Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Mewnlifiad i Gymru – angen atebion

Rhagfyr 2, 2011 08:18, Diweddarwyd am 08:52


Meirion Prys Jones yw Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg ers 2004
 Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru feddwl o ddifrif am sut i helpu ardaloedd yn y wlad lle mae mwyafrif o bobol yn dal i siarad y Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

Dyna ddywed Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith mewn cyfwelid gyda chylchgrawn Golwg yr wythnos hon, wrth i’w gyfnod wrth y llyw dynnu tua’r terfyn.

“Gan fod datganoli a llywodraethiant yng Nghymru yn newydd, does yna ddim llawer o feddwl wedi bod ynglŷn â sut yn union i roi’r pecyn at ei gilydd i gynorthwyo ardaloedd Cymraeg, sy’n becyn cyfan o drio atal allfudo, neu annog pobol sy’n siarad Cymraeg i ddod nôl mewn, a hefyd i edrych ar y newid cymunedol sy’n digwydd wrth i ardaloedd newid eu natur cymdogol eu hunain. “Mewnfudo, siwr o fod, yw’r anhawster pennaf, achos ti ddim yn gallu atal e, ac unwaith mae yna lif bychan yn dod mae e’n cynyddu’ sydyn iawn iawn. “Felly mae eisiau trio meddwl ynglŷn â sut wyt ti’n delio â hynny,.” Byddai cynnig cyfleon i’r Cymry Cymraeg aros yn y Fro yn un ateb, meddai.

Hefyd mae Meirion Prys Jones yn egluro pam bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn haeddu saith allan o ddeg dan ei arweiniad ef.

Ac mae’n mynnu bod cael pobol i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn bwysicach na dim byd arall, boed yn sicrhau ‘Safonau’ o wasanaeth Cymraeg yn gan gyrff cyhoeddus neu gyfieithu cynnwys gwefannau cynghorau sir fel Merthyr Tudful.

Y cyfweliad yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Gareth Evans , Rhagfyr 2, 2011 9:34 am

Da iawn, Meirion Prys! Daliwch ati i ddweud y pethau sydd angen eu dweud am weddill eich amser yn y Bwrdd – does dim i’w golli a gellid sbarduno trafodaeth bwysig. Mae’n haeddu canmoliaeth am roi hyn ‘allan yna’ a gobeithio na fydd pobl yn gadael sylwadau diflas o negyddol ar hwn. Mae hi’n hwyr, ydi, yn hwyr iawn yn y Gogledd-Orllewin, ond nid yn rhy hwyr eto i anobeithio. O wneud hynny rydym yn bradychu pob plentyn bach Cymraeg sy’n cael ei foddi ym môr Seisnigwydd unwaith y daw i gysylltiad â’i gyfoedion. Mae hyn yn digwydd ac mae’n llethol o drist.

Allfudo – problem yr un mor ddyrys. Mae’n creu’r faciwm ar gyfer mewnfudo ac yn golygu bod y bobl ifainc ddisglair yn gadael y Broydd am y prifysgolion, heb ddychwelyd. Mae hyn yn gadael y dregs i ryngblanta â’r mewnfudwyr gan fagu’r epilod yn Saeson bach. Mae’r rhain yn cymryd drosodd yr ysgolion yn y pentrefi nes bod y dyrnaid o Gymry sydd ar ôl yn cael eu gorfodi i symud eu plant i’r ysgol nesa o hyd. Ond rhedeg o flaen y llanw maen nhw, ac o un i un, ar gyflymder syfrdanol o frawychus, collir y naill ysgol ar ôl y llall, y naill bentref ar ôl y llall, mewn llefydd fu’n gaerydd i’r iaith hyd ryw bymtheg mlynedd yn ôl. Ac os oes rhywun yn penderfynu dal eu tir, yna’r plant sy’n dioddef ac yn cael eu bwlio’n ddidrugaredd. Mae hyn YN digwydd – bob dydd – yn yr hen gadarnleoedd. A neb yn dweud dim. Ein Cynulliad ni ein hunain yn dweud dim. Am fod eisiau bod yn ‘gynhwysol’. Digon o hynny. Mae’r peth yn warth.

Diolch eto i Meirion Prys. Dyweder mwy.

§

twrch , Rhagfyr 2, 2011 10:02 am

Diolch byth

65,000 o bobol wedi mewnfudo i Gymru yn 2010. Un o ffigyrau ucha’r byd. Mae’n hen bryd i’n gwleidyddion ni ddechrau trafodaeth gonest am yr effaith mae hyn yn cael ar ein diwylliant a’ adnoddau prin ni

Cymon Plaid Cymru, mae Cameron a Milliband yn cael son am effaith mewnlifiad ar Brydain, pam nad yw gwleiyddion Cymru yn cael gneud yr un peth?

§

Ken , Rhagfyr 2, 2011 12:18 pm

Mae effaith y mewnlifiad ar ei amlycaf yng Ngheredigion , yn ein strydoedd ac ysgolion. Da iawn fo am sbarduno ein gwleidyddion tila, gwleidyddol cywir. Mae’r Toriaid yn gwybod yn iawn beth yw teimladau ei cefnogwyr hwy am fewnlifiad. A yw gwleidyddion Cymru ?

§

Dan Puw , Rhagfyr 2, 2011 1:45 pm

Mae ail baragraff Gareth Evans yn drist o wir. Tristach fyth yw bod Cynghorwyr Plaid Cymru (a’u swyddogion) yng Ngwynedd yn rhy ddall neu’n rhy dwp i sylweddoli, wrth gau ysgolion bach yn y cymunedau sy’n dal yn Gymraeg eu hiaith eu bod maes o law yn agor drws i fwy fyth o fewnfudwyr digymraeg, a bydd y gaseg eira’n dal i dyfu. Ymhen 15 mlynedd eto mi fydd yn rhy hwyr, ond mi fyddan’ nhw’n medru clochdar eu bod wedi arbed rhyw bunt neu ddwy i’r trethdalwyr. Dyna yw gwerth yr iaith Gymraeg iddyn’ nhw. Ac mae’n Aelodau Cynulliad hefyd yn ymddangos yn hollol fodlon ar y sefyllfa. Hunanladdiad ydi peth fel hyn?

§

Ifor Hughes , Rhagfyr 2, 2011 3:25 pm

Dim rhagor o social housing mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel ac eithrio i bobl ifanc sydd wedi ei geni a’i magu yn lleol.

Dim hawl i’r diwaith symud o gwmpas Prydain a social housing mewn aradloedd ble ma cyfraddau diwethdra isel yn unig i symud yr idiot classes peripatetic mas o ma.

§

twrch , Rhagfyr 2, 2011 4:19 pm

Ddim just problem i’r cefn gwlad yw hon mae arnai ofn. Mae cymoedd Gwent er enghraifft yn llawn dop o saeson bellach. Yn aml mae nhw’n bobol a phroblemau cymdeithasol ac yn arddel daliadau annymunol iawn ( a gwrth gymreig wrth gwrs)

Pam fod Ceidwadwyr Cymru mor dawel am hyn tybed tra fod eu cyfeillion yn Lloegr mor uchel eu cloch am y ‘broblem mewnlifiad’

§

Ceri , Rhagfyr 2, 2011 6:36 pm

Gwelwch chi’r un peth yn Lundain – lleiafrif yw’r Saeson yn yr ysgolion erbyn hyn ac mewn llawer i ardal. Dyw hyn ddim cymaint o broblem i’r iaith fan hyn wrth gwrs – ma’r Saesneg yn iaith rhy gryf – ond mae problemau diwylliannol sydd yn gwneud integreiddio yn anodd.

Tshag at y Gorllewin ma’r Saeson yn mynd ac yn creu Lloegr newydd yng Nghymru gwaetha’r modd.

§

Mali , Rhagfyr 2, 2011 7:38 pm

Gobeithio fydd gwleidyddion yn Caerdydd a Llundain sydd heb cydymdeimlad at y Gymraeg yn ymosod ar Meirion Prys Jones. Beth yw’r ateb? Angen gwaith yn ardaloedd Cymraeg ei iaith i gadw pobol ifanc yno, a mae Llywodraeth Cymru angen wneud llawer mwy i perswadio mewnfydwyr i fynd amdani i ddysgu’r iaith.

Beth yw barn chi am awgrym yma:- Rhoi ad-daliad treth Cyngor o 5% i’r ddi-gymraeg os yw nhw dysgu’r iaith, felly os yw nhw talu £1000 treth cyngor, mae’n nhw cael ad-daliad o £50 os ydi nhw cyflawni cwrs wlpan.

Jesd trueni nath o son am hyn yn gynharach. Da iawn ti Meirion.

§

Dafydd , Rhagfyr 2, 2011 7:56 pm

Ie….le mae e wedi bod hyd hyn? Mae na fur o arian o dramor yn bwrw Llundain h.y. y farchnad dai. Yn ol bob tebyg….tua 200 million y llynedd o Wlad Groeg yn unig. Wedyn mae gyda chi’r oligarchs a’r gangsters o Rwsia, yr unbeniaid o Affrica a’r Dwyrain Canol……Y Chineaid ayyb. Mae hyn yn symud allan fel ton o’r ardaloedd cyfoethog i’r bwrddreisdrefi allanol. Cyfoeth heb bron gorfod codi bys. Ac mae’r Cymro bach sydd yn aml yn enill 15 i 20 mil y flwyddyn dyweder yn gorfod rhywsut i gystadlu i brynu busnes neu do dros ei ben. Oh….mi fyddai’n braf cael llywodraeth yng Nghymru i bobl Cymru.

§

Dyfrig Jones , Rhagfyr 2, 2011 9:01 pm

Chwarae teg i Fwrdd yr Iaith, maent wedi bod yn gyson wrth wthio’r neges hon. Dywedodd Meri Huws yr un peth nol yn 2007, ac mae cydnabyddiaeth tila, ymylol i’r syniad o warchod cymunedau Cymraeg yn Iaith Pawb, hyd yn oed. Diffyg arweinyddiaeth wleidyddol yw’r broblem.
(Dwi ddim am fynd ar ôl sgwarnog Dan Puw, dim ond tynnu ei sylw at y ffaith fod ‘na gymunedau Cymraeg yng Ngwynedd heblaw am Y Parc, a bod angen rhoi chwarae teg i’r rheini hefyd. Nid ffonomenon gweledig yn unig yw’r Gymraeg gymunedol yng Ngwynedd).

§

Dyfrig Jones , Rhagfyr 2, 2011 9:02 pm

Pob diolch i Meirion Prys am godi’r mater eto, gyda llaw. Dyfal donc.

§

lionel , Rhagfyr 3, 2011 12:33 am

Yn y de diwydianol, mae angen gyda ni cael y dirhirod neu’r escape to the country bumpkins, yn enwedig yn Casnewydd neu Caerdydd achos bod y mewnlifiad arall yn digwydd yma, sef yr un foslemaidd, gyda’r Urdu a’r Punjabi yn cael gafael ar yr ardaloedd trefol. Dwi’n siwr bydd ambell un yma yn gweiddi hiliol, ond mae’r un mor berthnasol o ran colli cymdeithas ac ydyw yn yr yn sy ar ol o’r fro gymraeg. Yn Y fro, well cael llai o saeson sy ddim eisiau dysgu’r iaith,a cheisio cadw’r brodorion os oes gwaith, ond lawr fan hyn, maen nhw yn eitha cefnogol ac yn aml yn fwy cenedlaetholgar na’r Cymry eu hunain. Dwi’n gweithio yn yr ardaloedd di-frentiedig megis Pontyool a tredegar gyda llaw ac yn delio gyda pobl fel hyn bob dydd. Nhw gan amlaf sy eisiau i’w plant fynd i ysgolion Cymraeg er mwyn ymdoddi i’r gymdeithas

§

Gareth Evans , Rhagfyr 3, 2011 2:40 pm

Dydw i ddim yn meddwl fod y rhai ohonoch chi sy’n son am fewnlifiad i Loegr neu i rannau Saesneg Cymru yn deallt am beth ydach chi’n son. Hyll iawn ydi dod a thras i mewn i’r peth, ac amherthnasol hefyd. Does dim peryg i’r Saesneg fel iaith fyw o ganlyniad i’r math yna o fewnfudo. Mae hi’n unfed awr ar ddeg ar y Gymraeg – triwch ddeallt!

Mi gefais i sgwrs y dydd o’r blaen pan ddigwyddais weld merch yr oeddwn yn ei hadnabod yn aros am fws hefo’i phlentyn. Hithau’n dechrau cwyno am “blydi Saeson yn symud mewn i’r pentra”. Ar hynny, dyma’r plentyn yn rhedeg i’r lon a hithau’n gwaeddi ar ei hol, “Seren! Don’t run into the bloody road. How many times have I got to tell you, you little monster?!”

Wel! Dyma finnau’n gweld y coch ac yn dweud wrthi’n blaen y byddai’n well genni weld Brummie rhonc ym mhob ty nag un ohoni hi a’i Seren! Mi edrychodd yn syn – wir, doedd ganddi ddim syniad! Dywedais wrthi bod yn gywilydd iddi, a hithau a’i mam a’i thad a’i thaid a’i nain o’i blaen o’r pentref erioed, i fagu ei phlentyn yn Saesnes. Atebodd yn llywath gan drio cyfiawnhau ei hun mai Sais oedd tad Seren. “Duw Duw,” medda finnau, “Welaist ti mo hwnnw ers y conception!” “O, do. Oedd o’n byw hefo ni nes bod Seren yn dri mis.” “O! Wel mae hynny’n HOLLOL whanaol felly dydi,” meddwn i.

Fyddaf i dim ar restr cardiau Nadolig y teulu yna eleni, ond argian, oeddwn i wedi gwylltio. Cymry Cymraeg fydd yr unig dras fydd yr hogan bach yma yn ei nabod byth, ond fydd rhaid i Yncyl Wil ac Anti Anni droi i’r iaith fain hefo hon tra byddan nhw.

Trosglwyddo iaith, hwnna ydi o. Oes rhwyun yn ddigon dewr i siarad allan am yr argyfwng mawr yna?

§

Dan Puw , Rhagfyr 3, 2011 8:11 pm

Soniais i ddim gair am y Parc, Dyfrig Jones, dim ond am gymunedau Cymraeg eu hiaith, ac mae ‘na ychydig ohonynt yn dal ar ôl yng Nghymru, diolch am hynny. Fy mhwynt i yw na fedrwn fforddio colli DIM UN ohonyn nhw, waeth ble bydd hi. Yn wir, byddwn yn cefnogi unrhyw ysgol, waeth beth fo’i maint, pe golygai ei chau ddirywiad yng Nghymreictod ei dalgylch. Un arf yn erbyn y dirywiad yw cadw’n hysgolion sy’n naturiol Gymraeg eu hiaith yn agored. Ac ynglyn â’r frawddeg olaf un, roeddwn i wastad dan yr argraff mai rhywbeth i’r glust oedd iaith, nid rhywbeth gweledig!!

§

Dafydd , Rhagfyr 3, 2011 8:18 pm

….yn ychwanegol i’r uchod y soniais amdano yw’r areferiad o symud pobl sydd er engraifft wedi bod mewn carchar neu gyda problemau cymdeithasol arall i’n cymunedau drwy’n asiantaethau Tai. A dweud y gwir, mae nhw’n ddiwydiant gyda ‘turnover’ o canoedd o filiynau erbyn hyn.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.