Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Cyngor yn erlyn gwraig a hawliodd £13,000 o fudd-daliadau drwy dwyll

Rhagfyr 12, 2011 11:32


Llys Ynadon Caerdydd
Mae gwraig o Gaerau wedi pledio’n euog yn Llys Ynadon Caerdydd ar ôl iddi hawlio dros £13,000 o fudd-daliadau drwy dwyll.

Cafodd  Helen O’Hara, o Bantyderi, Caerau, ei herlyn am bum trosedd o dan Ddeddf Gweinyddu Budd-dal Cymdeithasol 1992 ar ôl hawlio Budd-dal tai a Budd-dal Treth Gyngor gwerth £13,072.49, heb iddi fod yn gymwys i’w derbyn, rhwng Tachwedd 2004 a Gorffennaf 2009.

Roedd Helen O’Hara wedi datgan yn ei ffurflenni hawlio budd-dal ei bod yn byw ar ei phen ei hun mewn tŷ oedd wedi ei rentu ar Heol Pantyderi. Ond fe ddarganfuwyd mae ei phartner a thad ei phlant oedd y landlord honedig. Daeth y twyll i’r fei yn ystod ymchwiliad arall i’r landlord honedig.

Cafodd Helen O’Hara  ddedfryd o garchar am naw wythnos, wedi ei ohirio am 12 mis, a 100 awr o waith di-dâl. Bydd hefyd yn gorfod talu costau o £250.

Mae Helen O’Hara, erbyn hyn, wedi symud i ardal Pontyclun.

Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Gymunedau, Tai a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Cynghorydd Judith Woodman: “Mae hyn yn brawf clir nad yw Cyngor Caerdydd yn goddef twyll budd-dal. Gobeithiaf y bydd yr erlyniad hwn yn dangos i’r rheiny sydd am hawlio’n dwyllodrus, mai cael eich dal y byddwch chi yn y pen draw.”

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.