
Ian Jones
Ar ôl yr hir aros, mae S4C wedi cyhoeddi heddiw y bydd Ian Jones yn dechrau fel Prif Weithredwr newydd y sianel ar 23 Ionawr 2012.
Daeth y newyddion mai Ian ‘Tish’ Jones fyddai’r Prif Weithredwr ym mis Hydref, ond mae ymrwymiadau cytundebol i’w gyflogwyr presennol wedi ei atal rhag dechrau ar y gwaith eleni.
Mae’r brodor o Dreforys yn Reolwr Gyfarwyddwr gyda chwmni teledu A&E Television Networks yn Efrog Newydd ar hyn o bryd, ac roedd problemau ynglŷn â’i ryddhau o’r swydd wedi gorfodi S4C i oedi cyn cyhoeddi enw’r Prif Weithredwr newydd yn y lle cyntaf.
Fe fydd Ian Jones yn cymryd drosodd gan y Prif Weithredwr dros dro, Arwel Ellis Owen, sydd wedi bod wrth y llyw ers ymadawiad swrth Iona Jones yn ôl yn haf 2010.
Cefndir y Prif Weithredwr newydd
Mae S4C yn disgrifio Ian Jones felu “un o uwch reolwyr mwyaf profiadol y byd teledu ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau.”
Mae e wedi gweithio yn y diwydiant ym Mhrydain a thramor ers bron 30 mlynedd erbyn hyn, ac wedi gweithio ar sawl agwedd o’r byd darlledu, gan gynnwys gweithio ar gynhyrchu, cyd-gynyrchiadau a theledu rhyngwladol.
Roedd Ian Jon yn rhan o’r tîm lansiodd S4C yn ôl yn 1982, ac ar ôl gweithio yn adran adloniant rhwydwaith ITV ac fel cynhyrchydd annibynnol ail-ymunodd ag S4C fel Cyfarwyddwr Busnes, S4C Rhyngwladol a Chyd-gynyrchiadau o 1992 i 1997.
Ers hynny mae e wedi bod yn gweithio fel rheolwr a chyfarwyddwr i Scottish Television, United News and Media a Granada International. Fe fu hefyd yn Gadeirydd Cymdeithas Dosbarthu Diwydiant Teledu Prydain am ddwy flynedd.
Rhwng 2004 a 2007 roedd Ian Jones yn Llywydd ar National Geographic Television International, cyn mynd yn Rheolwr Gyfarwyddwr i’r Target Entertainment Group.
Ifan , Rhagfyr 16, 2011 8:49 pm
§