Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Adroddiad Turner – ‘mwy o waith i’w wneud eto’ medd S4C

Tachwedd 29, 2011 13:46, Diweddarwyd am 15:00


Mae Awdurdod S4C heddiw wedi cyhoeddi Adroddiad Turner yn dilyn ei adolygiad o effeithlonrwydd ac arloesedd y Sianel.

Mae’r Awdurdod hefyd wedi cyhoeddi eu hymateb i’r argymhellion ac mae Richie Turner wedi croesawu ymateb y sianel.

Yn ystod yr adolygiad bu Richie Turner yn holi aelodau staff S4C a rhanddeiliaid y Sianel a chafodd  ei adroddiad i’r Awdurdod ei gyflwyno ym mis Gorffennaf 2011. Roedd Richie Turner yn feirniadol o’r diwylliant o fewn S4C ac o’r cyfathrebu rhwng y Sianel a’i rhanddeiliaid.

Roedd wedi cynnig nifer o argymhellion i wella rheolaeth, diwylliant a chyfathrebu mewnol S4C. Gwnaeth awgrymiadau hefyd am sut i wella effeithlonrwydd ac i hybu arloesedd.

‘Mwy i’w wneud eto’

“Wrth ddod â pherson allanol i mewn, mae wedi caniatáu i staff a chyflenwyr allanol siarad yn blaen ac mae llawer o’r negeseuon sy’n cael eu cyfleu yn rhai anghyfforddus a heriol,” meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C.

“Mae’n bwysig bod y Tîm Rheoli a’r Awdurdod yn eu clywed, yn eu dehongli’n gywir ac yn ymateb yn adeiladol iddyn nhw. Mae llawer o waith wedi ei wneud i’r cyfeiriad hwn eisoes, fel y mae ymateb yr Awdurdod yn ei nodi, ond mae yna fwy i’w wneud eto.

“Er bod yna gyhoeddiadau pwysig wedi eu gwneud yn ystod yr wythnosau diwethaf sy’n gosod seiliau cadarn i ddyfodol S4C, mae cyhoeddi’r adroddiad yma heddiw yn fodd i’n hatgoffa o bwysigrwydd sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’r staff galluog sydd gennym, ac o frwdfrydedd a thalent y cynhyrchwyr annibynnol a’u timau hwy.”

“Mae’r materion sy’n cael eu codi yn rhai y bydd yn angenrheidiol i ni ail-ymweld â nhw’n gyson dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, yn enwedig o ystyried y toriadau ariannol sy’n cael eu gweithredu, er mwyn sicrhau fod y broses o gomisiynu rhaglenni a chyflenwi gwasanaeth yn digwydd yn y modd mwyaf effeithiol posib.”

‘Croesawu’ ymateb S4C

Dywedodd Richie Turner ei fod yn croesawu ymateb S4C a’r gwelliannau mae S4C wedi eu gwneud wrth weithredu’r newidiadau gafodd eu hargymhell yn ei adroddiad.

“Dylid cymeradwyo S4C am fod digon agored i gomisiynu adolygiad annibynnol o’i effeithlonrwydd a’i gallu arloesol,” meddai Richie Turner.

“Mae gan y darlledwr nawr y sylfaen i greu sefydliad mwy agored a chreadigol gyda’r gallu i fanteisio ar syniadau – sefydliad fydd yn adlewyrchu’n llwyr bob agwedd o’r diwylliant a’r gymdeithas Gymreig.”

Mae modd gweld yr adroddiad llawn ac ymateb S4C yma.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ifor Hughes , Tachwedd 29, 2011 10:51 pm

Dal yn meddwl y byddai reverse takeover gan y Cyngor Llyfrau yn syniad da. Unrhyw gorff sy’n pennodi Iona Jones ‘deserves what it gets’ person fundamentally gwrth Gymreig.

§

Evan Edwards , Tachwedd 29, 2011 11:42 pm

Be ma’r Cyngor Llyfre i wneud ag unrhyw beth????

§

Gwilym Prydderch , Tachwedd 30, 2011 1:47 am

Wn i ddim pwy ydi Ifor Hughes, ond mae’n bryd iddo fynd am wersi gloywi iaith, a dweud y lleia.

§

irfon , Tachwedd 30, 2011 9:01 am

Falla mai Ifor fydd Swyddog Masnachol newydd y Sianel. ‘Welsh desirable but not necessary’ wedi’r cyfan.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Tachwedd 30, 2011 9:23 am

Gwilym ymadrodd Saesneg yw ‘dweud y lleia’ – to say the least -ond na fe ma angen aderyn glan i gachu !

§

Ifor Hughes , Tachwedd 30, 2011 9:28 am

Irfon – os wnai lenwi y ffurflen gais yw ti’n fodlon cael look ar y mutations ?

Gwilym – beth yw ‘Milk Monitor’ yn Gymraeg ?

I am very experienced commercially and was appointed milk monitor in my primary school in Liverpool unfortunately as with others my career was cut short by Margaret Thatcher (the milk snatcher)

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Tachwedd 30, 2011 9:44 am

Anyway Gwilym Prydd-rech ( dy enw iawn) dwi’n dyslexic ac ma gwneud hwyl am ein pennau ni’n wrong

§

Gareth , Tachwedd 30, 2011 11:38 am

“Gwilym ymadrodd Saesneg yw ‘dweud y lleia’ – to say the least -ond na fe ma angen aderyn glan i gachu !”

Aha! Ond un person sydd fyth yn aralleirio’r dywediad fel hyn (yn y byd Cymraeg ar y we o leiaf). A dyna pwy yw “Ifor Hughes” felly.

Nodir camddefnydd ar weddill dy sylwadau gwarthus.

§

Ifor Hughes , Tachwedd 30, 2011 3:50 pm

Gareth wyt wedi tumblo fy ngem i !

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.