Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Sgymraeg – o Maes E i lyfr via Golwg

Tachwedd 25, 2011 14:19, Diweddarwyd am 14:22


Mae’r dyn tu ôl i’r wefan lle fathwyd y term ‘Sgymraeg’ am Gymraeg gwallus ar arwyddion cyhoeddus, yn dweud fod gan y llyfr newydd sy’n casglu’r holl enghreifftiau ynghyd rywbeth “digon ysgafn ar y wyneb, rywbeth dyfnach i’w ddweud am statws yr iaith” yng Nghymru.

 Ar wefan Maes E y daeth y term ‘Sgymraeg’ i’r byd, ac ers hynny mae cylchgrawn Golwg wedi mabwysiadu’r term a chynnwys esiamplau wythnosol o arwyddion ffyrdd gwallus yn y golofn Jac Codi Baw.

“Mae Golwg wedi poblogeiddio’r syniad o Sgymraeg. Rwy’n credu bod ochr ddoniol iddo a hurt,” meddai Nic Dafis, sylfaenydd Maes E.

“Ond, rwy’n credu fod dicter hefyd. Mae pobl yn weld o’n warthus bod gymaint o gamgymeriadau esgeulus,” ychwanegodd Nic Dafis cyn dweud bod llawer o drafod Sgymraeg ar Maes E yn y gorffennol.

“Mae Sgymraeg yn dweud rhywbeth am statws yr iaith. Rydan ni’n dweud bod y ddwy iaith yn gyfartal. Ond, pan mae’n dod at godi arwydd – mae’n stori wahanol. Mae’n hala fi’n grac,” meddai. Ond, dywedodd hefyd bod “hiwmor” yn bwysig. “Mae’n bwysig nad ydyn ni’n colli’n pennau am y peth.

 “Mae’n debyg y bydd yn mynd i hosan Nadolig llawer o bobl. Siwr y bydd yn boblogaidd – rhywbeth digon ysgafn ar y wyneb, ond mae rhywbeth dyfnach i’w ddweud am statws yr iaith.”

Fe ddechreuwyd casglu’r Sgymraegs gan Golwg ar ôl i ddarllenwyr ddechrau eu hanfon at golofn ddychanol Jac Codi Baw ar dudalennau’r cylchgrawn.

Ers hynny maen nhw wedi dod yn rhan boblogaidd o’r cylchgrawn a bellach maent i’w gweld ar y we wrth i bobl fynd ati i rannu esiamplau gwael maen nhw’n eu gweld ledled Cymru ar flickr a Twitter.

Mae rhai wedi cael sylw pellach ar raglenni newyddion a hyd yn oed y tu hwnt i Gymru, ac yn achos un Sgymraeg, daeth ceisiadau am wybodaeth o bapurau Llundain, y News at Ten a’r rhaglen ddychanol Have I Got News For You.

 Sgymraeg, Y Lolfa, £4.95

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ceri , Tachwedd 25, 2011 6:32 pm

”Mae’r dyn tu ôl i’r wefan lle fathwyd y term ‘Sgymraeg’ am Gymraeg gwallus…….”

Gwynab da golwg son am ‘sgymraeg’ weithiau – nid pob tro – ond ma angen aderyn glan i giachu ontefe – ne ife canu ma’r aderyn yn ei neud yn y gwetiad. Ta p’un i wim yn cal fy nhalu am ysgrifennu, felly sdim raid ifi fod yn gywir!

Wi’n siwr bod ‘lle fathwyd’ yn rhyw fath o sgymraeg, o’nd yw hi ddim?!

§

CGT , Tachwedd 25, 2011 8:36 pm

Wel – dwi’n gwybod o lle y daw gryn dipyn o’r cynnwys ………..

§

Ben , Tachwedd 25, 2011 9:47 pm

lle fathwyd= lle a fathwyd.

§

Ceri , Tachwedd 26, 2011 12:06 am

‘lle y bathwyd’ dylsa hi fod ontefe ond os nage cwympaf ar fy mai.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.