Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Strategaeth i wella ansawdd gofal canser

Rhagfyr 19, 2011 09:57



Mae’n bosib y bydd cleifion canser yn cael rhoi adborth am eu triniaeth a’u gofal i wella ansawdd gofal canser.

Bydd cynllun strategaeth canser newydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar wella gofal canser drwy weithio gyda llywodraethau lleol, y trydydd sector a’r cyhoedd – gyda’r newidiadau’n dod i rym yn 2016, cafodd ei gyhoeddi heddiw.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd, mae canser yn “flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru.”

Mae’n mynd ymlaen i son bod “gwelliannau arwyddocaol” mewn cyfraddau goroesi yng Nghymru ond mae “achosion y clefyd yn cynyddu.”

Dywedodd bod dewisiadau ffordd o fyw yn cael effaith enfawr ar gyfraddau canser yng Nghymru a’i bod yn hanfodol ein bod yn lleihau cyfraddau gordewdra, ysmygu, gorddefnydd cyffuriau ac alcohol ar draws Cymru.”

Mae angen i Fyrddau Iechyd Lleol gefnogi pobl i leihau’r risg ohonynt yn datblygu canser, meddai’r Gweinidog cyn dweud bod rhaid i unigolion hefyd ofalu am eu hiechyd.

‘Croesawu’

Mae Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dweud heddiw ei bod yn “croesawu” gweithredu ar  strategaeth canser newydd i Gymru.

“Mae unrhyw weithred i fynd i’r afael â chanser i’w gymeradwyo,” meddai Kirsty Williams. Ond, mae’n dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru gael “cynllun cynhwysfawr sy’n mynd i’r afael â’r clefyd.”

“Mae’n rhaid i’r Gweinidog Iechyd gymryd cyfrifoldeb o strategaeth Cymru gyfan a pheidio pasio’r cyfrifoldeb ymlaen i’r Byrddau Iechyd lleol,” meddai.

“Dyma glefyd sy’n effeithio pob teulu yng Nghymru ac mae’n rhaid i’r cynllun gael Gweinidog Iechyd  Llywodraeth Cymru yn arwain arno.”

Angen ‘Tsar Canser’

Fe ddywedodd Darren Millar, AC, Ceidwadwyr Cymreig ei fod yn croesawu cynllun canser y Llywodraeth ond fod toriadau iechyd Llafur yn mynd i wneud y cynllun “yn anodd iawn i’r gwasanaeth iechyd gwladol gyflawni.”

“Mae angen i’r cynllun ffurfio rhan o  strategaeth fwy cynhwysfawr i fynd i’r afael â chanser i roi gobaith newydd i gleifion a’u teuluoedd,” meddai.

“Mae gennym nawr gynllun gweithredu, ond mae angen Tsar Canser i Gymru i’n helpu rhoi ffocws ar feddyliau’r Llywodraeth i wella safonau mewn gofal canser.”

Dywedodd hefyd bod angen i weinidogion sefydlu Cronfa Cyffuriau Canser i roi diwedd ar y loteri cod post sy’n bodoli gyda meddyginiaethau yng Nghymru.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.