Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Atal Radio Cymru rhag darlledu caneuon

Rhagfyr 6, 2011 09:49, Diweddarwyd am 12:23

b
Bryn Fon - un o'r streicwyr
Bydd cerddorion Cymru yn ceisio atal Radio Cymru rhag chwarae eu cerddoriaeth am dridiau yn ystod mis Rhagfyr, a hynny am nad ydyn nhw’n derbyn digon o arian am eu cerddoriaeth.

Mae Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd Cymru wedi penderfynu cynnal streic arall rhwng 19 a 21 Rhagfyr eleni, mewn protest yn erbyn y taliadau “pitw” am chwarae eu caneuon ar Radio Cymru.

Hon fydd yr ail streic o fewn blwyddyn i’r cerddorion, ond y tro diwethaf, ar 1 Mawrth eleni, dim ond undydd o streic a gynhaliwyd, yn atal Radio Cymru rhag chwarae eu cerddoriaeth.

Yn ôl y Gynghrair, cafodd cerddorion eu siomi gan ddiffyg ymateb Radio Cymru i’r streic y tro hwnnw.

“Er i’r gweithredu hwn achosi problemau di-ri i’r Gorfforaeth, ac er iddyn nhw gyhoeddi ar y pryd eu bod yn cydymdeimlo â’n safbwynt, ni ddaeth dim ymateb pellach,” meddai’r Cynghrair mewn datganiad.

Yr ail streic

Mae’r Gynghrair wedi penderfynu atal eu caniatâd i Radio Cymru chwarae eu cerddoriaeth unwaith eto, a hynny am dridiau y tro hwn.

“Y tro yma hefyd rydym yn targedu ein llid tuag at Ymddiriedolwyr y BBC, sydd yn ôl eu siarter eu hunain yn gyfrifol am y modd y mae arian cyhoeddus y drwydded yn cael ei wario.”

Mae’r Gynghrair yn gwrthwynebu’r ffaith fod un tâl cyffredinol yn cael ei roi i’r PRS, er mwyn gadael iddyn nhw ddosbarthu’r arian rhwng cerddorion fel y mynnan nhw.

Ar hyn o bryd mae Radio Cymru yn talu 49c y funud i gerddorion Cymraeg – tâl sydd, yn ôl y Gynghrair, yn “hollol annigonol,” ac yn golygu bod cerddorion yn gwneud colled o ystyried cost creu’r gerddoriaeth.

Bygwth dyfodol cerddoriaeth Gymraeg

Yn ôl y Gynghrair, mae’r taliadau presennol yn bygwth dyfodol cerddoriaeth Gymraeg.

“Ers tair blynedd bellach, mae llawer o gerddorion wedi gadael y byd cerddoriaeth i ymgymryd â swyddi eraill, gan nad oes arian ar ôl yn y diwydiant, mae hyn yn peryglu holl ddyfodol cerddoriaeth Gymraeg.”

Dywed y Gynghrair, sy’n cynnwys cerddorion fel Gwyneth Glyn, Bryn Fôn, Rhys Mwyn a Gai Toms, nad oes dewis bellach ond gweithredu.

Ymateb BBC Cymru

Dywedodd  llefarydd ar ran BBC Cymru:  “Anghydfod rhwng y PRS (Performing Rights Society) a’u haelodau yng Nghymru, sef y cerddorion eu hunain, yw hon ac nid dadl gyda BBC Radio Cymru.
“Mae’n anffodus y gallai gwrandawyr Radio Cymru ddioddef yn sgil protest o’r fath, yn enwedig o gofio’r gefnogaeth y mae’r orsaf yn ei rhoi i gerddorion yng Nghymru.  Yr ydym yn falch o’r cyfleodd rydym yn eu cynnig i gerddorion yng Nghymru  - o feithrin talent newydd i gefnogi cerddorion mwy profiadol.

“Fel cefnogwr brwd o’r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg felly, mae’r ffaith nad ydi’r anghydfod yma rhwng y PRS a’i haelodau yng Nghymru wedi ei ddatrys yn achos pryder i ni ac rydym yn cydymdeimlo gyda nhw. Ond PRS sydd yn penderfynu ar ddosrannu taliadau – nid y BBC – a mater iddyn nhw felly ydy trafod ymhellach gyda’u haelodau.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dafydd annwyl , Rhagfyr 7, 2011 11:59 am

Bryn “wedi neud ei ffortiwn allan teledu” Fôn isio FWY o bres?
Gai Toms, pwy dio dwedwch?

§| Nodi camddefnydd

Kelly Williams , Rhagfyr 8, 2011 1:12 pm

Be ti trio ddeud Dafydd? Be di pwynt chdi?

§

Dafydd annwyl , Rhagfyr 8, 2011 2:02 pm

Dim byd o bwys.

§

Kelly Williams , Rhagfyr 8, 2011 3:04 pm

Os am ddeud wbath Dafydd, ti’m yn meddwl sa gwell i chdi gal ffeithia a rhesyma tu ol i chdi gynta? Dwi meddwl fod o’n afiach o beth bod cerddorion Cymru yn cael cyn lleiad am eu caneuon. Geith caneuon Cymrage ddim airplay ar Radio 1 na? Ond ma rywyn fel Coldplay yn cal eu chwara ar Radio Cymru, mae o’n rong!

§| Nodi camddefnydd

Dafydd annwyl , Rhagfyr 8, 2011 3:43 pm

Faint sa chi’n argymell fel ffigwr deg i’r cerddorion Kelly? Pwy fydd yn talu amdano? Yn amlwg mae cerddorion yng Nghymru yn cael llai o arian nac radio 2, mae gan Radio 2 dros deg filiwn o wrandawyr, gan radio Cymru agosach i gam fil. Yn amlwg mae angen arian i’r cerddorion yma, ond ai lle’r P.R.S, sef cwmni o Lloegr yw hyn? Ta lle’r cynulliad, y rhin rhai syn taflu arian i’r cyngor llyfrau. Rhaid hefyd fod yn garcus o bobol fel Dafydd Roberts, ydi Dafydd yn brwydro dros y Cerddorion a Cerddoriaeth Cymraeg? Ynta Brwydro dros arian i dalu am swydd ei hun o fewn cwmni Sain.

§| Nodi camddefnydd

Kelly Williams , Rhagfyr 8, 2011 5:19 pm

O be dwi’n ddallt mae pubs a siopau Cymru yn talu PRS licence a pres y cyhoedd ydi’r BBC, felly dim pres Lloegr ydi PRS. Cymyd pres pawb sy chwrae music, a wedyn rhoi o allan i’r cerddorion, dwi meddwl, hwyrach bo fi rong. Dim yn gwbod digon am statistics gwrandawyr Radio, ond pam bod ffi Radio Wales mor uchel i gymharu efo Radio Cymru?

§| Nodi camddefnydd

Dafydd annwyl , Rhagfyr 8, 2011 5:27 pm

“Os am ddeud wbath Dafydd, ti’m yn meddwl sa gwell i chdi gal ffeithia a rhesyma tu ol i chdi gynta?”

Ai swydd y P.R.S ydi edrych ar ôl cerddorion Cymraeg fwy nac ei aelodau arall felly?

Yndi, mae tafarndai a siopau Cymru yn talu P.R.S, ond faint ohonynt sydd hefo Radio Cymru neu unrhyw gerddoriaeth Cymraeg yn chwarae?

§| Nodi camddefnydd

Kelly Williams , Rhagfyr 9, 2011 11:52 am

Dim y fi dechreuodd efo comment gwirion am ‘dim byd o bwys’ nage Dafydd? Be di’r otch bod Bryn Fon wedi gwneud ffortiwn? Ma Cliff Richard wedi neud ei ffortiwn o ffilms hefyd ond yn cal pres teg gan PRS dal i fod, a fo nath newid y gyfraith efo faint o hir ma royalties yn bara. Ac os ti ddim yn gwbod pwy ydi Gai Toms mae gen ti dipyn o ymchwil ar canu Cymraeg i neud. Dwi ddim yn gwbod manylion, jest deud barn dwi. Maer peth yn gywilyddus. Dylsa politishans neud wbath am hyn hefyd!

§

Hirben , Rhagfyr 13, 2011 9:51 pm

Bryn Fon wedi gwneud cyfraniad anferth i Gymru ac yn dal i wneud, ac os yw wedi gwneud tipyn o arian yr un pryd – gorau oll. Yn debyg ei fod yn foi neis iawn hefyd

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.