Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Gwarth’ darlledu De Clwyd

Rhagfyr 2, 2011 13:11, Diweddarwyd am 13:13


Susan Elan Jones
Mae AS De Clwyd wedi ysgrifennu at Digital Uk yn galw am wybod pam bod pobol ei hetholaeth ddim yn medru derbyn rhaglenni o Gymru.

Mae Susan Elan Jones, AS Llafur yn dweud bod y sefyllfa yn “warthus”.

“Mae fy etholwyr i yn pryderu’n fawr nad ydyn nhw’n gallu derbyn BBC1, BBC2, ITV Wales , S4C, Radio Wales na Radio Cymru.

“Dw i’n gwybod am bobl sydd wedi ffonio Digital UK ac wedi cael cyfarwyddyd nawddoglyd i ail-diwnio eu setiau teledu. Maen nhw’n gwneud hyn – ac wrth gwrs, dydyn nhw dal methu cael y sianeli y dylen nhw gael,” meddai.

“Fe ddywedodd un dyn yn gywir – nad ydi Digital UK yn cymryd ein hunaniaeth Gymreig o ddifrif.”

Mae’r AS yn  dweud bod angen i’r cwmni “fynd i’r afael â’r sefyllfa” a’i datrys yn fuan.

“Os nad ydyn nhw – fe fydda i yn mynd â’r mater ymhellach.”

Mae Golwg360 yn aros am ymateb Digital UK.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.