Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Cynlluniau newydd i ddelio â bridwyr cŵn diegwyddor

Rhagfyr 20, 2011 17:53


John Griffiths
Mae cynlluniau newydd a fydd yn helpu Cymru i ddelio â bridwyr cŵn diegwyddor a gwella safonau lles ar ffermydd cŵn bach ledled Cymru wedi cael eu cyhoeddi heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rheoliadau drafft newydd a fydd yn ei helpu yn yr ymdrech i reoli  bridio cŵn a gwella ansawdd bywyd cŵn yn gyffredinol.

Hon yw’r ail gyfres o reoliadau bridio cŵn y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori yn eu cylch. Cafodd y gyfres gyntaf ei diwygio i adlewyrchu barn y bridwyr a oedd eisoes yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol.

Fe fydd  ymgynghoriad 14 wythnos yn cael ei gynnal ar y rheoliadau drafft newydd a bydd cyfle i fridwyr cŵn roi eu barn.

Wrth gyflwyno’r cynlluniau newydd, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths:  ”Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i godi safonau lles anifeiliaid.

“Fel rhan o’r agenda honno, rydyn ni’n benderfynol o ddelio â bridwyr cŵn diegwyddor sy’n dod ag enw drwg i fridwyr cŵn cyfrifol.

“Mae’r rheoliadau drafft dw i’n eu lansio heddiw wedi’u llunio gan roi sylw i’r ymatebion i’n hymgynghoriad cyntaf a chyfres o gyfarfodydd gyda phobl berthnasol, sydd wedi’i gwneud yn bosibl i ni ystyried yn llawn amrywiaeth o safbwyntiau a phryderon.

“Byddan nhw’n ein helpu ni’n fawr iawn i sicrhau bod safonau lles cŵn yng Nghymru yn eithriadol o uchel a dw i am bwyso ar unrhyw un sydd â buddiant i roi eu barn fel rhan o’r broses ymgynghori.”

Bu John  Griffiths  hefyd yn sôn am ei ddymuniad i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i bob ci yng Nghymru gael microsglodyn.

Dywedodd:  “Mae eisoes yn ofynnol i fridwyr cŵn trwyddedig yng Nghymru roi microsglodyn ym mhob anifail ar eu safle cyn iddo gael ei symud neu ei werthu.

“Fodd bynnag, rydyn ni nawr yn ystyried cynlluniau a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i bob ci yng Nghymru gael microsglodyn. Byddai hyn yn annog perchnogion anifeiliaid anwes i fod yn fwy cyfrifol ac yn helpu i wella lles cŵn ledled Cymru.”

Bydd yr ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft ar fridio cŵn ar agor tan 27 Mawrth.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori drwy broses arall ynghylch cynlluniau microsglodynnu gorfodol yn 2012.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ifor Hughes , Rhagfyr 21, 2011 2:47 am

Pwy sy’n ddiegwyddor y cŵn neu’r bridwyr ?

Roedd da fi gi diegwyddor unwaith aeth e off gyda gast ci drws nesa .

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.