Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Cyhoeddi cynlluniau i greu corff addysg newydd yng Nghymru

Rhagfyr 17, 2011 14:24, Diweddarwyd am 14:26


Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu corff cenedlaethol newydd i ymateb i’r “diffyg hyder” yn y system addysg.

Roedd Mr Andrews yn annerch cynhadledd y Sefydliad Arweinyddiaeth dros Addysg Uwch yng Nghaerdydd ac awgrymodd y buasai ef ei hun yn fodlon cadeirio’r corff newydd.

“Roedd maniffesto’r llywodraeth yn ein ymrwymo i sefydlu corff strategaethol newydd dros gynllunio ac ariannu,” meddai. “Bydd gofyn i’r corff cenedlaethol yma fonitro ac ymyrryd yn rheolaeth sefydliadol cyrff sy’n ymwneud ag addysg a bod yn atebol yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.”

Bydd y sector addysg yn wynebu nifer o newidiadau y flwyddyn nesaf. Mae Mr Andrews eisoes wedi cyhoeddi ei fwriad i adolygu y system arholi yng Nghymru yn dilyn honniadau o ‘dwyllo’ gan arholwyr y bwrdd arholi Cymreig CBAC.

Wrth annerch y gynhadledd, beirniadodd Mr Andrews hefyd y “meddylfryd bychan, plwyfol” oddi mewn i’r sector addysg uwch gan awgrymu y caiff prifysgol newydd ei chreu yn ne-ddwyrain Cymru cyn bo hir.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi bod yn gyndyn hyd yn hyn o uno efo Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd i greu prifysgol newydd o’r fath.

Dywedodd Mr Andrews bod yna achos da dros uno’r sefydliadau yma. “Mi greda’i ei bod yn bryd i ni egluro yn glir y manteision o greu sefydliad metropolitan yn ardal y de ddwyrain,” meddai, gan ychwanegu y buasai’r sefydliad yn hwb sylweddol i economi dinasoedd Caerdydd a Chasnewydd yn ogystal a Morgannwg a chymoedd Gwent.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Adam Jones , Rhagfyr 17, 2011 5:52 pm

Corff arall, pwyllgor arall, Daw problem yng Nghymru? Ffurfiwn bwyllgor a thrafodwn ond a gweithredwn???

§

Steffan Llysdinam , Rhagfyr 18, 2011 8:30 am

A fydd y ‘pwyllgor’ yma’n atebol i’r bobl?

Mae Adran Addysg y Llywodraeth a’r GTCW gyda ni yn barod. Beth maen nhw’n wneud?

Llawer gwell i ofyn i’r sefydliadau sy gyda ni ffeindio atebion i’n ‘herion’.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.