Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Henson yn ôl

Rhagfyr 23, 2011 09:11, Diweddarwyd am 11:36


Mi fydd Gavin Henson yn chwarae ei gêm gynta’ dros dîm Gleision Caerdydd heno yn erbyn Dreigiau Gwent.

Dyma’r bennod ddiweddara’ yng ngyrfa’r cymeriad lliwgar sydd wedi rhoi’r gorau i chwarae rygbi yn y gorffennol er mwyn ffilmio rhaglenni realiti ac ymddangos ar Strictly Come Dancing.

Yn fwy enwog fel tad plant Charlotte Church y tu allan i Gymru, roedd Henson yn chwarae’n dda dros Gymru cyn Cwpan y Byd. Ond cafodd ei anafu mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr ac ni deithiodd i Seland Newydd ar gyfer y ffeinals.

Er iddo ddisgleirio dros Gymru yn safle’r canolwr wrth iddyn nhw gipio’r Gamp Lawn yn 2005 a 2008, yn safle’r cefnwr fydd Henson yn cychwyn heno.

Ers ffarwelio gyda’r Gweilch yn 2009 a chyfnod yn seleb ar y teledu, mae Henson wedi treulio cyfnodau gyda’r Saraseniaid yn Lloegr a Toulon yn Ffrainc.

Ond methiant fu’r ddwy ymdrech honno i aldanio’i yrfa, a bellach mae’r dyn 29 oed yn ceisio’i lwc ym mhrifddinas Cymru.

Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland yn edmygu talentau Henson, ac mi fydd yn gobeithio’i weld yn gwneud sioe dda ohoni heno.

Caerdydd v Dreigiau yn fyw ar S4C heno.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


CGT , Rhagfyr 23, 2011 9:51 am

Beth oedd yn ddadleuol am Barry John ?

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.