22 o gynghorau sir yng Nghymru fach tua 15 yn ormod. Petasen ni’n troi yn ol at y siroedd mawrion; Gwynedd, Clwyd, Powys, Dyfed a’r Morganogion; mi fuasai’r baich ariannol yn haws i’w hysgwyddo. Er fy mod yn amau dy fod ti’n iawn hefo dy sylw am anfodlonrwydd cynghorau i gyfrannu i’r ‘Steddfod os nad ydy’r lleoliad yn y sir, mae’r plwyfoldeb gul yna yn dangos pa mor anaeddfed ydym fel cenedl.

§

Rhys Llwyd , Tachwedd 25, 2011 10:38 pm

Yn 2010 es i ddim i’r Eisteddfod oherwydd pwysau gwaith. Cyn hynny ro ni wedi bod yn mynd am yr wythnos gyfan ers 2000, ro ni’n 15 bryd hynny. Rhwng 1985-2000 es am ddiwrnod neu ddau gyda’m rhieni. Roedd peidio mynd i’r Eisteddfod yn 2010 i mi yn big deal. Roeddwn i’n gutted. Ond wyddo chi beth? Hedfanodd wythnos gyntaf Awst 2010 heibio ac ar ddiwedd yr wythnos, er mawr syndod i mi, roeddwn i dal yn Gymro go-iawn! Pwy feddylie? A finnau wedi meddwl fod rhaid i chi fynd i’r Steddfod i fod yn Gymro go-iawn dros yr holl flynyddoedd. Liberating.

Ond o ddifri – mae’r Eisteddfod yn bwysig i ddiwylliant Cymraeg. Os torri i lawr beth am adael i fudiadau Cymraeg gael rhwyddineb i drefnu holl weithagreddau ffrinj y steddfod (gigs, dramau, cyngherddau, nosweithiau llenyddol ayyb…) heb gystadleuaeth yn o dŷ digwyddiadau “swyddogol” yr Eisteddfod? Byddai’n gyfle i’r mudiadau gwirfoddol godi mwy o arian tuag at eu gwaith nhw gydol y flwyddyn ac yn ffordd i’r Eisteddfod sgêlio lawr.

§

Iwan Rhys , Tachwedd 26, 2011 7:03 am

Syniadau da, Rhys, a byddwn i’n hoffi gweld hynny, ond o ystyried y refeniw mae’r Eisteddfod yn ei gael drwy S4C am ddarlledu’r cyngherddau o’r pafiliwn, sai’n gweld yr Eisteddfod yn rhoi’r gorau i’w cynnal.

Wedi dweud hynny, byddai’n ddiddorol gweld balans ariannol y cyngherddau – hynny yw, cymharu’r gost o gynnal y cyngherddau yn erbyn refeniw S4C a’r tocynnau. Os nad oes elw clir (neu yn enwedig os oes colled), wedyn mae naill ai angen i’r Eisteddfod newid pethau’n sylweddol (dewis artistiaid sydd ddim yn codi £15mil+ yr un, a chodi llai am docynnau er mwyn ceisio gwerthu mwy), neu beidio â chynnal cyngherddau, gan roi hwb i gynulleidfaoedd y digwyddiadau ffrinj, fel rwyt ti’n dweud, Rhys.

§| Nodi camddefnydd

cris , Tachwedd 26, 2011 1:09 pm

Dwi’n rhwy amau nad yw’r sylwadau uchod ynghylch costau perfformwyr wedi llwyr ddeall cymhlethdodau gwariant ac incwm yr Eisteddfod. Mae gwerthinat tocynnau’r nos yn dod ag incwm sylweddol i’r Wyl swn i’n meddwl. A – like it or not – yr enwau mawr sy’n llanw’r seddi. Tasai’r Steddfod yn dibynnu ar y criw bach ‘na o Gymry Cymraeg ymroddedig sy’n mynd i fynd i’r cyngherddau doed a ddelo – fase dim lot o arian yn dod o’r Cyngherddau. Mae llawer o bobl leol, lawer ohonynt yn ddi-Gymraeg, yn mynd i’r cyngherddau hyn ac felly’n sybsideiddio’r Cymry Cymraeg hynny sy’n crwydro’r maes am wythnos gyfan – ac yn cyfrannu fawr ddim heblaw’r ffi mynediad i’r Maes ei hun. Dadleuon arwynebol iawn yw’r uchod am gostau perfformwyr yn anffodus.

§| Nodi camddefnydd

cris , Tachwedd 26, 2011 1:11 pm

A baswn i’n ychwnaegu mai’r perfformwyr amatur – hy y cystadleuthau – sy’n gyfrifol am lot o’r golled ariannol, nid y perfformwy proffesiynol.

§| Nodi camddefnydd

Gerwyn Preis , Tachwedd 26, 2011 1:27 pm

@ cris…. mae pris tocyn cyngerdd o gwmpas y £25 mewn cyfartaledd a’r pafiliwn newydd yn dal 2000. Tasen nhw’n gwerthu pob un set fase hynny’n dwad a £50,000 o incwm i’r noson ar y drws. A byddai ffi o £15, 000 dyweder i Cerys Matthews neu rywun tebyg ddim yn ymddangos yn ormod i gynnal noson. Fodd bynnag, realiti’r sefyllfa yw nad ydy’r enwau mawrion hyd yn oed yn medru llenwi’r pafiliwn yn llwyr, a chyda’r ffaith bod y Steddfod yn cymryd swp o docynna (rhai cannoedd a dweud y gwir fel tocynna braint artistiaid ac i’w swyddogion a phwysigion, noddwyr ac ati) mae’r incwm ar y drws yn lleihau i rywle o gwmpas £30,000. Bydd angen talu am faint fynnir o bethau eraill fel artistiaid a cherddorion cefndir, ac adnoddau, felly oni fasa talu hanner y ffigwr hwnnw i Bryn Fon/Caryl/ ac ati a chreu mwy o swp o elw?
Hefyd yn dilyn dy bwynt ynglyn a’r enwa mawrion yn denu cynulleidfa di Gymraeg…fasa’n ddiddorol cael brecdywn ar ffurf holiadur wrth i bobl adael y noson i weld be ‘di canran y gynulleidfa sy’n ddi Gymraeg a’u cymhellion i ddwad i’r noson?

§

Caerwyn D , Tachwedd 26, 2011 10:48 pm

Mae hwn mor, mor wir, Arfon yn taro hoelen ar ei phen – “Roedd nosweithiau Cymdeithas yr Iaith yn arbennig o lwyddiannus yn yr Eisteddfod eleni. Ond dim ond hyn a hyn o gynulleidfa sydd gan yr Eisteddfod – os oes gen ti Dafydd Iwan ym Maes C, dau lwyfan ym Maes B, Cymdeithas yr Iaith, Theatr Bara Caws mewn clwb a chyngherddau steddfod – does dim modd cael cynulleidfa i bob un o’r rhain, mae’n rhaid rhesymoli hyn i gyd. Oes angen rhywbeth ym mhob man?”

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.