Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Achos Lynette White: Ymchwilio i ddinistrio ffeiliau

Rhagfyr 3, 2011 09:28


Lynette White
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi lansio ymchwiliad i ddinistrio ffeiliau, a arweiniodd at chwalu achos llys oedd yn ymwneud â llygredd o fewn yr heddlu.

Fe fydd y comisiwn yn ymchwilio i honiadau yn erbyn Heddlu De Cymru ar ôl i’r achos llys £30m ddod i ben echddoe.

Cerddodd wyth cyn-heddwas yn rhydd ar ôl clywed fod y Ditectif Prif Uwch-arolygydd, Chris Coutts, wedi gorchymyn dinistrio tystiolaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran  Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu fod yr ymchwiliad am “edrych ar faterion yn ymwneud â dinistrio copïau o ffeiliau gan swyddogion Heddlu De Cymru a gyfrannodd at ddiwedd cynamserol yr achos llys”.

Ychwanegodd fod yr heddlu wedi cyfeirio’r mater at yr ymchwilwyr o’u gwirfodd.

Roedd cyfanswm o ddeg o bobol yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn yr ymchwiliad i garcharu tri dyn ar gam am lofruddiaeth Lynette White yng Nghaerdydd.

Yn Llys y Goron Abertawe roedd y barnwr Mr Ustus Sweeney wedi gollwng y rheithgor ar ôl dyfarnu na fyddai’r diffynyddion yn cael achos teg.

Cefndir yr achos

Cafodd Lynette White, 20 ei thrywanu mwy ân 50 o weithiau yn ei fflat yn ardal y dociau yng Nghaerdydd yn 1988.

Cafodd Stephen Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris eu cyhuddo o’i llofruddio ym 1990 yn un o’r enghreifftiau mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder.

Ond yn 1992 cafodd  dyfarniad y tri ei ddiddymu gan y Llys Apêl. Bu farw Yusef Abdullahi, 49, yn gynharach eleni.

Ym 2003 roedd Jeffrey Gafoor wedi pledio’n euog i lofruddio Lynette White a chafodd ei garcharu am oes.

Y cyhuddiadau

Roedd yr wyth diffynydd wedi eu cyhuddo o orfodi llygad-dystion i gytuno i dystiolaeth ffug ar ôl cael eu holi.

Yn eu plith roedd y cyn uwch-arolygydd Richard Powell a’r cyn brif arolygyddion Thomas Page a Graham Mouncher. Roedden nhw wedi eu cyhuddo o gynllwynio gyda Michael Daniels, Paul Jennings, Paul Stephen, Peter Greenwood a John Seaford, o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Roedd Violet Perriam a Ian Massey ynghyd â Graham Mouncher hefyd wedi eu cyhuddo o ddweud celwydd ar lw.

Roedd y deg diffynydd yn gwadu’r holl gyhuddiadau. Fe ddechreuodd yr achos ym mis Gorffennaf ac mae’n debyg ei fod wedi costio miliynau o bunnoedd.

Dywedodd Mr Usutus Sweeney bod yr achos yn “annheg” ac y byddai’n rhaid iddi ddod i ben.

Dywedodd bod amryw o broblemau wedi codi oherwydd ymddygiad yr erlyniad a’u “dyletswydd i ddatgelu gwybodaeth”.

Cafodd rheithfarnau dieuog eu cofnodi yn achos y deg diffynnydd.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.