Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



AS yn barnu polisi ‘strike now, pay later’

Rhagfyr 7, 2011 08:43, Diweddarwyd am 16:21


Guto Bebb
Mae’n warthus bod Cyngor Gwynedd wedi cytuno i beidio tynnu diwrnod o gyflog y rhai fu ar streic tan ar ôl y Nadolig.

Dyna ddywed yr Aelod Seneddol Ceidwadol Guto Bebb sydd wedi siarad o blaid newid pensiynau gweithwyr y sector cyhoeddus.

Ni fydd Cyngor Gwynedd yn tynnu’r arian o gyflogau streicwyr tan fis Chwefror – ffaith sydd wedi gwylltio Guto Bebb.

“Mae’r sector cyhoeddus yn rhedeg  polisi ‘strike now, pay later’,” meddai.

“Yn hytrach na’u bod nhw’n colli’r diwrnod o gyflog ym mis Rhagfyr, neu fis Ionawr pan fydd ganddyn nhw filiau cardiau credyd, mae’r undebau yn gofyn i’r awdurdodau lleol a’r cyrff cyhoeddus ohirio’r deduction tan fis Chwefror.”

Mae’n poeni am effaith gohirio cymryd yr arian, ac yn credu ei fod yn enghraifft bellach o’r hyn mae’n ei weld fel ffafriaeth i weithwyr y sector cyhoeddus ar draul gweithwyr y sector preifat.

“Be’ ydy o yn y bôn ydy ein bod ni mewn ffordd yn rhoi cushion i weithwyr sector cyhoeddus fynd ar streic.

“Pwy sy’n mynd i ddigolledu’r gweithiwr Asda neu’r gweithiwr Morrisons sy’ wedi gorfod cymryd diwrnod i ffwrdd er mwyn edrych ar ôl eu plant? Pwy sy’n mynd i’w digolledu nhw?

“Mae o’n warthus o beth bod arian trethdalwyr yng Ngwynedd yn cael ei ddefnyddio i leddfu staff Cyngor Gwynedd oedd ar streic, a sicrhau  bod nhw ddim yn colli unrhyw arian tan fis Chwefror.”

Cais yr undebau

Ond yn ôl Unsain mae undebau wastad yn trafod pryd yw’r adeg orau i gymryd arian am ddiwrnod streicio o gyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus.

“Oherwydd mai dyma’r paced pae olaf cyn ‘Dolig, mae’n naturiol bod Undebau Llafur yn gofyn am dynnu’r arian ar ôl y Nadolig,” meddai Dominic MacAskill, Prif Swyddog Ymgyrch Pensiynau Unsain.

Ond nid yw pob corff cyhoeddus wedi cytuno i gais yr undebau.

“Mi wnaethon ni dderbyn cais gan Unsain i ohirio tynnu’r cyflog streicio allan tan fis Chwefror,” meddai llefarydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y gogledd.

“Ond am resymau llwydraethiant fe fyddai hynny’n amhriodol ac fe fyddwn ni’n tynnu’r cyflog allan ym mis Rhagfyr.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd:  “Bydd y Cyngor yn gwneud datganiad i’w staff yn fuan i’w hysbysu am y trefniadau i dynnu cyflog yn sgil streic 30 Tachwedd. Ni fyddai felly yn briodol i wneud sylw pellach nes y bydd staff wedi cael gwybod am y trefniadau hyn.”

‘Bod yn hyblyg’

Dywedodd Arweinydd Cyllid Plaid Cymru, Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Sian Gwenllian: “Rwy’n falch fod modd i Gyngor Gwynedd ohirio tocio cyflogau’r rhai aeth ar streic ddydd Mercher diwethaf tan ar ôl y Nadolig.

“Mae’n bwysig bod yn hyblyg mewn cyfnod sydd mor heriol yn ariannol.

Does dim codiad cyflog wedi bod ers dwy flynedd (yn sgil polisiau cenedlaethol) ac mae llawer o’n gweithwyr sy’n cynnig gwasanaethau pwysig ar y rheng flaen yn teimlo’r esgid yn gwasgu erbyn hyn.

“Fydd gohirio’r tocio yn rhoi mymryn mwy o arian yn eu pocedi dros y Nadolig sy’n adeg drud i deuluoedd a rhaid cofio mai gohirio’r tocio ydan ni, ac nid gwneud i ffwrdd ag o yn gyfan gwbl.

“Mi fydd y gweithwyr yn dal i golli diwrnod o dâl os fuon nhw ar streic felly does dim cyfiawnhad i’r ddadl y bydd y trethdalwyr rhywsut ar eu colled.

“Yn bersonol, rwyf yn cefnogi hawl gweithwyr i fynd ar streic pan bo nhw’n teimlo dan fygythiad ac rwyf yn bryderus iawn am y ffordd mae’r sector cyhoeddus yn cael ei datgymalu gan y Toriaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn Llundain. Roeddwn yn Rali’r Undebau ym Mangor ddydd Mercher diwethaf i ddangos cefnogaeth.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Gareth , Rhagfyr 7, 2011 9:00 am

Guto Bebb… byth yn synnu dyn nac yn llwyddo i’w siomi ar yr ochr orau. Byth. Pwy YW ‘trethdalwyr Gwynedd’, Mr Bebb? Does dim llawer o sector breifat yno. Nadolig llawen i chwithau y crintach.

§

Gareth , Rhagfyr 7, 2011 9:03 am

A chwarae teg i Gyngor Gwynedd. Maent yn cofio’u gwreiddiau yn yr ardal honno.

§

Siôn Griffiths , Rhagfyr 7, 2011 9:09 am

Beth sy’n warthus yw taw dyma’r math o issues sy’n bwysig i Guto Bebb. Well ganddo weld gweithwyr isel eu cyflog yn colli diwrnod o’u cyflog mis Rhagyr mas o ddiawledigrwydd a dim byd arall. Doedd neb ishe mynd ar streic, ath pobl ar streic i ddiogelu eu pensiwn, ar ôl i’r ddau filiwnydd Cameron ac Osborne yn Llundain benderfynu dwyn chunk o bensiwn gweithwyr cyffredin er mwyn talu dyled pobl gyfoethog.

Mae cyflog SYLFAENOL Guto Bebb, fel Aelod Seneddol, yn £65,738. Ar ben hynny mae’n cael additions, expenses, allowances, etc. Dyma beth yw gwastraff arian trethdalwyr.

§

Jones , Rhagfyr 7, 2011 9:27 am

Os mae’r tal yn cael ei tynnu yn y pen draw beth yw’r broblem?

Falch o gweld hefyd bod ysbryd yr wyl yn fyw ag yn iach yn Ty y Bebbs!

§

Dafydd Iwan , Rhagfyr 7, 2011 9:49 am

Dyw Guto Bebb ddim yn poeni am y dyddiad mewn gwirionedd. Gweld cyfle y mae i barhau’r polisi bwriadol ar ran y Toris i geisio dyfnhau’r hollt rhwng gweithwyr y sector breifat a gweithwyr y sector gyhoeddus, a cheisio gosod y naill yn erbyn y llall. Ond mae’r gweithwyr yn gweld trwy dactegau gwarthus fel hyn bellach, diolch byth.

§

Adrian , Rhagfyr 7, 2011 10:09 am

Os ydych chi’n gweithio mewn ffatri ac yn dewis peidio dod i’r gwaith am ddiwrnod nid ydych yn cael eich talu’r am y diwrnod hwnnw ar ddiwedd y mis. Pam ar y ddaear mae gweithwyr y sector breifat yng Gwynedd yn cael eu trin yn wahanol? Penderfynon nhw i beidio gweithio felly tydyn nhw ddim i fod i gael eu talu. Y peth nesaf fyddan nhw’n gofyn i’r Cyngor dynnu’r arian yn 2099…

§

Ann Onn , Rhagfyr 7, 2011 10:10 am

P.R. stynt gwrth Gymreig eto!. Dyma aelod o’r Cenedlaetholwyr Saesnig (Tori) sy’n ceisio tanseilio pensiynau y gweithwyr cyffredin ble mae’r mwyafrif ar gyflogau bach iawn. Buasai’n well o lawer os y buasai’r Cenedlaetholwyr Saesneg yn mynd ar ol eu ffrindiau cyfoethog a’u cyfrifwyr amheus yn Llundain a chael nhw i dalu trethi llawn fel pob gweithiwr cyffredin.

§

Ifor Hughes , Rhagfyr 7, 2011 10:20 am

Cytuno pob gair gyda Guto Bebb does gan y sector gyhoeddus ddim syniad gymaint y mae pobl yn brifo oherwydd y dirwasgiad . Y gwir blaen admani yw fod gan Gymru sector gyhoeddus SYDD LLAWER yn rhy fawr ! Chawn ni ddim Cymru rydd nes y wnewn ni dorri nol arni ! Ma’r ddadl yn para fod Cymru yn cael ‘subsidy’ gan Loegr – subsidy i dalu am weithwyr sector gyhoeddus i edrych allan o swyddfeydd cynghorau led led y wlad ma !

§

FELNA MAE HI , Rhagfyr 7, 2011 10:50 am

Dwi’n weithiwr yn y sector breifat yn cyflogi pedwar o weithwyr. Yr hyn sy’n fy mhoeni i yw a fydd digon o waith i’n cynnal ni yn y flwyddyn newydd. Ymddengys mae’r hyn sy’n poeni gweithwyr cyhoeddus yw a fydd ganddynt ddigon o bensiwn i’w cynnal rywbryd yn y dyfodol pell. Gwyn eu byd. Dyna sy’n ein gwahanu Dafydd Iwan

§

Siôn Griffiths , Rhagfyr 7, 2011 11:31 am

Camgymeriad rhai pobl sydd wedi gwneud sylw uchod yw meddwl bod pensiwn “rywbryd yn y dyfodol pell” yn ryw fath o luxury. Erbyn bydd llawer o weithwyr heddiw yn ymddeol, pwy fydd yn gallu byw ar bensiwn y wlad? Neb. Os felly, mae angen pensiwn arall. Mae llawer o weithwyr y sector cyhoeddus wedi gweithio ers blynyddoedd, gan feddwl eu bod nhw’n saff o gael pensiwn ar y diwedd. Nid pensiwn mawr “aur”, ond rhywbeth i fyw arno.

Dyw cymharu gyda’r sector preifat ddim yn ddefnyddiol. Yr un pobl (Ceidwadwyr) sydd yn cwyno bod pensiynau gwael gan y sector preifat â’r bobl sydd yn erbyn gorfodi’r sector preifat i roi pensiwn iawn i’w staff. Yn fy marn i, dylen nhw gael eu gorfodi i wneud hynny. Ond wrth gwrs mae hynny’n ymyrryd gyda’r farchnad.

Ateb arall yw cael pensiwn y wlad a fydd yn ddigon i fyw arno. Pensiwn sy’n dod allan o arian y trethdalwr, yr un faint i bob pensiynwr dim ots ble oedden nhw’n gweithio, fel bod pawb yn gallu fforddio byw ar ôl ymddeol. O ie, ond yr un pobl (Ceidwadwyr) sy’n dweud bod hyn ddim yn “fforddiadwy”.

Fydd rhai pobl ddim yn hapus tan bydd angen dod â’r workhouse yn ôl.

§

FELNA MAE HI , Rhagfyr 7, 2011 11:45 am

Sion Griffiths, dwi wedi ail ddarllen y sylwadau uchod i gyd ac hyd y gwelaf i does dim un sylwebydd wedi amgrymu mai ‘luxury’ yw pensiwn. Angen gwersi darllen a deall ar rai mae’n amlwg.

§

Dafydd , Rhagfyr 7, 2011 11:58 am

Rwy’n gweithio yn y sector breifat ac nid oes gennyf un ceiniog yn mynd tuag at bensiwn. Mae’n anodd i mi felly sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda’r rheiny yn y sector gyhoeddus sy’n gofidio am eu pensiynau. Wedi dweud hynny, nid wyf yn elyniaethus tuag atynt ychwath gan fod llywodraeth ar ol llywodraeth wedi gwneud addewidion gwag iddynt.

§

Jason Morgan , Rhagfyr 7, 2011 12:03 pm

Dwi’m yn meddwl bod yn bod efo hyn – y cyfan mae Gwynedd yn ei wneud ydi gohirio’r cyflog tan ar ôl y Nadolig, ‘sdim byd yn anghywir efo hynny, os rhywbeth mae’n ‘gesture’ iawn. Mae’r streicwyr dal am golli cyflog am streicio, jyst ddim tan ar ôl y Nadolig. Nid Gwynedd ydi’r unig gyngor sydd am wneud hyn.

§

Dafydd , Rhagfyr 7, 2011 12:22 pm

Ond cofiwch, falle fod hwn yn ‘gesture’ digon deche o ran ei fwraid. Ond benthyg arian o’r dyfodol yw e’ yn y bon ond te fe. ;-)

§

Martin , Rhagfyr 7, 2011 1:03 pm

Mi fydd Guto Bebb wrth ei fodd ar ol ennyn y fath ymateb i’w sylwadau. Paid a chollfarnu Guto, dyw pennau bach fel fo ddim yn gwybod sut i ymddwyn yn ddoeth.
Fel un sy’n gweithio yn y sector preifat – ond sy’n briod a rhywun sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus – dw i wedi cadw draw o’r dadleuon ynglyn a phensiynau am resymau amlwg!
Mi wnaeth fy ngwraig ymuno a’r streic, ond fel dw i’n deall mi fydd ei chyflog hi mis Rhagfyr yn brin o ddiwrnod gwaith – sy’n hollol rhesymol a chyfiawn.
Wedi dweud hynny, dw i ddim am gollfarnu Cyngor Gwynedd – nac unrhyw gyngor arall – am ohirio tynnu’r diwrnod o gyflog tan y flwyddyn newydd.
Dangos ei anaeddfedrwydd a’i anallu fel gwleidydd y mae GB trwy ddatgan pethau maleisus fel hyn. Llongyfarchiadau i bobl Mon am bleidleisio drosto fo.

§

Dafydd , Rhagfyr 7, 2011 1:12 pm

Pobl Mon?

§

Martin , Rhagfyr 7, 2011 1:43 pm

Ddrwg gen i Dafydd – a phobl Mon! Etholwyr Aberconwy ddyle hawlio’r bai.

§

FELNA MAE HI , Rhagfyr 7, 2011 1:59 pm

Martin ddwedodd, “mi fydd Guto Bebb wrth ei fodd ar ol ennyn y fath ymateb i’w sylwadau.”
My’n brain i! Os yw dwsin o sylwadau ar wefan Golwg360 yn rhoi boddhad i Guto Bebb yna mae’n foi hawdd iawn iawn i’w blesio – a’i wraig yn ddynes lwcus.

Dewch ‘mlan – sylwadau call os gwelwch yn dda.

§| Nodi camddefnydd

Dyfrig Jones , Rhagfyr 7, 2011 2:18 pm

Fel aelod o Gyngor Gwynedd, dwi’n cytuno i’r carn a’r hyn y mae Sian Gwenllian wedi ei ddweud. Ac mae’r ddadl ynglyn a sector gyhoeddus a sector breifat yn y cyd-destun hwn yn gwbl gyfeiliornus. Mae 7000 o bobl yn gweithio i Gyngor Gwynedd, ac er nad aeth pob un allan a’r streic, mae’r cyfraniad economaidd mae eu cyflogau yn ei wneud i’r economi leol yn allweddol. Byddai tynnu diwrnod o gyflog rwan, yn hytrach na mis Chwefror, yn rhoi llai o bres ym mhocedi nifer fawr o bobl, a fyddai wedyn yn golygu llai o wariant yn siopau Gwynedd. Mae tynnu’r cyflog ym mis Chwefror yn helpu i gynnal economi breifat Gwynedd mewn cyfnod allweddol i fanwerthu.

§| Nodi camddefnydd

Martin , Rhagfyr 7, 2011 2:29 pm

@Felna mae hi:
Ti’n iawn, diolch am dynnu fy sylw at hyn.
Mae’n debyg i dy sylw di pan wyt ti’n cymharu sefyllfa bregus dy gwmni hefo gwynfyd gweithwyr y sector cyhoeddus;
“Ymddengys mae’r hyn sy’n poeni gweithwyr cyhoeddus yw a fydd ganddynt ddigon o bensiwn i’w cynnal rywbryd yn y dyfodol pell. Gwyn eu byd”
Dyw eu swyddi nhw ddim mewn perygl o gwbl felly, hefo toriadau eraill ar y gweill.

§

Dafydd , Rhagfyr 7, 2011 2:32 pm

Rwy’n siwr y byddai gwell gan fan pob math o fusnesau yng Ngwynedd ac ar draws Cymru ‘se llai o bobl yn gweithio i’r cynghorau fel y byddai llaid o drethi busnes yn bodoli. 7000 yng nhyngor Sir Gwynedd. Yn wir, mae’r sector gyhoeddus wedi mynd yn rhy fawr!
ON Dwi o blaid diddymu taliadau bonws y bancwyr; dod a’r holl filwyr yn ol; mynd ar ol y rhai sy’n osgoi talu trethi; a malu’r archfarchnadoedd…..rhag ofn i ti feddwl taw Tori ydwyf. ;-)

§

Arfon Jones , Rhagfyr 7, 2011 3:13 pm

Penderfyniad call iawn gan Gyngor Sir Gwynedd, dydy Guto Bebb ddim yn gweld oblygiadau ddim pellach nai drwyn ond be arall allwn ni ddisgwyl gan aelod o blaid mor hunanol. Os fasa cyngor sir wedi gorfodi colli diwrnod o gyflog o gwmpas y Dolig fasa na bosibilirwydd o nifer o fobol mewn dyled gyda’r canlyniad fod cost gweithredu i amddifyn y rhai mewn dyled yn dipyn mwy nac ydy gohirio y diwrnod o golli cyflog.

§

Dewi , Rhagfyr 7, 2011 4:01 pm

Dyle Guto Bebb cael toriad yn ei gyflog :

http://ogarethhughes.blogspot.com/2011/12/rate-for-job.html

§

FELNA MAE HI , Rhagfyr 7, 2011 4:05 pm

Maddeuwch i Martin a minnau am barhau a’n sgwrs.

Do mi ddwedais, “Ymddengys mae’r hyn sy’n poeni gweithwyr cyhoeddus yw a fydd ganddynt ddigon o bensiwn i’w cynnal rywbryd yn y dyfodol pell.” Dywedais hynny ar sail yr argraff grewyd arnaf gan eu placardiau a’u posteri. Eu pensiwn oedd eu pennawd nid dyfodol eu swyddi na’r gwasanaethau ma nhw’n cynnal. Cibddall efallai,

I raddau helaeth dwi’n ddibynnol ar sefydliadau a gweithwyr cyhoeddus am gyfran o’m busnes, felly mae gen i ddiddordeb personol yn eu llewyrch. Dwi am eu gweld yn parhau i weithio a gwario yn y flwyddyn newydd a thu hwnt. Fedrai ddim cynhyrfu’n ormodol dros eu pensiynau. Beth bynnag, fel dwedodd David Cameron, “we’re all in this together.” Er mae’n anodd gen i gredu y bydd e’n rhannu’r un twll a mi.

O diar. Mae’r drafodaeth wedi symud ymhell o’r man cychwyn. Fyddai’n ddiddorol gwybod beth yw’r swm y bydd Gwynedd yn ‘i hawlio nol o dal y gweithwyr aeth ar streic, £5 mil, £50,000 mil neu . . . ?. Oes rhywun yn gwybod?

§| Nodi camddefnydd

Rhys Llwyd , Rhagfyr 7, 2011 4:40 pm

Rhaid cefnogi y penderfyniad yma gan Gyngor Gwynedd. Ffordd oleuedig a gostyngedig iawn o uniaethu gyda’u gweithwyr mewn cyfnod annodd.

§| Nodi camddefnydd

Jon Tomos , Rhagfyr 7, 2011 6:47 pm

Ydy Guto Bebb “scrooge” newydd Cymru? Na, gweithwyr Gwynedd chewch chi ddim eich cyflogau llawn cyn y Dolig, rhag ofn i chi fwynhau eich hunain yn ormodol.

Mae fe’n fradwr pur sy’n haeddu cic lan y tin. Ffoniwch chi ei swyddfa ac fe gewch chi ateb uniaith Saesneg hefyd.

§

John Vaughan Williams , Rhagfyr 7, 2011 8:04 pm

Typical blydi Tori – beth mae dyn yn ei ddisgwyl. Da iawn i Gyngor Gwynedd. Mae’n rhaid i bobl gyffredin gwneud safiad yn erbyn y llywodraeth Con-Dem yma a’r ffordd maen nhw’n ceisio tanseilio perthynas y sector gyhoeddus a’r sector breifat. Mae agwedd pobl megis Bebb yn warthus ond nid yn annisgwyl wrth gwrs.

§

hogan glen , Rhagfyr 7, 2011 9:09 pm

Er fod rhai o’r cyfrannwyr yn manteisio ar y cyfle i bardduo Guto Bebb unwaith eto. Syrpreis, syrpreis! yn enwedig gan rai sy’n gallu fforddio blogio yn ystod oriau gwaith – y gwir plaen amdani ydi fod Gwynedd a rhai cynghorau eraill yn ffafrio gweithwyr y sector gyhoeddus trwy ohirio tocio diwrnod o gyflog tan ar ol y Nadolig. Beth am i’r un cynghorau gychwyn cronfa i gynorthwyo y gweithwyr hynny a effeithwyd gan y streic a gorfod aros adre neu dalu am ofalwr i edrych ar ol eu plant. Maent hwythau yn gwynebu ar gostau’r Nadolig hefyd.

§

Eifion Williams , Rhagfyr 8, 2011 12:09 am

Pwynt teg gan Guto am y streicwyr, os yw nhw ddigon parod i fynd ar streic mae’n rhaid iddynt cymryd y gosb ariannol hefyd.

§| Nodi camddefnydd

John Griffith , Rhagfyr 8, 2011 8:53 am

Mae gan yr undebau yr hawl i ofyn i’r Cynghorau am oedi cyn hawlio’r ad-daliad cyflog, ac y mae gan y Cynghorau yr hawl i wrthod neu beidio. @ Dafydd. Paid a phoeni os nad wyt yn cyfrannu tuag at bensiwn. Mwy na thebyg fe gei gredyd pensiwn a fydd yn werth tua £2000 y flwyddyn ymysg taliadau eraill.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Rhagfyr 8, 2011 12:20 pm

Gellir dylid uno nifer fawr o’r cynghorau yma yng Nghymru gan eu bod yn rhy-fach o lawer. Cymerwch er engraifft CRB check – ma gan BOB cyngor ei hadran CRB check ei hunain – os chi hyfforddi rygbi I blant Mon wnaeth CRB check Gwynedd ddim y tro a vice-versa drwy Gymru ! Cost hollol ddiangen a unigolion & busnesau! Un crb check sydd angen ar gyfer Cymru gyfa – un sydd yna fan hyn yn Llundain sydd a dwywaith poblogaeth Cymru! Periant creu swyddi di-angen yw’r sector gynhoeddus yng nghymru – sydd pellhau y dydd y gwelir y Gymru Rydd!

Da iawn Guto rhaid torri nol ar y parasites yma – naill a’i ma fo’n fifth columnists dros annibynniaeth neu heb yn wybod iddo ma fo’n gwthio ein hagenda a phob lwc iddo fe a phob Tori arall sydd
am ddad wneud y wladwriaeth felltiedig yma!

§| Nodi camddefnydd

Hirben , Rhagfyr 8, 2011 3:21 pm

Mae’r ateb mor syml. Os nad yw gweithwyr Cyngor Gwynedd am golli cyflog, peidied mynd ar streic.

§

COJones , Rhagfyr 12, 2011 2:07 pm

Cyn cael ei ethol yn wleidydd llawn amser onid oedd Guto Bebb yn gwneud ei bres allan o’r sector gyhoeddus?
Mae’n honni i fod yn entrepeneur ac yn rhedeg ei fusnes ei hun – ond onid defnyddio pres y trethdalwr (trwy grantiau llywodraethau ac Ewropeaidd) i ‘gynghori’ eraill ar sut i sefydlu/rhedeg busnes oedd ei waith? Os hynny roedd Bebb yn fwy na bodlon dynnu pres allan o’r pwrs cyhoeddus a’i arall gyfeirio i’w boced ei hun, ond mae’n chwyrn yn erbyn rhoi cyflog teg (mae pensiwn yn rhan o’r pecyn cyflogaeth) i nyrsus, athrawon ayb.

Ar bwynt Adrian ynghylch rhywun yn dewis gweithio men ffatri a’r gobldigwc arall – mae Adrian yn colli’r pwynt. Penderfyniad y cyflogwr ydy gohirio ac yn y blaen. Mae’n amlwg nad ydy Adrian yn deall y sector breifat.

Ynghylch sylw Ifor Hughes am faint sector gyhoeddus Cymru – beth sydd a hynny iw wneud a hyn oll? Hyd yn oed o gefnogi’r angen am sector gyhoeddus llai o faint mewn Cymru annibnynol, does a wnelo hynny ddim a’r ffaith fod y Llywodraeth yn torri ar gyflogau pobl yn sylweddol heddiw.

Ynghylch FELNA MAE HI: Os wyt ti’n dewis cyflogi staff heb roi cyflog byw teg iddyn nhw, rhyngddot ti a’th bethau. Mae’r rhai hynny aeth allan ar brotest ar Dachwedd 30 ain yn galw am bensiwynau teg I BAWB – yn cynnwys dy weithwyr di. Rwyt ti, mae’n siwr, wedi derbyn addysg am ddim, yn derbyn gofal iechyd am ddim, ac yn derbyn llu o fuddianau wrth y wladwriaeth. pwy sy’n cyflawni hyn oll? Dy weithwyr di fydd yn dioddef o gwtogi ar y wladwriaeth yn y fath fodd.

Pam dy fod ti a phobl fel ti yn barod i wrando ar feirniadaeth cabinet o filiwnyddion sy’n gwarchod eu buddianau eu hunain trwy ddamsgil ar ben y tlotaf yn hytrach na sefyll gyda’th gymdogion a myny fod y cyfoethocaf yn talu eu ffordd?

Eto, mae’n haws cadw ochr y bwli yn yr iard. Gwyn dy fyd tithau.

§

Hirben , Rhagfyr 13, 2011 8:45 pm

Nid yw unrhyw un sydd yn talu trethi yn cael addysg, gofal iechyd ac ati am ddim,”, fel yr awgrymir uchod. Ac er fod gweithwyr y sector gyhoeddus yn dysgu ein plant, gofalu am gleifion ac ati maent yn cael eu talu am hyn, nid ydynt yn ei wneud yn wirfoddol.. Cofier fod llawer o swyddi breision yn y sector gyhoeddus gyda’r rhai sydd yn eu llenwi heb fod yn atebol i gyfranddalwyr a heb gael eu heffeithio gan y diwrasgiad. Bydd wastad siec ar ddiwedd y mis.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.