Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Tâl rhanbarthol yn golygu ‘llai o dâl i bobol Cymru’

Tachwedd 30, 2011 12:16


Carwyn Jones
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio y gallai cyflogau gweithwyr sector cyhoeddus Cymru gael eu gosod yn is na gweddill Prydain os yw adolygiad a gyhoeddwyd gan y Canghellor ddoe yn cael ei weithredu.

Yn ôl  Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, gallai’r adolygiad, sydd i fod i ystyried a yw cyflogau sector cyhoeddus Prydain yn ymateb i’r farchnad leol, olygu bod cyflogau Cymru yn is na sawl rhan arall o Brydain.

“Rydyn ni’n poeni’n fawr am y cynnig i edrych, unwaith eto, ar dâl rhanbarthol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Gallai hyn dorri cyflogau dros 300,000 o weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru, drwy’r drws cefn.”

Dywedodd y llefarydd fod Llywodraeth Cymru yn sylweddoli fod gweithwyr y sector cyhoeddus eisoes yn ei “chael hi’n anodd”, ac y byddai’r Llywodraeth yn “gwrthod unrhyw gam o’r math yma.”

Mae disgwyl i’r Canghellor George Osborne ofyn i gyrff adolygu cyflogau annibynnol i ystyried sut y gallai tâl yn y sector cyhoeddus ymateb yn well i farchnadoedd lleol, gan ddod yn ôl â’u casgliadau erbyn Gorffennaf 2012.

Bydd yr adolygiad yn edrych ar gyflogau bob un gwiethiwr y sector cyhoeddus heblaw doctoriaid, deintyddion, y lluoedd arfog, a’r farnwriaeth.

Mae’r Trysorlys yn dweud mai dyma yw’r arfer eisoes yn y sector preifat, ond fod y sector cyhoeddus wedi ei osod yn genedlaethol – ac nad yw hynny’n adlewyrchu’r sefyllfa lleol yn aml.

Ond mae Prif Weinidog Cymru yn dweud ei bod hi’n debygol iawn mai arwain at gyflogau is i weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru fydd canlyniad unrhyw adolygiad o’r fath.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Iwan Rhys , Tachwedd 30, 2011 12:29 pm

Os yw costau byw yn is yma, wedyn pam lai?

§

Jones , Tachwedd 30, 2011 12:33 pm

Iwan Rhys:
y ddadl ydy os ydych yn gwneud yr UNION yr un swydd- pam dylai bod whaniaeth?
Ac yn ail- os dwin cael fy nhalu £20k yng Nghymru, ac yn gwybod y byswn yn cael mwy yn rhywle fel Birmingham dwi’n siwr y byswn i yn symud.

Felly dwi o’r farn y dylid cyflogau bod UNION yr un peth. OND yn llefydd fel Llundain dylid cael “living allowance” [duda £5,000] (yndi mae o ryn cost yn y bond) – ond maen cadw cyflogau yr un peth.

§

Dafydd , Tachwedd 30, 2011 12:48 pm

Pam dylai fod ‘living allowance’ yn Llundian? Yr unig beth sy’n ddrytach yn Llundain yw prisiau tai. Gallwch fwyta yn rhatach yno. Nid oes rhaid i chi fod yn berchen car. Pam fod prisiau tai yn uwch…..oherwydd fod cyflogau yn uwch a’r gallu felly i gael credyd yn gwneud prisiau tai yn gostus. A dweud y gwir, mae Llundain yn ei chael hi’n dda fel ag y mae. I le’r aeth y rhan helaeth or 800 biliwn punt i gefnogi’r banciau. I le mae’r biliynau ar gyfer yr Olympics yn mynd ar drau weddill Prydain gan gynwys Cymru. Mi fydd y cynlluniau hyn yn golyg hyn yn oed fwy o drigolion dinaseodd Lloeger megis Llundain yn symud yma i brynu tai, busnesau, a thydynod ac ati ar draul y brodorion. :-(

§

Dafydd , Tachwedd 30, 2011 12:49 pm

….i’r pant y rhed y dwr.

§

Iwan Rhys , Tachwedd 30, 2011 1:34 pm

Jones, dwi’n gweld dy bwynt o ran gwneud UNION yr un swydd. Ond mae digon o broffesiynau yn y sector preifat lle mae pobl sy’n gwneud UNION yr un swydd yn cael cyflogau amrywiol ar sail eu lleoliad – e.e., byddai cyfrifydd newydd gymhwyso yn disgwyl cael cyflog sylweddol is yng Nghaerfyrddin na fyddai rhywun sy’n gwneud yr union yr un swydd yn Llundain.

Ac o ran rhywun sy’n ennill £20mil yng Nghymru (dweder sy’n byw mewn ty gwerth £100mil) yn dewis symud i Birmingham i gael cyflog uwch – petai’n dewis symud i Birmingham i gael, dweder £25mil am wneud yr un swydd, byddai’n rhaid iddo dalu £150,000 am dy o’r un maint, felly dwi ddim yn gweld pobl yn dewis gwneud hynny.

Ond ma pwyntiau Dafydd am gyflogau uwch yn gyrru prisiau tai uwch yn gwneud i mi ail ystyried fy marn. Dwi’n trafod yn rhannol er mwyn llunio barn ar y mater, gyda llaw.

§

CGT , Tachwedd 30, 2011 2:40 pm

Credaf fod hyn yn un peth sy’n gwahanu’r undebau athrawon UCAC (Cymry) a’r NASUWT ( Cymry Prydeinig) . Cred UCAC fod angen datganoli cyflogau ac amodau gwaith athrawon, tra mae’r NASUWT yn credu y dylai hyn gael ei ganoli yn nwylo’r Saeson.

§

Mali , Tachwedd 30, 2011 2:45 pm

Cymru tu ol i eto. Mae’r ateb yn syml – annibyniaeth i Gymru (a’r Alban a Lloegr).

§

Dafydd , Tachwedd 30, 2011 2:57 pm

Ond wedi dweud beth y dwedais uchod, ‘se Cymru yn annibynol ac nid yn unig hynny ‘se tai ar gyfer ein pobl ni ac nid yn gorfod cystadlu gydag estroniaid…..mi fyddem yn gefnogol i beth mae’r llywodraeth eisiau ei wneud. Y rheswm y tu ol i hyn oll yw fod y sector gyhoeddus yn llawer mwy deniadol na’r un breifat gyda’u cyflogua a’u pensiynau hael…..sydd yn hollol wallgof. Mae’n rhaid cael sector preifat cryf i dalu am y sector gyhoeddus ond yng Nghyru, mae pob peth wyneb i waered. Ond mae’n fy ngofidio y bydd hyn yn golygu ni’n cystadlu am dai gyda pobl fydd yn gwerthu dai yn ninasoedd Lloegr am lawer rhagor nag yw sefyllfa yn awr. Ond wedi dweud hynny, bydd y brodorion yn gallu cael rhywbeth mewn datblygiad trefol gyda tai fforddiadwy sbo. ‘So, all is not lost.’ :-))

§

John Griffith , Tachwedd 30, 2011 3:17 pm

Tal rhanbarthol i aelodau seneddol hefyd?

§

Dafydd , Tachwedd 30, 2011 3:46 pm

Does dim ots os yw fy nghyflog yn llai nag un o Kuwait er engraifft. Ond se nhw’n symud yma en masse,,,,,mi fyddai yn broblem. Yr un peth a’r Saeson.

§

Iwan Rhys , Tachwedd 30, 2011 10:09 pm

Beth ddigwyddodd i’r sylwadau?!

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Tachwedd 30, 2011 10:43 pm

Ffasgwyr ag agenda ar waith unwaith eto Iwan?

§| Nodi camddefnydd

Iwan Rhys , Rhagfyr 1, 2011 6:53 am

Rwy’n credu bod sylwadau wedi diflannu ar draws y storiau, felly sgwn i ai problem dechnegol gan golwg360 sydd tu ol i’r peth?

Os mai rhywun sydd wedi bod yn pwyso’r botwm camddefnydd, dylai fod amod ynghlwm wrth gael gwneud hynny bod yn rhaid gadael nodyn yn egluro pam bod yr unigolyn yn teimlo bod y sylwad yn gamddefnydd.

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Rhagfyr 1, 2011 9:16 am

Os taw problem dechnegol yw e’, mi ddylse nhw esbonio hynny. Mae’n ddigon hawdd. Weid’r cyfan, maent yn ffynhonnel newyddion. :-)

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.