Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



£15,000 i hyfforddi’n athro Cymraeg

Rhagfyr 23, 2011 14:22


Mi fydd myfyrwyr gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn cael £15,000 i hyfforddi’n athrawon y flwyddyn nesaf.

Bydd y rhai gyda graddau 2:1 a 2:2 yn derbyn llai.

Mae’r Gymraeg, ynghyd â Mathemateg, Ffiseg, Cemeg a Ieithoedd Tramor Modern, ymysg y pynciau sy’n cael blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru wrth ariannu cyrsiau dysgu ôl-radd.

Y tu allan i’r meysydd hyn, dim ond darpar athrawon gyda graddau dosbarth cyntaf fydd yn derbyn nawdd.

Bwriad y grantiau yw cryfhau’r ddarpariaeth yng Nghymru, yn ôl y Gweinidog Addysg Leighton Andrews.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ben , Rhagfyr 23, 2011 3:49 pm

Well i fi ddechre gweithio de!

§

Jones , Rhagfyr 23, 2011 6:59 pm

Braidd gormod dwi’n meddwl!

§| Nodi camddefnydd

Rhys Owain , Rhagfyr 24, 2011 9:29 pm

Beth amdani???? :-)

§

Ifor Hughes , Rhagfyr 25, 2011 1:43 am

Syniad gwych iawn

§| Nodi camddefnydd

Hirben , Rhagfyr 28, 2011 7:53 pm

Sut mae dim ond darpar athrawon gyda gradd dosbarth cyntaf fydd yn derbyn nawdd, pan ddweud yr erthygl fod rhai gyda 2:1 2:2 yn derbyn “llai”. Llai o nawdd, dwi’n cymryd.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.