Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Bryniau Clwyd yn rhwygo Ceidwadwyr y gogledd

Tachwedd 26, 2011 12:40


Bryniau Clwyd - ardal o harddwch naturiol eithriadol am gael ei hymestyn
Mae’r penderfyniad i ymestyn maint ardal o harddwch eithriadol naturiol Bryniau Clwyd wedi creu rhwyg ymysg Ceidwadwyr Gogledd Cymru.

 Wrth ymateb i’r cyhoeddiad ar lawr y siambr yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Antoinette Sandbach, AC dros ranbarth Gogledd Cymru a llefarydd amaeth y Ceidwadwyr, ei bod yn “siomedig iawn” â’r penderfyniad.

Ond mae Ceidwadwadwr arall o’r gogledd, Darren Millar, sy’n cynrychioli etholaeth Gorllewin Clwyd, yn dweud ei fod “wrth ei fodd” â’r cyhoeddiad gan Weinidog Amgylchedd Cymru.

Mae Darren Millar nawr eisiau gweld yr ardal yn cael ei dynodi’n “Barc Cenedlaethol mwyaf newydd Cymru. Ac fe fyddaf yn dal i ymgyrchu dros hyn,” meddai.

 “Mae tirwedd unigryw, hanes, a threftadaeth naturiol y Bryniau yn denu degau o filoedd o bobol i Ogledd Cymru bob blwyddyn,” meddai.

 “Mae’n bwysig iawn bod ein heconomi leol a’n busnesau lleol yn manteisio o’r newyddion hyn.”

‘Cenedlaethau o ffermwyr’

Barn Antoinette Sandbach fodd bynnag yw mai’r economi a’r busnesau lleol fydd yn dioddef fwyaf oherwydd y penderfyniad.

 “Mae tirwedd Bryniau Clwyd wedi cael ei siapio gan waith caled cenedlaethau o ffermwyr,” meddai Antoinette Sandbach.

 “Mae angen i Lywodraeth Llafur Cymru sylweddoli nad dim ond cyrchfan hamdden yw cefn gwlad.”

 Ychwanegodd fod y penderfyniad yn mynd yn “groes i ddymuniad y cymunedau lleol,” ac nad oes “unrhyw dystiolaeth glir fod ymestyn yr ardal harddwch eithriadol naturiol yn mynd i wella’r amgylchedd.

 “Ond mae pob tebygolrwydd y bydd y penderfyniad yn ychwanegu rhagor o reolau a biwrocratiaieth i ffermydd amaethyddol.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Rhys McKenzie , Tachwedd 26, 2011 3:29 pm

Fel person sy’n lleol i’r ardal, rydw i’n falch iawn i weld Dyffryn Dyfrdwy yn cael yr adnabyddiaeth hon o’r diwedd. Yn fy marn i, hwn yw un o’r llefydd mwyaf prydferth yng Nghymru, ym Mhrydain gyfan. Mae yna golygfeydd ar gael yno sydd mor dda ag unrhywbeth sydd i’w ddarganfod yn Eryri neu’r Bannau Brycheiniog, ac mae yna cymaint i’w weld o safbwynt hanesyddol a ddiwylliannol hefyd. Wnai wastad cofio un diwrnod oer yng nghalon gaeaf pan wnes i a fy nheulu gyrru dros Bwlch yr Oernant i weld y dyffryn i gyd dan cwrlid o niwl, a dim ond hen gastell Tywysogion Powys a’r panorama swmpus o’r Creigiau Eglwyseg i’w weld uwch ei phen.

§

Daf Ch , Tachwedd 26, 2011 6:37 pm

A thrwy wneud fel hyn mae’r Toriaid yn cadw eu cefnogwyr ar y ddwy ochr.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.