Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Staff Cyngor Powys yn ‘derbyn hyfforddiant ychwanegol’ ar ôl dirwy

Rhagfyr 7, 2011 11:18, Diweddarwyd am 11:18


Mae staff Cyngor Sir Powys sy’n gweithio gyda gwybodaeth sensitif yn “derbyn hyfforddiant ychwanegol” ar ôl methu a chadw at ddeddfwriaeth data cenedlaethol, meddai’r Cyngor Sir.

Daw hyn wedi cosb ariannol o £130,000 i’r awdurdod gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.  Roedd yr awdurdod wedi datgelu manylion achos gwarchod plentyn i’r person anghywir – gan fethu a chadw at ddeddfwriaeth gwarchod data cenedlaethol.

Mae Arweinydd y Cyngor, Michael Jones wedi dweud bod y Cyngor yn llawn dderbyn  canfyddiadau’r Comisiynwr Gwybodaeth  a’u bod wedi “ymddiheuro am fethu a chadw at Ddeddfwriaeth Gwarchod Data.”

“Camgymeriad dynol oedd gwraidd yr achos gofidus hwn ac rydan ni wedi ymddiheuro i bawb gafodd eu heffeithio am y  gofid y gallai’r datgeliad wedi’i achosi,” meddai.

Fe ddywedodd hefyd fod y cyngor yn disgwyl i staff “yn enwedig y rhai sy’n gweithio mewn adrannau sensitif” i “gynnal y safonau proffesiynol uchaf posibl.”

Fe wnaeth gadarnhau fod camau disgyblu wedi’u cymryd yn erbyn yr aelod staff wnaeth ddatgelu’r wybodaeth.

“Er mai gwall dynol wnaeth chwarae rhan fawr yn y camgymeriad, mae’r cyngor wedi adolygu ei weithdrefnau ac wedi cryfhau ei arferion lle bo’r angen i sicrhau na fydd yr un camgymeriad yn cael ei wneud eto,” meddai.

“Rydym hefyd yn gwella hyfforddiant staff i gryfhau gweithdrefnau diogelu data ymhellach ac yn gweithredu’r argymhellion yn hysbysiad y comisiynydd.”

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.