Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Nifer y diwaith yng Nghymru yn cynyddu eto

Rhagfyr 14, 2011 10:31


Mae 133,000 o bobol yng Nghymru yn ddiwaith erbyn hyn, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd y bore ’ma.

Mae’r ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod lefel diweithdra yng Nghymru wedi codi i 11% rhwng mis Awst a Thachwedd eleni – gyda 9.1% o’r boblogaeth nawr yn ddiwaith.

Mae diweithdra yng Nghymru dal yn sylweddol uwch na chyfartaledd y DU o 8.3% – sydd ei hun yn cynrychioli’r lefel diweithdra uchaf ar draws y DU ers 17 mlynedd.

Mae’r ffigyrau’n ergyd mawr i’r Llywodraeth ac i’r cyhoedd wrth baratoi at y Nadolig, ac mae’n ymddangos fod nifer y menywod a’r ifanc sy’n hawlio budd-dal y di-waith wedi codi’n aruthrol am y nawfed mis yn olynol.

Ar draws Prydain, mae diweithdra ymhlith pobol 16 i 24 oed wedi cynyddu 54,000 i 1.03 miliwn, y lefel uchaf ers i’r cofnodion ddechrau yn 1992.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos fod diweithdra ymhlith menywod wedi cynyddu 45,000 ers mis Awst – gan gyrraedd cyfanswm o 1.1 miliwn o fenywod diwaith erbyn mis Tachwedd. Dyma’r ffigwr diweithdra uchaf i fenywod y DU ers 1988.

Mae’r ystadegau hefyd yn dangos fod hawlwyr budd-dâl y di-waith wedi cynyddu 3,000 yn y mis diwethaf, i 1.6 miliwn – y nawfed mis yn olynol i’r ffigwr godi – a’r uchaf ers dechrau 2010.

Fe gododd lefel diweithdra ar draws Prydain rhwng Awst a Tachwedd eleni, heblaw Canolbarth Dwyrain Lloegr, a Gogledd Iwerddon, lle bu gostyngiad o 4,000 yn nifer y diwaith yn y ddau ran.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dewi , Rhagfyr 15, 2011 12:34 am

Mae’n warthus bod y ffigyrau yn waeth yng Nghymru. Oes gan Lywodraeth Cymru wir glem?

Yr unig enghraifft sylweddol a roddwyd ar y newyddion teledu heno o sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio creu swyddi oedd £2 miliwn a wobrwywyd i SWALEC.

Mae pwyslais y Llywodraeth Cymru ar helpu cwmnïau mawr yn anghywir a dylent flaenoriaethu rhoi cymorth i fusnesau bach.

Ond yna dydy busnesau bach ddim yn gallu cyflogi cyfeillion y blaid Lafur Cymreig – gweler Eluned Morgan!! (‘Head of Business Development SWALEC’ – MEP Llafur Cymreig 1994-2009) yn croesawu’r £2 miliwn ar ddiwedd yr adroddiad Wales Today heno :

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-16178387

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.