Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Siom’ AC Plaid na chafodd annerch rali’r streicwyr

Tachwedd 30, 2011 16:18, Diweddarwyd am 17:28


Bethan Jenkins AC
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi galw ar y streicwyr i gofio pa bleidiau sydd wedi sefyll tu ôl iddyn nhw’n gyson yn ystod y gweithredu diwydiannol heddiw.

Dywedodd Bethan Jenkins AC wrth Golwg 360 ei bod yn siomedig na chafodd annerch rali’r streicwyr yn Abertawe heddiw, er bod aelodau o’r Blaid Lafur wedi cael siarad o’r llwyfan.

Yn ôl Bethan Jenkins, fe ddywedodd trefnwyr y rali wrthi nad oedden nhw’n fodlon iddi hi siarad, gan nad oedd hi i lawr ar yr agenda, er bod Aelod Cynulliad o’r Blaid Lafur wedi cael annerch y gynulleidfa.

Mae Bethan Jenkins yn credu fod y digwyddiad yn dangos “diffyg cydraddoldeb” gan rai o drefnwyr rali’r streicwyr heddiw, gyda Phlaid Cymru yn cael eu gwasgu i’r ymylon.

“Mae Plaid Cymru wedi bod yn gefnogol i’r streicwyr a’u penderfyniad i streicio o’r dechrau,” meddai Bethan Jenkins. “Ni yw’r unig blaid sydd wedi bod yn hollol gefnogol i’r streic.”

‘Angen gwarchod pobol gyffredin’

Dywedodd Bethan Jenkins wrth Golwg 360 ei bod eisiau i’r streicwyr wybod bod Plaid Cymru tu ôl iddyn nhw.

“Mae’r Llywodraeth yn cwtogi ar bensiynau, ac mae’n effeithio’n arw ar nifer o bobol,” meddai.

“A dim pobol gyfoethog â thai crand yw rhain, ond athrawon a nyrsus, a gweithwyr tebyg yn y sector cyhoeddus.

“Ma’ nhw’n haeddu cael sicrwydd yn eu pensiynau,” meddai.

Ond mae Bethan Jenkins yn dweud ei bod hi’n anhapus iawn â’r ffaith fod Llafur wedi cael “hysbyseb clir” ar lwyfan y streiciau, tra bod eu harweinydd yn San Steffan, Ed Miliband, wedi bod yn llugoer ei gefnogaeth i’r streicwyr.

“Ma’ hyn yn hollol annerbyniol,” meddai Bethan Jenbkins, “ma’ Llafur yn trio gwthio Plaid mas.”

Roedd tua 600 o bobol wedi ymgynnull i glywed yr areithwyr, oedd yn cynnwys nifer o aelodau o’r sector cyhoeddus, yn annerch cynulleidfa’r streic yn Abertawe heddiw.

‘Amddiffyn pensiynau’

Yn gynharach, roedd arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones wedi ymuno â gweithwyr y sector cyhoeddus wrth iddynt orymdeithio trwy Gaerdydd.

Dywedodd: “Gallai effeithiau’r holl newidiadau hyn a fwriedir gan lywodraeth DG weld rhai gweithwyr yn colli hyd at chwarter o’u pensiwn dros 30 mlynedd. Does dim teg yn y newidiadau hyn, ac y mae’n bwysig ein bod yn cefnogi’r gweithwyr hyn heddiw wrth iddynt geisio pwysleisio hynny wrth Lywodraeth y Toriaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan.
“Mae llywodraeth y DG yn cynnig y newidiadau hyn er mwyn arbed arian iddynt eu hunain, trwy gymryd miliynau o bunnoedd o’r cronfeydd pensiwn y cyfrannodd unigolion atynt trwy gydol eu bywydau gwaith. Mae hyn yn hollol annheg ac annerbyniol.

“Mae Plaid Cymru wedi pleidleisio yn gyson yn erbyn y newidiadau hyn yn San Steffan, a byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i amddiffyn pensiynau gweithwyr Cymru.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Adam Jones , Tachwedd 30, 2011 4:23 pm

Enghraifft arall o unbennaeth y Blaid Lafur yn Ne Cymru maent gwmws yr un peth drwy’r Cymoedd i gyd, plaid dauwynebog yn dweud un peth yn naill a gwneud y llall neu wneud dim byd o gwbwl.

Da iawn chi Gymry yn pleidleisio i’r blaid lafur yn eich hydoedd, da iawn yn wir!

§

Dafydd , Tachwedd 30, 2011 4:25 pm

Pwy wnaeth drefnu’r rali? Heb wybod hyn, hanner stori sydd yma.

§

Barry , Tachwedd 30, 2011 4:32 pm

Gan fod arweinwyr y blaid Lafur wedi bod mor amharod i ddatgan eu cefnogaeth i’r streic, pam mae’r undebau’n eu hariannu o hyd? Digon yw digon. Mae hen blaid y dosbarth gweithiol wedi troi ei chefn ar y gweithwyr.

§

CGT , Tachwedd 30, 2011 4:32 pm

Dyna pam y bu cenedlaetholwyr mor naif dros y blynyddoedd yn cefnogi a chrafu fudiad sy’n hollol unoliaethol. Bum mewn rali fy hun y prynhawn yma lle roedd cyfeiriadau cyson at ‘Britain’ ‘This country’ ayb. Dwi’n cofio’r NUM yn defnyddio’r mudiad cenedlaethol yn yr 80au yn yr union un ffordd . Mae elfen o fewn Sosialaeth sy’n llwyr wrthwynebus i’r syniad o genedlaetholdeb, ac yn gweld y rhyfel dosbarth fel yr unig frwydyr sy’n cyfri.

Undebau llafur = Y blaid Lafur = Prydeindod

§

Ifor Hughes , Tachwedd 30, 2011 4:36 pm

Ma’r sector gyhoeddus yng Nghymru rhy fawr o lawer ac yn dal yn ol gallu Cymru i fod yn wlad annibynnol !

Gormod o lawer o bobl yn gwneud dim !

§

Dafydd , Tachwedd 30, 2011 4:49 pm

Ti’n gywir Ifor. Mae’n warthus fod Ms Jenkins ddim wedi cael siarad ond mae’n ddigon hawdd iddi gwneud swn am hyn gan nid yw Plaid Cymru yn rhedeg ‘y wlad’. Ac o glywed rhai ononynt yn siarad….efallai bod hynny’n dda o beth.

§

Adam Jones , Tachwedd 30, 2011 5:02 pm

Nid y sector gyhoeddus sydd yn rhy fawr Ifor o bell ffordd ond y sector breifat sydd rhy wan, angen cryfhau’r sector breifat. Ydych chi wir yn credu bydd hollti’r sector gyhoeddus yn deilchion gan ddiswyddo miloedd ar filoedd o bobl yn cryfhau’n sector breifat ni? Ys dywed y Sais ‘not on your nelly’

§

Dafydd , Tachwedd 30, 2011 5:15 pm

Mae’r sector bfeifat yn cael ei fogi gan y sector gyhoeddus o rhan trethi a gormod o rheolai. Yn ogystal, pam ddylai graddedigion fynd i’r sector breifat wedi graddio pan mae’r sector gyhoeddus yn talu cystal….hyd yn oed wedi ymddeol? Mae hyn yn wir am y diwydiant arian hefyd. Mae wedi mynd yn rhy fawr ac mae llawer o raddedigion peirianeg a gwyddoniaeth yn gweithio yn ‘y ddinas’ yn lle gweithio ym myd peirianeg neu gwyddoniaeth. Wrth gwrs, fel y sector gyhoeddus, un drogen fawr yw’r ddinas ond o leia mae’r sector gyhoeddus yn fwy defnyddiol.

§

Ifor Hughes , Tachwedd 30, 2011 5:24 pm

Pam o pam o pam na fydd Plaid Cymru yn arddel y syniad o greu gwladwriaeth yn annibynnol gyda chyfraddau treth isel. Dim gwariant ar ryfeloedd tramor ayyb. Angen torri nol ar boblogaeth y Cymoedd – dim rhagor o social housing mewn ardaloedd o ddiwethdra uchel – ond digonedd yn Llundain a llefydd fel Reading a Swindon er mwyn symud yr ‘idiot classes’ allan o Gymru.

§

Mali , Tachwedd 30, 2011 5:49 pm

Paid mynd eto Bethan, os yw nhw dangos cyn lleiad o barch ati paid angen cefnogi nhw yn y dyfodol.

§

Dafydd , Tachwedd 30, 2011 6:04 pm

Mali,
Dywedodd rhywun enwog hyn:” The definition of Insanity is doing the same thing over and over again and expecting different results”.

§

Gethin , Tachwedd 30, 2011 6:06 pm

Elli di ddim troi fyny i ddigwyddiadau a disgwyl siarad heb wneud yn siwr dy fod di wedi cael gwahoddiad. Wnaethon nhw ddim gadael fi gyfarch y dorf yn live 8. Siomedig iawn ar y pryd, ond gwers bwysig.

§

Bethan Jenkins AC , Tachwedd 30, 2011 6:09 pm

Dwi wedi darllen y sylwadau. Byddai’n werth cysylltu gyda Unison neu Cyngor Masnach Abertawe ( swansea trades council) a oedd yn trefnu. Dwi’n credu bod angen i ni cael trafodaeth agored a chlir am greu Undeb Llafur cynhenid cymreig nad sydd yn gysylltiedig gyda’r Blaid Lafur. Nid yw’r FBU ( Fire Bridages Union) yn rhan o blaid gwleidyddol, ac mae nhw wastad yn fodlon gweithio gyda pobl fel fi o fewn Plaid Cymru sy’n brwydro dros bobl yn y sector undebau llafur. Dim y gweithwyr neu aelodau unigol o undebau llafur sydd a’r bau fan hyn- dwi’n hollol gefnogol ohonynt- ond mae arweinwyr nifer o undebau llafur mewn pocedu’r Blaid Lafur o hyd.

§

Dafydd , Tachwedd 30, 2011 7:50 pm

A beth sydd wedi digwydd i’r holl sylwadau?

§

Adam Jones , Tachwedd 30, 2011 8:21 pm

Ategaf sylw Dafydd ac hefyd diolch i Bethan am ei hymateb, yn sicr y peth gorau i wneud byddai cysylltu gyda’r undebau i gyd a’r sawl sydd yn talu’n hael i’w coffrau parthed eu daliadau gwleidyddol a’u tueddiadau unochrog i gefnogi’r Blaid Lafur, plaid llygredig ar y naw!.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.