Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Achub yr Eisteddfod: ‘lleoliad parhaol yn Llanelwedd’

Rhagfyr 21, 2011 11:10


Dylai’r Eisteddfod Genedlaethol ddychwelyd i safle parhaol y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd bob yn ail flwyddyn er mwyn arbed arian, yn ol arbenigwr cyllid.

Mae’r Athro Gerald Holtham yn dweud y dylai’r Eisteddfod Genedlaethol fod yn defnyddio maes y Sioe Fawr fel safle parhaol i gynnal yr wyl, a theithio i’r de neu i’r gogledd yn y blynyddoedd rhwng cynnal yr Eisteddfod yn Llanelwedd.

Yn ol Gerald Holtham, academydd a Chadeirydd y Comisiwn ar Gyllido a Chasglu Arian i Gymru, a wnaeth ei sylwadau mewn erthygl i’r Sefydliad Materion Cymreig, byddai cael canolfan barhaol i’w defnyddio bob yn ail flwyddyn yn helpu’r Eisteddfod i gynnal ei hun yn ariannol, heb y costau o orfod sefydlu safle newydd bob tro.

“Yr ateb amlwg yw newid y traddodiad o symud o gwmpas i leoliad newydd bob blwyddyn,” meddai.

“Gallai’r Eisteddfod gael cartref parhaol i’w ddefnyddio bob yn ail flwyddyn, a symud o gwmpas yn y blynyddoedd eraill. Gan fod yr eisteddfod yn teithio rhwng gogledd a de, dylai’r cartref parhaol fod yng Nghanolbarth Cymru, ac mae ’na le amlwg. Gadewch i’r Eisteddfod rannu maes y Sioe Fawr yn Llanelwedd.”

Ond wfftio’r argymhelliad y mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts.

“Dydi’r syniad ddim yn un ymarferol,” meddai wrth Golwg 360 y bore ’ma.

Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal ar faes y Sioe Frenhinol yn ol yn 1993, ond mae Elfed Roberts yn dweud fod y gwaith o drefnu’r Eisteddfod yn y bwlch byr iawn o amser rhwng cynnal y Sioe Fawr, ddiwedd Gorffennaf, a chynnal yr Eisteddfod ddechrau Awst, wedi ei gwneud hi’n anodd iawn.

“Mae ’na gyfleusterau anhygoel o dda yno i sioe amaethyddol – ond mae gwahaniaeth mawr rhwng anghenion Eisteddfod a sioe amaethyddol,” meddai.

“Dwi yn falch fod dyn o galibre yr Athro Gerald Holtham yn gweld gwerth trafod pwnc fel hyn,” meddai Elfed Roberts, “ond dydi’r pwyntiau sy’n cael eu codi ddim yn newydd. Rydan ni’n cael y drafodaeth hyn o hyd. Ond does dim atebion hawdd.

“Nid diffyg ymdrech gan yr Eisteddfod yw hyn – dydi’r syniad jyst ddim yn ymarferol,” meddai Elfed Roberts.

Mynnodd y Prif Weithredwr fod yr Eisteddfod yn edrych o hyd am atebion i arbed arian i’r Wyl, a’u bod wedi gwneud rhai newidiadau ers Eisteddfod Wrecsam yn gynharach eleni, lle wnaed colledion o £90,000 – a hynny’n dilyn colledion o £47,000 yn eisteddfod Blaenau Gwent y flwyddyn gynt.

Dywedodd fod yr Eisteddfod eisoes wedi bod yn ystyried ymweld a safleoedd sefydledig fel safle Sioe Mon ym Mona, a safle Sioe’r Tair Sir yn Sir Gaerfyrddin, ond fod amseru’r Eisteddfod yn cyd-daro a threfniadau nifer fawr o wyliau amaethyddol yn ystod yr haf.

Dywedodd y Prif Weithredwr fod sefydlu un safle parhaol i’r Eisteddfod ddim yn opsiwn ar hyn o bryd chwaith, gan nad oedd gan yr Eisteddfod y cyllid i brynu safle nag i’w ddatblygu a’i gynnal.

“Petai ganddon ni’r arian, mi fyddwn ni’n ystyried hynny, yn bendant,” meddai.

Ond dywedodd Elfed Roberts mai prif amcan yr Eisteddfod ar hyn o bryd oedd ceisio torri lawr ar y colledion y llynedd. Fe fydd yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf yn adlewyrchu rhai o’r arbedion hynny, gan gynnwys cael gwared ar adeilad Maes C, gan symud y digwyddiadau i faes yr Eisteddfod ei hun, a gigs Maes B yn cael eu cynnal ar lwyfan awyr agored yn hytrach na phabell.

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ym Mro Morgannwg yn 2012, rhwng 4 a 11 o Awst.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Martin , Rhagfyr 21, 2011 1:22 pm

Medd yr athro Gerald Holtham;
“Yr ateb amlwg yw newid y traddodiad o symud o gwmpas i leoliad newydd bob blwyddyn,”
Dim mor amlwg i’r Prif Weithredwr, yn ol ei ymateb…

Yn sicr, mi fydd ‘na anawsterau ymarferol yn codi trwy rannu safleoedd, ond ydyn nhw wir yn anoddach i’w goresgyn na beth sy’n digwydd ar hyn o bryd – creu safle o’r newydd bob blwyddyn?

§

Ben , Rhagfyr 21, 2011 2:09 pm

Dydw i ddim o blaid cael yr Eisteddfod yn yr un safle bob tro. Mae’r ‘steddfod deithiol yn rhan o’r traddodiad.

§

Sion , Rhagfyr 21, 2011 2:14 pm

Mae na fanteision mawr o symud o gwmpas, manteision fydde’n mynd ar goll os chi’n setlo mewn un lle neu cwpl o lefydd. Mae teimlad bod yr Eisteddfod yn perthyn i ardal wahanol bob blwyddyn yn gwneud lot ar gyfer y syniad o berchnogaeth pobl dros yr Eisteddfod. Mae parch gyda fi at Gerald Holtham ond ma fe’n edrych ar y peth trwy lygad economegydd (“ateb amlwg” arall i safio mwy o arian fydde canslo’r Eisteddfod – swno’n eithafol ond dyna ben draw’r ddadl). Yn y pen draw, dyw cost yr Eisteddfod i’r wlad ddim yn uchel o ystyried yr effaith. Mae symud o gwmpas Cymru yn rhan hollbwysig o’r Eisteddfod, mae’n deffro’r iaith mewn gwahanol rannau o Gymru, ac yn arwain at bobl yn dysgu CYmraeg, ysgolion Cymraeg newydd, a.y.b

§

Ann Onn , Rhagfyr 21, 2011 3:27 pm

Fasa’n werth arbrofi gyda cynnal yr eisteddfod o fewn ffiniau trefi yng Ngymru?, Llogi neuadd y dref, stondinau yn y strydoedd, ambell i babell yma ac acw. Pam ddim, buasai cymuned gyfa yn enill wedyn, y siopau bach a phawb arall syn dioddef yn ariannol ar y funud.
I fod yn onest, mae’r pafiliwn yn wag heblaw am y prif seremoniau fel y coroni a’r cadeirio ac ambell i gyngerdd!

§

John Griffith , Rhagfyr 21, 2011 4:12 pm

Gigs Maes B yn yr awyr agored? Pwy feddyliodd am hynna?

§

cris , Rhagfyr 21, 2011 5:16 pm

Hyd y gwela i, does neb yn yr erthygl hon yn son am beidio a theithio.

§

Sion , Rhagfyr 21, 2011 5:39 pm

Cris, mae na son yn yr erthygl am ddim ond teithio bob yn ail flwyddyn. Heb son am fod yn “slippery slope” tuag at Eisteddfod hollol static mae hyn yn golygu bydde’r Eisteddfod ddim ond yn mynd i 5 rhan o Gymru mewn 10 mlynedd, yn lle 10 rhan o Gymru. Felly hanner yr effaith, a 5 rhan o Gymru fydd heb gael dylanwad yr Eisteddfod. Mae’r Eisteddfod mewn perygl o fynd yn “stale” fel ma pethe ac yn mynd yn corporate iawn, gyda help y cyfryngau. Bydd cael Eisteddfod mwy llonydd yn adio at hyn. Sai’n credu bydde’r arian fydd yn cael ei safio yn werth yr effaith negyddol ar yr iaith.

§

henri , Rhagfyr 22, 2011 12:22 pm

Duw a’n gwaredo rhag mynd i Lanelwedd. Dach chi’n cofio’r tro dwytha? Roedd y Steddfod fel rhyw bimpl ar gefn buwch yno, mor fach oedd hi’n edrych yn y caeau mawr. Mae Selwyn Jones, Pontrhydfendigaid wedi ei gwadd i Bafiliwn Bont. Ydi Holtham yn gwybod ble mae fanno deudwch?

§

Llywelyn , Rhagfyr 23, 2011 3:30 pm

Aberystwyth yn hytrach na Llanelwedd? :D Digon o dafarndai, y lleoliad delfrydol yn Aber fuasai Caeau Blaendolau, ond efallai fuasai’r Brifysgol ddim yn rhoi caniatad……

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.